1 / 16

MAE HELP AR Y FFORDD

MAE HELP AR Y FFORDD. Sawl blwyddyn yn ôl, bu llifogydd ofnadwy a oedd wedi achosi dilyw mewn tref fach mewn dyffryn rhwng dwy afon.Roedd y ddwy afon wedi gorlifo’u glannau a’r glaw yn dal i syrthio. Dechreuodd y dref suddo’n araf a gadawodd pawb ond am un dyn a oedd yn gwrthod gadael ei d ŷ.

nash
Télécharger la présentation

MAE HELP AR Y FFORDD

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. MAE HELP AR Y FFORDD

  2. Sawl blwyddyn yn ôl, bu llifogydd ofnadwy a oedd wedi achosi dilyw mewn tref fach mewn dyffryn rhwng dwy afon.Roedd y ddwy afon wedi gorlifo’u glannau a’r glaw yn dal i syrthio. Dechreuodd y dref suddo’n araf a gadawodd pawb ond am un dyn a oedd yn gwrthod gadael ei dŷ.

  3. “Mae gen i ffydd y bydd Duw yn fy achub,” gwaeddodd y dyn ar bawb a oedd yn ymbil arno i adael a ffoi i dir uwch. Credai’r dyn yng ngrym gweddi ac roedd yn ymddiried y byddai Duw’n ei achub ryw ffordd.

  4. Wrth i’r dŵrorchuddio’r ffyrdd fel na allai ceir a cherbydau fynd arnynt, gwaeddodd dyn mewn tryc ato “Dere gyda fi ac fe a i â ti i le diogel! Does dim llawer o amser gen ti.” Ond parhaodd y dyn i weddïo. Nid oedd yn fodlon gadael ei dŷ.

  5. O fewn oriau, roedd y dŵr wedi codi sawl troedfedd gan orchuddio’i dŷ yn gyfan gwbl. Roedd yn dal i fwrw glaw. Dringodd y dyn ar ben ei fwrdd yn y gegin a pharhaodd i weddïo. Wrth i’r dŵr gyrraedd ei draed, daeth cwch hwylio at y dyn. Dyma’r dynion yn gweiddi arno, “Syr, dewch i mewn i’r cwch, byddwn yn eich cludo i le diogel”. “Na” gwaeddodd y dyn “Bydd Duw yn fy achub rhag y dilyw.”

  6. Aeth y dŵr yn ddyfnach ac yn fuan roedd yn rhaid i’r dyn ddringo ar do ei dŷ. Parhaodd i fwrw hen wragedd a ffyn. Tra oedd yn gweddio, clywodd sŵn hofrennyd yn troelli yn yr awyr uwchben. Edrychodd i fyny i weld yr hofrennydd yn hofran uwch ei dŷ. Roedd ysgol wedi ei gollwng o’r hofrennydd er mwyn iddo ddringo i’r hofrennydd.

  7. “Ewch i ffwrdd” gwaeddodd y dyn wrth yr hofrennydd.“Byddwch yn fy chwythu oddi ar fy nho! Bydd Duw yn fy achub! Ewch i achub rhywun arall.” Nid oedd yr hofrennydd yn gallu aros am byth, felly gadawodd y dyn ar y to yn gweddïo.O’r diwedd, roedd y dŵr yn gorchuddio’r tŷ a bu farw’r dyn yn y dilyw.

  8. Pan gyrhaeddodd y dyn gatiau’r nefoedd, gofynnodd i Sant Pedr a allai siarad â Duw ac aeth Pedr ag ef i’w weld.

  9. “O Arglwydd, bum yn gweddïo’n daer am i’r glaw beidio ac i chi fy achub rhag y dilyw ond gadawsoch i mi foddi. Nid wyf yn deall.” “Fy mhlentyn, clywais dy weddi. Anfonais gerbyd, cwch a hofrennydd. Pam yr anfonaist yr help oddi yno?”

  10. Nid yw Duw yn ateb ein gweddïau yn y ffordd rydym yn ei ddisgwyl bob tro. Ond mae’n ateb. Mae Duw yn gweld y llun ehangach a gallwn ymddiried yn y ffaith na fydd yn ein gadael nac yn cefnu arnom. Dylem hefyd gofio bod Duw yn gweithredu trwy bobl gyffredin fel y bobl a oedd yn achub yn y stori. Pan rydym yn cynnig help neu weithredoedd o garedigrwydd i rywun arall, efallai ein bod yn ateb eu gweddïau.

More Related