1 / 49

Dr Arne Pommerening, Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth

Cyflwyniad i Goedwigaeth Gorchudd Di-dor. Coleg Meirion-Dwyfor Glynllifon 14 Rhagfyr 2005. Dr Arne Pommerening, Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth. Shifft Paradeimau. “Rhaid rheoli adnoddau coedwigol a choetiroedd yn gynaliadwy

kiara
Télécharger la présentation

Dr Arne Pommerening, Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cyflwyniad i Goedwigaeth Gorchudd Di-dor Coleg Meirion-DwyforGlynllifon14 Rhagfyr 2005 Dr Arne Pommerening, Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth

  2. Shifft Paradeimau “Rhaid rheoli adnoddau coedwigol a choetiroedd yn gynaliadwy i gwrdd anghenion cymdeithasol, economaidd, ecolegol, diwylliannol ac ysbrydol cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.” Cenhedloedd Unedig, 2001 Dirywiad coedwig TystysgrifoRio-Helsinki Cynaladwyedd • Rhoi'r gorau i lwyrdorri • Rheoli coed unigol • Celli cymysg (o ran rhywogaethau) • Amwynder/ adloniant • Newid yn yr hinsawdd • Gweithlu/ Technoleg gwybodaeth 

  3. Beth yw CGD? “Gorchudd coedwig di-dor. Term cyffredinol sy’n cwmpasu nifer o systemau coedwriaethol sy’n gwarchod yr amgylchedd / canopi coedwig lleol yn ystod y cyfnod ail-dwf. Mae maint y coupes fel arfer yn llai na 0.25 ha (50 x 50 m) mewn systemau grŵp; ac mewn system goed gysgodol – os y’i defnyddir – fe’i cedwir am fwy na 10 mlynedd. Amcan cyffredinol pob system o fewn y cysyniad yw hyrwyddo amrywioldeb adeileddol ac oed/maint anwastad ar raddfa fanwl. System ddetholus yw’r system goedwriaethol glasurol er mwyn creu gorchudd coedwig di-dor.” (cyfieithiad o Hart, 1995, t. 78)

  4. Continwwm CGD 35m 35m 35m … … N N N ‘siâp-J(-gwrthol)’ diamedr diamedr diamedr Amrywioldeb adeileddol cynyddol Planhigfa sbriws System ddetholus

  5. Beth yw CGD? - Casgliadau 90 % ym Mhrydain 10 % ym Mhrydain Priodwedd bwysicaf coedwigaeth gorchudd di-dor yw parhad amodau coedwig!

  6. Coedwigaeth Gorchudd Di-dor(Nodweddion pwysig a dynnwyd o’r llyfryddiaeth ryngwladol [~Pommerening & Murphy, 2004]) Parhad cyflwr coetiroedd (dim clir-dorri > 0.25 ha) Creu ymylon coetiroedd sefydlog ac atyniadol; rhwydwaith coetiroedd wedi’u diogelu Coedwriaeth ddethol sydd yn anelu at goed unigol Oedran a rhywogaethau cymysg Rheolaeth ecolegol bywyd gwyllt Gweithredu mewn ffordd ecolegol sensitif Rhoi sylw i gyflwrsafleoedd Hyrwyddo rhywogaethau coed brodorol Pwyslais ar strwythur coed fertigol a llorweddol Cadw hen goed ac amddiffyn rhywogaethau mewn peryg; cadw coed marw

  7. “Sefyllfaoedd CGD” nodweddiadol tir noeth Sefydlu (CGD newydd sydyn) Trawsffurfiad Cynnal a chadw ~ Gadow et al., 2001

  8. Beth yw’r rhesymau dros ffafrio CGD? • Cymhelliad traddodiadol dros drawsffurfio coetiroedd yn CGD oedd tybio bod y math hwn o reolaeth yn dwyn mwy o elw (aildyfu naturiol yn hytrach na phlannu, cynaeafu detholus a choetiroedd ag amrywiaeth o gymysgiadau o goed, stoc wedi’u graddio’n dda, tocio naturiol). • Llai o effaith weledol na llwyrgwympo. • Mae amrywioldeb adeileddol yn rhoi gwydnwch fel na fydd coed mor debygol o gael eu dadwreiddio gan y gwynt (ar lefel y gelli). • (Cynhyrchu boncyffion llifio diamedr mawr, ansawdd uchel). • (Gadael yr holl frigau, pren canghennau a rhisgl, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o faetholion y coed).

  9. Beth yw’r rhesymau dros ffafrio CGD? • Gwarchod y pridd (cynaladwyedd safleoedd). • Amodau microhinsoddol gwell ar gyfer aildyfu. • Coedwigaeth amlbwrpas lle mae amcanion amgylcheddol, adloniadol ac esthetig yr un mor bwysig â chynhyrchu pren. • Datganoli: “Mae datganoli wedi rhoi’r symbyliad am agenda newydd ac arbennig Cymreig ar gyfer coetiroedd Cymru”.

  10. Hanes CGD yn Fyr Uwchgynhadledd UNCEDRio, 1992 Möller, 1922 Dechrau’r ddadl dystysgrifo, 1989 Biolley, 1900 Gayer, 1886 Maint diddordeb Dechrau’r ddadl adferiad, 1980 Gurnaud,1878 ~ 1950 Systemau dethol traddodiadolCH, F, D, A, Slo Amser Pommerening & Murphy (2004)

  11. Conwydd Llydanddail Cymysg Llwyni Coed ifainc Wedi’u cwympo Pwyslais Newydd ar Reolaeth Coetir • Symud tuag at ddefnydd uwch o systemau gorchudd di-dor. • trawsnewid coetiroedd y Cynulliad Cenedlaethol yn goetiroedd gorchudd di-dor lle mae’n ymarferol (50%) a chymell trawsnewid cyffelyb mewn coetiroedd sector preifat • casglu gwybodaeth am systemau gorchudd di-dor Strategaeth am Goed a Choetir

  12. Conwydd Llydanddail Cymysg Llwyni Coed ifainc Wedi’u cwympo Bioamrywiaeth Coetiroedd Cymru • Cynyddu bioamrywiaeth coedwigoedd conwydd trwy ddefnyddio systemau gorchudd di-dor. Strategaeth am Goed a Choetir

  13. Safon Ardystiad ar gyfer Cynllun Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS) 3.4.3 Mewn coetiroedd lled-naturiol mabwysiedir systemau effaith llai fel y nodwyd yn Safon Coedwigaeth y DU. Mewn coetiroedd lled-naturiol >10ha ni chaniateir cwympo mwy na 10% mewn unrhyw gyfnod 5 mlynedd oni ellir cyfiawnhau hyn yn nhermau gwella bioamrywiaeth. 3.4.4 Ym mhlanhigfeydd conwydd gwyntwrthiannol, mae systemau coedwriaethol effaith llai yn cael eu ffafrio fwyfwy, lle maent yn addas ar gyfer y safle a’r rhywogaeth(au) sy’n bresennol. tudalen 18

  14. Ardaloedd Prawf ym Mhrydain Comisiwn Coedwigaeth (2003)

  15. Lleiniau Ymchwil Prosiect Tyfiant Coed http://tyfcoed.bangor.ac.uk 1. Lleiniau monitro trawsnewid a) Coed cymysg ffynidwydd Douglas (p21). b) Coed cymysg pinwydd yr Alban (p21/31) Coed Clocaenog Coed Gwydyr 1 2. Cyfres amser/lleiniau monitro trawsnewid a) Cyfres amser mewn coed SS (p48-p51). b) Llain monitro mewn coed cymysg (Sbriws Sitka a llarwydd Japaneaidd, p. 32) c) Llain monitro mewn coed cymysg (Sbriws Sitca a Norwy, llydandail, p. 85). d) Arbrawf plannu oddi tanodd (Sbriws Sitka, ffynidwydd Douglas a ffynidwydd arian o dan Sitka) 2 Coed y Brenin 3 3. Cyfres amser a) Coed cymysg sbriws Sitka a bedw (p70-p88).

  16. Disgrifiad o Reolaeth CGD Coedwigaeth Gorchudd Di-dor / Coedwriaeth Effaith Bach… System goed gysgodol System ddetholus Coedwig uchel … Olyniaethau Ymyrraeth Teneuo oddi tanodd Teneuo oddi fry Cwympo diamedr targed Math o Ymyrraeth (~ Assmann, 1970, FC Forest Practice, t. 154) Graddau teneuo yn nhermau dosbarthiadau brigdyfiant, arwynebedd gwaelodol, coed fesul hectar Dwysedd Ymyrraeth CylchYmyrraeth Dechreuad ac amlder ymyriadau(seiliedig ar oed neu uchder)

  17. Systemau Coedwriaethol Llwyrgwympo Clirio coed yn llwyr, ac aildyfu artiffisial. System Coed Cysgodol Unffurf Agor y canopi yn unffurf at ddibenion aildyfu. System Coed (Cysgodol) Stribedi Agor y canopi mewn coupes cul. System Coed (Cysgodol) Grŵp Agor grwpiau addawol o ail-dwf blaen; cyfnod aildyfu cymharol fyr. System Ddetholus System dreiglol.

  18. Pam rydym ni’n teneuo coed? Bydd coedwigwr yn addasu prosesau cystadleuaeth naturiol ac yn eu llywio er mwyn • optimeiddio cynhyrchiad cyfaint (biomas) cellïoedd neu • optimeiddio cynhyrchiad cyfaint (biomas) coed unigol • gwarchod rhywogaethau penodol a’u cynefinoedd • llywio cyfansoddiad rhywogaethau coed • hybu sadrwydd coed unigol • hybu adeiledd fertigol ( twf epicormig,  ansawdd pren) • sefydlu a chynnal ymylon coedwig a stribedi glan afon • sefydlu a hybu ail-dwf naturiol

  19. Pam rydym ni’n teneuo coed? Newid y model: Gyda CGD mae cynhyrchiad cyfaint uchaf celli yn llai pwysig na chrynhoi’r cyfaint uchaf posibl ar goed unigol o ansawdd da  coedwriaeth coed unigol.

  20. Pam rydym ni’n teneuo coed? Gofod tyfu Cystadleuaeth am • golau • dŵr • maetholion Addasu prosesau cystadleuaeth naturiol ac yn eu llywio.

  21. Y Prif Fathau o Deneuo Teneuo oddi tanodd (Forstbetriebsdienst, 1950) Teneuo oddi fry = teneuo brigdyfiant Teneuo detholus

  22. Dull Coed Fframwaith Coed fframwaith Coed i gael eu tynnu ymaith

  23. Grŵp heb ei deneuo • Meini prawf ar gyfer dewis coed-Fframwaith: • Grym • Ansawdd • Dosraniad Celloedd Teneuo Celloedd teneuo yw’r grwpiau lleiaf o goed mewn celli sy’n perthyn yn ofodol i goeden ffrâm (sy’n ffurfio ei chymdogaeth gyfagos). ~ Schädelin Gormod o goed-Fframwaith → dim digon o opsiynau ar gyfer tynnu ymaithcoed matrics Dim digon o goed-Fframwaith → rhan o’r matrics yn dal heb ei theneuo.

  24. Canllaw Rheolaeth ar gyfer Cellïoedd Cymysg Sycamorwydd, Ynn a Ffawydd Uchder brig [m] 30 20 10 9 m Oed [bl.] 25 50 75 100 ~ Jänich, 2003

  25. Trawsffurfiad (= Trosiad) yn Adeiledd Afreolaidd Oes ynawahaniaethiadadeileddol? Oes digon ogoed sad? nag oes nag oes Teneuo sadio oes 50-100 (100-200) mlynedd Hirhoedledd coed adeiladu- gorchudd? oes nage ie Teneuo detholus Trawsffurfiad uniongyrchol Trawsffurfio cenhedlaeth nesaf y coed (addaswyd o Schütz, 2001)

  26. Cyfnod hybu ail-dwf Cyfnod gwahaniaethu Cyfnod datblygu adeiledd Cyfnod cyrraedd adeiledd Trawsffurfiad (= Trosiad) yn Adeiledd Afreolaidd Schütz, 2001

  27. Gan ddymuno’r gorau ar gyfer y flwyddyn newydd carem dynnu eich sylw at y rhestr ragarweiniol o seminarau Coedwigaeth Gorchudd Di-dor (CGD) yn 2006: Dyddiad Pwnc Lleoliad Mawrth a CGD mewn coedlannau Gogledd Cymru/ Medi conifferaidd: Trawsffurfiad De Cymru planhigfeydd o’r un oed Mai CGD mewn coedlannau Canolbarth/ llydanddail: Rheoli cellïoedd De Cymru rhywogaethau cymysg. Mehefin Technegau adfer Coed y Brenin PAWS1: Trosi planhigfeydd i goed llydanddail cynhenid. Fformat: Cwrs 2 diwrnod yn cynnwys gwibdaith. Cyhoeddir rhagor o fanylion am y digwyddiadau hyfforddiant hyn yn nes at y dyddiad. Os gwelwch chi’n dda, cyfeiriwch unrhyw ymholiadau pellach at: Dr Jens Haufe, Prosiect Tyfiant Coed, YGACh, Prifysgol Cymru, Bangor, j.haufe@bangor.ac.uk. http://tyfcoed.bangor.ac.uk/ Dr Arne Pommerening Mae’r tîm Tyfiant Coed yn dymuno Nadolig Llawen A Blwyddyn Newydd Dda i chi! 1 Planhigfeydd ar goetiroedd hynafol.

  28. 5ed Gwibdaith Coedwigaeth Gorchudd Di-dor i‘r Almaen 5th Continuous Cover Forestry Fieldtrip to Germany 21.04. - 27.04.2006 Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth School of Agricultural & Forest Sciences Prifysgol Cymru, Bangor University of Wales, Bangor

More Related