1 / 14

Cyflwyniad Byr i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn)

Cyflwyniad Byr i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn) Yr Is-adran Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Y Cefndir i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

huslu
Télécharger la présentation

Cyflwyniad Byr i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn)

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cyflwyniad Byr i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn) Yr Is-adran Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru

  2. Y Cefndir i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Cytundeb rhyngwladol byd-eang yw’r Confensiwn sy’n nodi hawliau plant rhwng 0 ac 18 oed. • Mae wedi bodoli ers 21 mlynedd ar ôl i Bwyllgor Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ei fabwysiadu ym 1989. O bob cytundeb rhyngwladol, hwn sydd wedi’i fabwysiadu’n fwyaf eang. • Mae 54 erthygl i’r Confensiwn ei hun. Mae dau brotocol opsiynol sy’n ymwneud â materion a hawliau penodol.

  3. Beth yw hawl? • Mae hawliau dynol yn sylfaenol i bobl er mwyn goroesi a datblygu. Mae gan bob person hawliau dynol, beth bynnag ei oed, ac mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i wneud yn siwr bod pobl yn gallu mwynhau a manteisio ar eu hawliau a bod pobl yn parchu’r hawliau hynny. • Mae angen hawliau arbennig ar blant a phobl ifanc gan eu bod yn fwy agored i niwed nag oedolion. Mae’r Confensiwn yn tynnu ynghyd hawliau dynol yn un confensiwn rhyngwladol. • Mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i sicrhau bod pawb yn deall ac yn parchu Hawliau Plant – mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd, gofalwyr, athrawon etc.

  4. O fewn y Confensiwn, mae hawliau yn:- Cyffredinol – Yr un peth i bawb, ni waeth beth fo’u hil, rhyw, crefydd, gwleidyddiaeth etc Anwahanadwy – Maent yr un mor bwysig ac yn ddibynnol ar ei gilydd Anhrosglwyddadwy – Mae gan bawb hawliau dynol ac ni ellir eu cymryd oddi arnoch Mae’n bwysig cofio hefyd eu bod yn ddiamod – nid oes rhaid ichi ymddwyn mewn ffordd benodol neu gymhwyso. Mae bod yn fyw yn ddigon!

  5. Pa fath o Hawliau sydd yn y Confensiwn? Amddiffyn, Darparu a Chyfranogi a) Egwyddorion Cyffredinol b) Hawliau a Rhyddid Sifil c) Amgylchedd Teuluol a Gofal Amgen ch) Iechyd a Lles Sylfaenol d) Addysg, Hamdden a Gweithgareddau Diwylliannol f) Amddiffyn a Diogelwch

  6. Gweithredwr Dyletswydd Yn cyflawni ei gyfrifoldeb tuag at Yn hawlio gan Deiliad yr Hawliau Deiliaid yr Hawliau a Gweithredwyr Dyletswydd

  7. Ymrwymiad Cynulliad Cymru i’r Confensiwn • Mabwysiadodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail ar gyfer llunio polisi ar gyfer plant a phobl ifanc (0-25 oed) yng Nghymru ym mis Ionawr 2004 yn swyddogol a chafodd gefnogaeth gref gan bob un o bleidiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. • Datblygwyd Saith Nod Craidd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc i grynhoi’r Confensiwn, i helpu gyda gwaith cynllunio cenedlaethol a lleol a gwaith darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc.

  8. Sylwadau Clo Pwyllgor y CU Ym mis Hydref 2008, cyhoeddodd pwyllgor y CU eu ‘Sylwadau Clo' a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth y Cynulliad dipyn o waith i’w wneud o hyd, er gwaethaf rhai llwyddiannau. Tynnodd y sylwadau clo sylw penodol at: - y bwlch rhwng polisi ac arfer - y lefelau isel o ymwybyddiaeth o’r Confensiwn - yr angen am ddeddfwriaeth Ym mis Gorffennaf 2009, cyhoeddodd cyn-Brif Weinidog Cymru y byddai’n ystyried y posibilrwydd o gyflwyno Mesur i wneud egwyddorion y Confensiwn yn rhan o gyfraith Cymru. Ym mis Tachwedd 2009, lansiwyd Gwneud Pethau’n Iawn, y cynllun gweithredu cyntaf erioed i’w lansio ar gyfer Cymru mewn perthynas â’r Confensiwn. Nododd hwn 16 maes blaenoriaeth a 90 cam gweithredu.

  9. Blaenoriaethau Gwneud Pethau’n Iawn • Mynd i’r afael â thlodi plant • 2) Sicrhau canlyniadau da i’r rhai mwyaf agored i niwed • 3) Codi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn • 4) Lleihau’r bwlch rhwng polisi a chanlyniadau • 5) Gwella cyrhaeddiad o ran dysgu • 6) Helpu o ran lles emosiynol • 7) Gwella cyfleoedd i chwarae’n ddiogel • 8) Cynyddu’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn penderfyniadau • 9) Rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn y rhai sydd ag anableddau

  10. Blaenoriaethau Gwneud Pethau’n Iawn (parhad) 10) Ei gwneud yn anghyfreithlon cosbi’n gorfforol 11) Cael gwared â phob math o fwlio 12) Sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gallu manteisio ar eu hawliau 13) Rhoi terfyn ar wahaniaethu ac anghydraddoldeb ar sail oedran 14) Sicrhau bod y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn manteisio ar eu hawliau 15) Gwneud y broses gyllidebu yn fwy tryloyw 16) Sicrhau bod y rhai yn y system cyfiawnder troseddol yn gallu manteisio ar eu hawliau

  11. Gwell Lles 3 Gwybodaeth am Hawliau a Dealltwriaeth ohonynt 1 Mwy o Ddefnydd ar Hawliau 2 Sut Gall Hawliau Ysgogi Newid

  12. Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)

  13. Beth sydd yn y Mesur? Yn fras Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi Sylw Dyledus i’r Confensiwn – Adran 1 Cynllun y Plant – Adran 2 Llunio’r Cynllun ac Adrodd arno - Adrannau 3 a 4 Dyletswydd i Hybu Gwybodaeth o’r Confensiwn - Adran 5 Pwer i Ddiwygio’r Ddeddfwriaeth Gyfredol a’i halinio â’r Confensiwn – Adran 6 Cymhwyso i Bobl Ifanc (18-24 oed) – Adran 7 Y Confensiwn – Adran 8 a’r Atodlen

  14. Dyddiadau Allweddol i’w Cofio Mai 2011 Y Mesur yn dod yn ddeddf a phob dyletswydd yn dod yn weithredol ac eithrio Adran 1 y ddyletswydd i roi Sylw Dyledus 31 Mawrth 2012 Gosod y Cynllun Drafft cyntaf gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Mai 2012 Rhaid i Weinidogion Cymru roi Sylw Dyledus i’r Confensiwn wrth wneud penderfyniad am ddatblygu polisi a deddfwriaeth 1 Mai 2014 Rhaid i Weinidogion Cymru roi Sylw Dyledus i’r Confensiwn wrth arfer eu swyddogaethau gan ddefnyddio dyletswydd neu bwer cyfreithiol

More Related