1 / 12

Nadolig ar y Ffrynt

Pwyswch ‘ESC’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad. Nadolig ar y Ffrynt. Rhan 2. gan Des Quinn a Martin Williams. 1. 2. 3. 4. 5. 6. Cliciwch ar Gerdyn Nadolig rydych am wybod mwy amdano. Gwaith Estynnol. Gofyn am beth mae’r milwr wrth yr angel cyn y gall fynd ymlaen at y ffosydd?.

zuwena
Télécharger la présentation

Nadolig ar y Ffrynt

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Pwyswch ‘ESC’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad Nadolig ar y Ffrynt Rhan 2 gan Des Quinn a Martin Williams

  2. 1. 2. 3. 4. 5. 6. Cliciwch ar Gerdyn Nadolig rydych am wybod mwy amdano. Gwaith Estynnol

  3. Gofyn am beth mae’r milwr wrth yr angel cyn y gall fynd ymlaen at y ffosydd? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn

  4. Pa gorfflu a gynhyrchodd y cerdyn hwn? Cliciwch yma i weld y tu fewn i’r cerdyn Pam yn eich barn chi roedd catrodau gwahanol yn cynhyrchu eu cardiau eu hunain? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn

  5. Edrychwch ar y delweddau ar hyd ymylon y cerdyn hwn. Am beth ac am bwy y mae’r milwyr yn meddwl, ac yn teimlo’u colli, wrth iddynt yfed llwncdestun? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn

  6. Pryd y cafodd y Cerdyn Nadolig hwn ei gynhyrchu a beth mae’n ei ddangos?Pryd mewn gwirionedd y cyrhaeddodd y cerdyn ben ei daith? Pwy yn eich barn chi a gynhyrchodd y cerdyn hwn a beth a’ch helpodd chi i benderfynu? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn

  7. Beth sy’n gwneud hwn yn Gerdyn Nadolig mor effeithiol i’w anfon o’r ffosydd?Meddyliwch am yr amodau gwirioneddol o gwmpas llawer o’r ffosydd a phwy all fod wedi derbyn y cerdyn hwn. Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn

  8. Mae’r cerdyn Nadolig hwn yn nodi’r gwledydd a’r ardaloedd y bu’r 4ydd Adran yn rhyfela ynddynt. Beth mae hynny’n ei ddweud wrthych am y balchder a deimlai bob Adran o’r fyddin?Gan ddefnyddio atlas neu fap, ceisiwch gael gwybod ymhle mae pob un o’r ardaloedd ac ym mha wlad y maent? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn

  9. O ble daw y geiriau a welir ar y cerdyn post hwn? Am beth mae’r milwr hwn o’r 38ain Adran yn meddwl yn ystod y Nadolig? Cynhyrchwyd y cerdyn post hwn yn 1917 Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn

  10. ‘Blwch Anrheg y Dywysoges Mary’, Nadolig 1914 Pam yn eich barn chi roedd y Dywysoges Mary eisiau i flychau anrheg gael eu gwneud ar gyfer milwyr Prydain yn 1914? Lansiwyd y cynllun i wneud blychau anrheg i’r milwyr ym mis Hydref 1914 gyda’r bwriad o gyflwyno blwch anrheg i bob un oedd ‘yn gwisgo lifrai’r Brenin ar Ddydd Nadolig’. Roedd y blwch wedi’i wneud o bres gyda phenddelw a blaenlythrennau’r Dywysoges Mary. Ar gyfer ysmygwyr, roedd y tun yn cynnwys pibell, baco, ugain o sigaréts, ffotograff bychan o’r Dywysoges a cherdyn Nadolig. Os nad oeddynt yn ysmygu, roedd y milwyr yn derbyn tun ac ynddo bensel a wnaed ar ffurf bwled (gweler y sleid nesaf).

  11. Roedd Blwch y Dywysoges Mary a welir yma’n cynnwys neges o Longleat. “The Marchioness of Bath has been requested by Colonel Hooke of the 7th Wilts. Regiment to forward to Rte. A.R. Coombes The enclosed gift from H.R.H. Princess Mary.” Edrychwch ar y dyddiad yr anfonwyd y llythyr hwn, a hefyd Flwch y Dywysoges Mary, ar y sleid nesaf. Delwedd trwy garedigrwydd Des Quinn

  12. A barnu o’r dyddiad yr anfonwyd y llythyr hwn, a dderbyniodd pob un o’r milwyr eu hanrhegion Nadolig mewn pryd? Pam yn eich barn chi roedd Ardalyddes Bath yn anfon Blychau’r Dywysoges Mary at filwyr o gatrawd y 7th Wiltshire?

More Related