1 / 46

Rheoli Perfformiad Rhan B: RhP Penaethiaid

Rheoli Perfformiad Rhan B: RhP Penaethiaid. Rhoi'r Rheoliadau Diwygiedig Rheoli Perfformiad ar gyfer Rheoli Perfformiad Penaethiaid ar waith (i’w roi ar waith yn 2013). Amcanion y Sesiwn. Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol

jarah
Télécharger la présentation

Rheoli Perfformiad Rhan B: RhP Penaethiaid

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Rheoli Perfformiad Rhan B: RhP Penaethiaid Rhoi'r Rheoliadau Diwygiedig Rheoli Perfformiad ar gyfer Rheoli Perfformiad Penaethiaid ar waith (i’w roi ar waith yn 2013)

  2. Amcanion y Sesiwn • Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol • Adolygu rôl rheoli perfformiad ar gyfer y pennaeth wrth godi safonau • Adolygu sut mae rheoli perfformiad y pennaeth yn rhan o broses gwella'r ysgol • Adolygu gweithredu proses rheoli perfformiad y pennaeth gan gynnwys rolau a chyfrifodebau'r rhai sy'n rhan ohoni

  3. Atgrynhoi a Throsolwg o'r Gofynion Rheoli Perfformiad Diwygiedig

  4. Gofynion Diwygiedig Amserlen • Rheoliadau Diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012 • Defnyddio'r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012 Diwygiadau • Mae gan reoli perfformiad gysylltiad clir â • safonau a phrofiadau proffesiynol • blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol • data perfformiad disgyblion • cynnydd tâl lle y bo'n briodol • Cynnwys yr ALl yn fwy: rhaid i'r ALl enwebu un neu ddau o gynrychiolwyr fel gwerthyswyr ar banel gwerthuso'r pennaeth • Rhaid i'r PSA gael copi o'r datganiad gwerthuso • Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid • Dylech gadw dogfennau Rheoli Perfformiad am o leiaf 3 blynedd

  5. Diben Rheoli Perfformiad ‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac arweinwyr timau ysgolion. Mae'n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr i gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a'u hadolygu yng nghyd-destun cynllun gwella'r ysgol. Mae'n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Canllawiau Llywodraeth Cymru Mai 2012

  6. Rôl Rheoli Perfformiad yn y Broses Gwella Ysgolion Mae Rheoli Perfformiad yn cefnogi • rhoi gweledigaeth yr ysgol ar waith • ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau • athrawon i ddiwallu anghenion plant a chodi safonau • rhannu arfer effeithiol Mae Rheoli Perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i • ddatblygu'r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd • lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol

  7. Y Cylch Gwerthuso • Bydd y pennaeth yn pennu amser y cylch gwerthuso i bob athro • Rhaid i'r corff llywodraethu bennu cylch gwerthuso ar gyfer y pennaeth • Fel arfer blwyddyn fydd hyd y cylch gwerthuso

  8. Y Cylch Gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu Gwerthuswr Dadansoddiad strategol Datganiad gwerthuso a Gosod Amcanion Gwerthusai Cytuno ar amcanion Monitro Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwi addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy'n briodol i rôl yr athro

  9. Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae'r Polisi Rheoli Perfformiad yn • Cefnogi gweledigaeth yr ysgol • Cyfrannu at wella cyflawniad a lles disgyblion; • Helpu gyda datblygiad proffesiynol yr holl staff • Meithrin naws ymddiriedaeth rhwng yr athro a'r gwerthuswr, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl; • Annog rhannu arfer da; • Yn sail i ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol • Bodloni'r rheoliadau statudol diwygiedig B. Sut ydych chi'n gwybod bod y broses RhP yn effeithiol ac yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. Oes unrhyw agweddau ar RhP y mae angen eu hadolygu a'u gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso'r drafodaeth

  10. Rolau a Chyfrifoldebau

  11. Rolau a Chyfrifoldebau yn y Broses Rheoli Perfformiad Aelodau Allweddol • Y corff llywodraethu/y corff priodol • Y Pennaeth • Y Panel Gwerthuso • Yr Awdurdod Lleol • Llywodraeth Cymru

  12. Cyfrifoldebau'r Corff Llywodraethu dros Reoli Perfformiad y Pennaeth Rhaid i'r corff llywodraethu/corff priodol: • Benodi Panel Gwerthuso i • adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso • cytuno ar amcanion ar gyfer y pennaeth • cytuno ar ddatganiad gwerthuso blynyddol • monitro perfformiad y pennaeth yn rheolaidd • Cynnwys person/pobl a enwebwyd gan yr Awdurdod Lleol ar banel gwerthuso a phroses rheoli perfformiad y pennaeth • Sicrhau y cynhelir proses rheoli perfformiad y pennaeth yn unol â gofynion statudol

  13. Rôl y Pennaeth yn ei Broses Rheoli Perfformiad ei Hun • Trafod a gosod amcanion gyda gwerthuswyr • Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu gan gynnwys:- • adolygu ei berfformiad ei hun gan ddefnyddio safonau arweinyddiaeth • cynnal a chadw ei gofnod AYD • mynychu cyfarfodydd adolygu perfformiad anffurfiol gyda'r panel gwerthuso yn ystod y flwyddyn • Awgrymu amcanion ar gyfer y cylch nesaf • Ystyried y datganiad arfarnu • Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol

  14. Cyfrifoldebau'r Pennaeth • Trafod a gosod amcanion gyda'r panel gwerthuso o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol • Hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data perthnsaol a thystiolaeth o berfformiad • Cymryd rhan wrth fonitro trefniadau a chynnal a chadw cofnod datblygu adolygu ac arfer diweddar • Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol • Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol

  15. Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae'r gwerthusai (y pennaeth) yn: 1. trafod a gosod amcanion gyda'r panel gwerthuso o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol? 2. hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth priodol? 3. cymryd rhan wrth fonitro trefniadau a chynnal a chadw arfer a'i gofnod arfer, adolygu a datblygu? 4. cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? 5. trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol? B. Sut mae RhP yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau ar RhP y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso'r drafodaeth

  16. Rôl y Panel Gwerthuso Rhaid i'r panel arfarnu: • gytuno a chofnodi amcanion gyda'r pennaeth • fonitro ac adolygu perfformiad trwy'r cylch • drafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol y pennaeth • baratoi'r datganiad gwerthuso blynyddol • ddarparu copi o'r datganiad gwerthuso i'r Pennaeth, Cadeirydd y Corff Llywodraethu a'r Prif Swyddog Addysg • ddarparu copi o ddatganiad amcanion y pennaeth i Estyn ar gais

  17. Nodweddion y Gwerthuswr Mae nodweddion y gall y corff llywodraethu eu hystyried yn cynnwys: • sgiliau cyfathrebu da • sgiliau rhyngbersonol da • sgiliau caffael gwybodaeth a dadansoddi data da gan gynnwys y gallu i ddeall, dehongli a dadansoddi dangosyddion perfformiad allweddol sy'n ymwneud â pherfformiad yr ysgol • perthynas waith dda gyda'r pennaeth, gan gynnwys ei ymddiriedaeth a'i barch • dealltwriaeth dda o swydd y pennaeth • digon o amser i ymgymryd â'i rôl fel arfarnwr a gwneud cyfiawnder â'r broses. • bod yn gyfarwydd â chynllun hyfforddi'r ysgol a'r gyllideb briodol • bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau rheoli perfformiad

  18. Hunanasesiad Gwerthuswr • Dylai gwerthuswyr gwblhau hunanasesiad i nodi eu hanghenion datblygu. • Gellir gwneud mwy o hyfforddiant yn y meysydd datblygu a nodir i sicrhau cynnal eu rôl yn effeithiol • Nodir Canllawiau Llywodraeth Cymru y dylai'r holl arfarnwyr gael eu hyfforddi'n briodol i ymgymryd â'r rôl hyderus iawn angen datblygu • sgiliau cyfathrebu da • sgiliau rhyngbersonol da • sgiliau caffael gwybodaeth da • y gallu i farnu perfformiad yn seiliedig ar dystiolaeth bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau rheoli perfformiad.

  19. Penodi'r Panel Gwerthuso • O leiaf dau lywodraethwr wedi'u penodi gan y corff llywodraethu • Un neu ddau wedi'u penodi gan yr ALl • Yn ogystal, lle ceir gwerthusiad pennaeth ysgol â chymeriad crefyddol, gall yr Awdurdod Esgobaethol benodi arfarnwr • Lle mae'r amser sy'n cael ei dreulio gan bennaeth yn addysgu yn gyfran sylweddol o'i rôl, dylid ystyried cynnwys arfarnwr â Statws Athro Cymwysedig (SAC) • Ni all unrhyw lywodraethwr gael ei benodi fel gwerthuswr y pennaeth os ydynt yn athro neu'n aelod o staff yr ysgol

  20. Enwebai/Enwebeion yr Awdurdod Lleol Bydd yr ALl yn: • enwebu un neu ddau gynrychiolydd a fyddai fel arfer â gwybodaeth am yr ysgol, rôl y pennaeth a blaenoriaethau'r ALl perthnasol • rhoi ystyriaeth benodol i gynnwys gwerthuswr â Statws Addysgu Cymwys (SAC) lle y bo'n addas • ymgynghori â'r pennaeth a fydd yn cael ei benodi i gwerthuswyr

  21. Trefniadau Rhanbarthol ar gyfer Penodi Enwebeion Awdurdod Lleol Bydd Prif Swyddog Addysg yr Awdurdod Lleol yn enwebu un gwerthuswr, ac mae ganddo'r hawl i enwebu ail gwerthuswr: • pan fydd ysgol mewn amgylchiadau heriol • pan fydd ysgol mewn categori monitro Estyn • ar gais gan y pennaeth, mewn cytundeb â'r Prif Swyddog Addysg • ar gais gan y Corff Llywodraethu drwy gytundeb â'r Prif Swyddog Addysg

  22. Enwebai/enwebeion yr ALl • Enwebeion cyntaf yr Awdurdod Lleol fydd swyddog gwella ysgolion y consortiwm (SGYC) sy'n gyfrifol am rôl graidd monitro a herio ar ran yr Awdurdod Lleol • Yr ail fydd gwerthuswr wedi'i hyfforddi sy'n bodloni'r meini prawf yn yr arweiniad, ac a fydd yn un o'r canlynol: • swyddog Awdurdod Lleol o Awdurdod Lleol yr ysgol • swyddog Awdurdod Lleol o Gonsirtiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru • Pennaeth sy'n gymheiriad o Gonsortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru • Bydd Prif Swyddog Addysg yr Awdurdod Lleol yn sicrhau bod gan bob enwebai ddealltwriaeth gadarn o'r • Ysgol a'i chyd-destun • Data perfformiad a gwybodaeth yr ysgol • Safonau Arweinyddiaeth Cyfeiriwch at y Papur Briffio ar y Broses Ranbarthol

  23. Myfyrio a Thrafod – Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae arfarnwyr yn • Cynllunio'r cylch gwerthuso gyda'r gwerthusai? • Gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol? • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol? • Parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch RhP (adolygiad ffurfiannol)? • Gweithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad? • Cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)? • Trefnu i'r datganiad gwerthuso fod ar gael i'r personél priodol? B. Sut mae RhP yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 3 i hwyluso'r drafodaeth

  24. Adolygu'r Perfformiad

  25. Y Cyfarfod Gwerthuso Blynyddol Cyfle ffurfiol i: • gydnabod cyflawniadau a dathlu llwyddiant • trafod meysydd ar gyfer gwella • cytuno ar flaenoriaethau, gan gynnwys amcanion ar gyfer y cylch Rheoli Perfformiad canlynol

  26. Yr Adolygiad Perfformiad • Rhaid i'r gwerthuswyr a'r pennaeth gynnal adolygiad gwerthuso blynyddol gyda'r amcan o • Asesu'r graddau y mae'r pennaeth wedi cyflawni'r amcanion ar gyfer y cylch • Pennu a fu llwyddiant cyffredinol mewn perfformiad wrth gadarnhau bod y pennaeth wedi bodloni'r safonau proffesiynol ar gyfer penaethiaid - y safonau arweinyddiaeth • Nodi'r angen ar gyfer cefnogaeth, hyfforddiant a datblygiad ychwanegol • Dylid ystyried PRD y pennaeth wrth adolygu perfformiad

  27. Paratoi ar gyfer yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol • Caniatáu digon o amser ar gyfer adolygiad • Rhaid i'r pennaeth gael gwybod yn ysgrifenefig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 niwrnod ysgol ymlaen llaw. • Rhaid anfon y Cofnod Adolygu a Datblygu Proffesiynol (PRD) at werthuswyr o leiaf 5 niwrnod cyn y cyfarfod adolygu.

  28. Paratoi ar gyfer yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol • Penodi cadeirydd ar gyfer y Panel Gwerthuso • Pennu sut i gadw cofnodion ac ysgrifennu datganiad gwerthuso • Nodi data a thystiolaeth briodol i'w ddefnyddio yn unol â'r rheoliadau • Penderfynu sut caiff amcanion o'r cylch diwethaf eu hystyried • Dylai'r pennaeth hunanfyfyrio cyn y cyfarfod • Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu

  29. Hunanfyfyrio'r Pennaeth Dylai'r pennaeth ystyried perfformiad yn erbyn: • Ei asesiad ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion • Tystiolaeth o berfformiad yn y cylch • Manteision unrhyw ddatblygiad proffesiynol a gafwyd • Adolygiadau a gynhaliwyd mewn unrhyw flwyddyn • Unrhyw ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad • Amcanion posib ar gyfer y cylch nesaf

  30. Dogfennaeth i'w hystyried • Unrhyw ddata a gwybodaeth perfformiad ysgol perthnasol • Cynllun Gwella Ysgol • Y cofnod hunanwerthuso ysgol • Cynllun ôl-arolygiad Estyn • Safonau Arweinyddiaeth o fewn y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru • Deunyddiau perthnasol o adolygiadau'r awdurdod lleol - matrics categoreiddio rhanbarthol

  31. Dylech ystyried: • Adolygu, trafod a chadarnhau tasgau, amcanion a safonau hanfodol y pennaeth • Cydnabod cryfderau a chyflawniadau a ffactorau y tu hwnt i'w reolaeth • Cadarnhau gweithredu a gytunwyd mewn adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn • Nodi meysydd i'w datblygu a sut i'w bodloni • Cydnabod anghenion datblygiad proffesiynol • Cytuno ar amcanion clir a chwblhau cynllun unigol ar gyfer y flwyddyn i ddod

  32. Llunio Barn Rhaid i'r panel arfarnu a'r pennaeth asesu • i ba raddau y bodlonwyd yr amcanion • a yw'r perfformiad cyffredinol wedi bod yn llwyddiannus • a yw'r pennaeth yn parhau i fodloni'r safonau proffesiynol ar gyfer penaethiaid • yr angen am hyfforddiant a datblygu cefnogaeth

  33. Gosod Amcanion

  34. Gosod yr Amcanion • Byddai tri amcan fel arfer yn ddigonol • Dylai amcanion y penaethiaid • gyfrannu at wella datblygiad disgyblion yn yr ysgol • ystyried tystiolaeth briodol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol • Canolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu lle gellir llunio barn sy'n seiliedig ar dystiolaeth

  35. Rhaid i amcanion fod yn berthnasol i:- • arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol • disgrifiad swydd y pennaeth • unrhyw feini prawf cynnydd tâl priodol • unrhyw amcanion ysgol gyfan neu dîm cyfan a nodir yng nghynllun gwella'r ysgol • y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer penaethiaid fel a nodir gan Weinidogion Cymru • unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan Weinidog Cymru

  36. Mae angen i'r nodau fod yn …. • Glir: heb unrhyw bosibilrwydd o amwysedd neu ddryswch ynglŷn â'r deilliant a fwriedir. • Cryno: gan ddefnyddio cyn lleied o eiriau â phosib i gyfleu'r bwriad. • Mesuradwy: wedi'u mynegi fel y gellir cytuno ar feini prawf a fydd yn dangos a yw'r nod wedi'i gyflawni ai peidio. • Heriol: yn ddigon heriol, o gofio amgylchiadau'r ysgol, i gyflawni gwelliant sylweddol. • Datblygol: yn cefnogi gwelliant yn yr ysgol a'r arfarnai

  37. Nodau SMART • Strategol- gweledigaeth, ysgol gyfan, canolbwyntio ar y disgyblion • Trefnus- ynghlwm wrth feini prawf llwyddiant, rhoi ar waith • Cyflawnadwy- amserlen, llwyth gwaith, arweinyddiaeth • Perthnasol - i'r ysgol, a blaenoriaethau lleol, cenedlaethol a phersonol • Meddylgar- myfyriol, canolbwyntio ar bobl

  38. Nodi Datblygiad Proffesiynol Dylai datblygiad proffesiynol: • gefnogi'r pennaeth wrth wella gwybodaeth a sgiliau • cefnogi amcanion cytunedig • datblygu cryfderau • mynd i'r afael â meysydd ar gyfer datblygiad personol neu dwf proffesiynol

  39. Monitro Perfformiad

  40. Monitro Perfformiad • Dylai gweithdrefnau monitro: • gael eu trafod a'u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio • cynnwys amrywiaeth o ddulliau • Dylid monitro cynnydd drwy gydol y flwyddyn • Dylid casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol i sicrhau llunio barn sicr • Rhaid i'r pennaeth gadw cofnod adolygu a datblygu arfer diweddar (PRD)

  41. Monitro Gweithgarwch Dylai bod amrywiaeth o weithgarwch monitro sy'n casglu digon o dystiolaeth briodol er mwyn sicrhau y ceir barn sicr. Gellir casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys:- • Cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng y panel arfarnu a'r pennaeth • Cofnod PRD y pennaeth • Cynllun Gwella Ysgol • data a gwybodaeth perfformiad ysgol • Proses hunanwerthuso barhaus yr ysgol • Arsylwadau addysgu (lle y bo'n addas)

  42. Arsylwadau Addysgu i Benaethiaid • Rhaid bod gan arsylwyr Rheol Perfformiad SAC • Dylid cynnal arsylwadau yn ystod gwersi a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw • Rhaid rhoi o leiaf 5 niwrnod ysgol o rybudd • O leiaf un arsylwad y flwyddyn ar gyfer rheoli perfformiad - caniateir mwy â chaniatâd • Rhoddir adborth cyn gynted â phosib (o fewn 5 niwrnod gwaith fel arfer) • Dylid cofnodi canlyniad yr arsylwi, gan gynnwys adborth • Dylai fod gan benaethiaid gyfle i ychwanegu sylwadau

  43. Rheoli Tanberfformiad • Nid yw'r cyfarfod adolygu a'r datganiad gwerthuso'n rhan o weithdrefnau disgyblu cymhwysedd na gallu ffurfiol. • Bydd rheoli llinell effeithiol â disgwyliadau clir a chefnogaeth briodol yn helpu wrth nodi a chyfeirio at unrhyw wendid mewn perfformiad. • Gall y rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch materion perfformio, tâl, dyrchafu, y diswyddo neu ddisgyblu ystyried datganiadau gwerthuso

  44. Amgylchiadau Eithriadol • Lle ceir penderfyniad i gychwyn ar weithdrefn cymhwysedd neu allu, yna bydd y weithdrefn honno'n disodli'r trefniadau Rheoli Perfformiad • Gellir gohirio'r broses RhP unrhyw bryd

  45. Broses Rheoli Perfformiad Dyma nodweddion arfer gorau mewn rheoli perfformiad: • ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles disgyblion; • gwerthfawrogi'r rôl hanfodol sydd gan benaethiaid; • ymrwymiad i berfformiad a lles staff; • ymddiriedaeth rhwng y pennaeth a'r panel arfarnu, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl; • annog rhannu arfer da; • integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol.

  46. Ac yn olaf...... ‘Mae rheoli perfformiad yn rhoi sylw i wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli Perfformiad i Benaethiaid LlC 074/2012

More Related