130 likes | 434 Vues
Ysgol Maliele. Teimlad rhyfedd oedd troedio’r llwybr i gyfeiriad Ysgol Maliele ar y bore cyntaf. Roedd y cyfan yn gyfarwydd rhywsut gan fod plant ac athrawon Maliele wedi anfon lluniau o’u hysgol ers i’n dwy ysgol gefeillio.
E N D
Ysgol Maliele Teimlad rhyfedd oedd troedio’r llwybr i gyfeiriad Ysgol Maliele ar y bore cyntaf. Roedd y cyfan yn gyfarwydd rhywsut gan fod plant ac athrawon Maliele wedi anfon lluniau o’u hysgol ers i’n dwy ysgol gefeillio. A hithau bron yn wyth o’r gloch galwodd Mrs. Mahloane ar bawb i’w rhesi. Y cylch haearn yn hongian ar y goeden yw “cloch” yr ysgol. Ar ddydd Sul mae hi hefyd yn gloch yr eglwys. Plant yn cyrraedd Ysgol Maliele yn y bore.
Aeth pawb i’w le yn ddi – lol ac yn fuan iawn doedd dim smic i’w glywed. Mae diwrnod Maliele hefyd yn dechrau gyda gwasanaeth syml, canu emyn a dweud gweddi. Mae eu ffordd hwy o weddio yn wahanol i’n ffordd ni. Disgyblion dosbarth 7 yn gweddio
Mae plant Lesotho yn dechrau’r ysgol pan yn 6 oed ac yn treulio 7 mlynedd yn yr ysgol gynradd. Mae’r dosbarthiadau, fel ym mhob ysgol yn Lesotho, yn llawn iawn: • DosbarthOedDisgyblionAthrawon • 6+ 39 Mrs Malinkeng Mahloane (Prifathrawes) • 7+ 33 Miss Florina Machai • 3 8+ 57 Miss Mahthatisi Mohapi • 9+ 59 Mr Morake Mashobane • 10+ 50 Mrs Mpepuoa N Koebe • 11+ 47 Miss Makhauheto Thamae • 12+ 37 Mrs Lifelile Mahomo ( Dirpwy Bennaeth) • Cyfanswm= 322
Athrawon Ysgol Maliele gyda Mrs. Mahloane yn y canol a Mrs Mahomo y dirprwy yn gwisgo’r het. Mae gan dosbarthiadau 1, 2 a 7 eu hystafelloedd dosbarth eu hunain, ond mae’n rhaid i’r pedwar dosbarth arall rannu neuadd yr ysgol – un dosbarth ym mhob cornel. 213 o blant yn rhannu un ystafell! Dau o ddosbarthiadau’r neuadd
Rhaid talu am fynd i’r ysgol yn Lesotho. Nid yw rhai teuluoedd yn gallu fforddio’r taliad o 110 Moloti y flwyddyn (£11) ac felly nid yw’r plant yn mynd i’r ysgol ambell flwyddyn. Mae’n beth cyffredin i’r bechgyn golli’r ysgol am flwyddyn neu ddwy oherwydd mae eu hangen i ofalu am y gwartheg a’r defaid yn ystod y dydd. O’r herwydd ceir nifer o fyfyrwyr 18 oed yn yr un dosbarth â phlant 12 oed. Mae Thakamasopha (15 oed) a Nyenyane (18 oed) yn nosbarth 7.
Mae Ysgol Maliele yn dlawd iawn o’i chymharu ag Ysgol Corn Hir. Mae prinder adnoddau mawr yno. Yn wir, ychydig o’r plant sydd â chadair i eistedd arni, a does gan neb bron fwrdd i bwyso arno wrth ysgrifennu.
Does dim lluniau ar furiau’r dosbarthiadau na silffoedd i ddal llyfrau, dim pensiliau lliwio, paent nag offer mesur, ac mae cyfrifiaduron yn perthyn i fyd gwahanol iawn. Disgyblion dosbarth 3 yn defnyddio cerrig i’w helpu i weithio allan symiau rhannu. Yr unig bel yn yr ysgol oedd tiwban rwber wedi’i lapio mewn cadachau.
Yn ystod amser egwyl mae cowt Ysgol Maliele, fel cowt Ysgol Corn Hir a phob ysgol ar draws y byd yn llawn o swn a miri plant yn chwarae’n hapus ac yn falch o gael seibiant o’u gwersi. Bechgyn yn dawnsio ac yn taro un goes yn erbyn y llall. Mae gwisgo’r rhan uchaf o esgidiau glaw yn helpu i chwyddo swn y taro tra’n arbed y coesau ar yr un pryd. Pa adar mae’r genethod yn ddynwared?
Mae plant Ysgol Maliele yn cael cinio ysgol fel plant Corn Hir. Does dim cegin yn yr ysgol i ddarparu’r bwyd, mae’n cael ei wneud yng nghartrefi dwy o wragedd y pentref. Am hanner dydd daw Mrs. Ramataboc a Mrs Shakhane ar hyd y llwybr o’r pentref, y ddwy yn rowlio berfa yn llawn o papa. Fesul dosbarth, pawb gyda’i bowlen wag, mae’r plant yn mynd at y ddwy ferfa i gael llwyaid o papa ac ychydig o fresych. Disgyblion dosbarth 1 yn mwynhau papa i ginio.
Roedd ymateb y plant i’r anrhegion oddi wrth plant ac athrawon Corn Hir yn fythgofiadwy. Mrs Mahloane yn dangos y llyfr newydd am Gymru i rai o ddisgyblion dosbarth 2 Ffrindiau newydd Angharad, y ddol o Gymru Tim pel-droed Ysgol Maliele gyda’u pel newydd o siop Look Around
Rhoi gwynt yn y glôb ac wedyn dilyn y daith o Gymru i Lesotho. Bu bron i’r hogiau golli arnynt eu hunain yn gyfan gwbl o weld y bel-droed o siop Look Around, Llangefni. Trefnwyd gem yn erbyn tim o fechgyn y pentref. Fe sgoriodd Lekunta ( trowsus llaes) o’r gic gornel hon. Sgoriodd 4 gôl i gyd – ac yntau’n dreodnoeth!
Beth ydych chi’n feddwl o’r gôl a chyflwr y cae? Tim pel-droed bechgyn y pentref.
Sut ysgol yw Ysgol Maliele? • Er gwaethaf y: • diffyg adnoddau mwayf sylfaenol • nifer o blant yn y dosbarthiadau • craciau yn y waliau • to yn gollwng dŵr • tyllau mawr yn y lloriau • Mae plant Ysgol Maliele yn: • hapus iawn • gwrtais ac ufudd • dangos parch mawr i’w hathrawon • gweithio’n galed • dangos balchder yn eu llyfrau gwaith • gweld gwerth yn y cyfle mae addysg yn ei gynnig iddynt • Roedd yn bleser ac yn anrhydedd cael bod yn eu mysg.