1 / 10

Ysgrifennu ymson

Ysgrifennu ymson. Nod y wers: Dysgu beth yw ffurf ymson. Deall hanfodion ymson. Ysgrifennu ymson mewn gwers ddiflas. Beth ydy ymson?. Mewn ymson rydych yn dweud beth sy’n mynd drwy eich meddwl. Mae angen nodi eich teimladau gan dynnu sylw at yr hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas. Er enghraifft:

kiora
Télécharger la présentation

Ysgrifennu ymson

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Ysgrifennu ymson Nod y wers: • Dysgu beth yw ffurf ymson. • Deall hanfodion ymson. • Ysgrifennu ymson mewn gwers ddiflas

  2. Beth ydy ymson? Mewn ymson rydych yn dweud beth sy’n mynd drwy eich meddwl. Mae angen nodi eich teimladau gan dynnu sylw at yr hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas. Er enghraifft: Rydw i wedi blino’n lân….. Mae’r wers hon yn ddiflas ofnadwy.

  3. Ysgrifennir ymson yn y person cyntaf: 1. Rydw i’n drist 2. Rydw i’n oer 3. Rydw i wedi blino Ysgrifennir ymson yn y presennol: 1. Rydw i’n teimlo’n hapus. 2. Mae hi’n oer. 3.Rydw i’n darllen yn dawel. (NAWR!) Ymson- Dwy reol.

  4. Dyfalwch ymson pwy. Gôl! Dw i wedi sgorio o’r diwedd. Gobeithio bod fy ngwallt yn edrych yn dda gyda’r holl dorf yma’n edrych arna i. Pam dw i’n gwastraffu f’amser yn chwarae’r hen gêm dwp ‘ma? Hoffwn i fod adre nawr gyda Victoria a’r bechgyn. Dw i eisiau mynd adre at Dad a fy ffrindiau. Does dim lle yma i nofio. AWWW! Yr hen wydr yna. O’r Diwedd amser cinio, dw i bron â llwgu! Anobeithiol! Does dim gobaith gyda hon i fopio’r llawr ym McDonalds heb sôn am gael gyrfa fel cantores. Pryd alla i fynd adre o’r twll yma? Beth? Beth ma’r hen ffwl Louis yn ei wneud- allwn ni ddim ag anfon hon drwodd. Mae angen coffi cryf arna i- nawr!

  5. Beth sy’n gwneud ymson da? • Creu awyrgylch- lle ydych chi? Beth sy’n digwydd o’ch cwmpas? • Gorffennol/ presennol/ dyfodol- Er bod ymson yn cael ei ysgrifennu yn y presennol mae’n bwysig sôn am y dyfodol a’r gorffennol hefyd: ee, Rydw i’n teimlo’n nerfus yn union fel pan oeddwn yn sefyll ar lwyfan yr eisteddfod. Dw i’n edrych ymlaen at ryddid y penwythnos. • Cwestiynau rhethregol- Tybed beth fydd i swper heno? Be sydd ar y teledu nawr? • Ebychiadau- O na! Pam fi?

  6. Jig sô! • Gweithiwch mewn parau i roi’r ymson mewn trefn addas.

  7. Yr ymson mewn trefn: Bla, bla bla a mwy o bla! Sut all y dyn ‘ma alw ei hun yn athro? Ro’n i’n gwybod bod Ffiseg yn ddiflas ond hon yw’r wers fwyaf diflas ohonyn nhw i gyd. Deuddeg o’r gloch a hanner awr arall tan ginio. Dw i bron â llwgu. Sgwn i be fydd i ginio? Sglods gobeithio, neu bitsa. Braf yw byd y sawl sydd adre nawr yn gwylio ‘This morning’. O na! cwestiwn….i fi! Be wna i? Rhedeg am y drws neu gyfaddef mod i heb wrando ar yr un gair a ddaeth o geg yr hen ffwl. Ataliad… ETO. Dim cinio am hanner awr arall. Pam fi Duw? • Tanlinellwch yr hanfodion yn yr ymson hwn.

  8. Eich teimladau mewn gwers ddiflas ofnadwy. Teimladau Allwch chi ychwanegu rhagor?

  9. Cofiwch! • Paragraffwch. • Gofynnwch gwestiynau rhethregol. • Defnyddiwch ansoddeiriau a chymariaethau. • Defnyddiwch frawddegau hir a byr. • Defnyddiwch idiomau- teimlaf fel rhoi’r ffidil yn y to. • Creu awyrgylch- mae’n dywyll dywyll. • Ail-adrodd- i wneud y darn yn ddramatig. • Agoriad syml sy’n tynnu sylw- pam fi? • Clo da i gloi’r darn yn daclus.

  10. Gwirio’r gwaith. Ydw i wedi……………….? • Paragraffu. • Gofyn cwestiynau rhethregol. • Defnyddio ansoddeiriau a chymariaethau. • Defnyddio brawddegau hir a byr. • Defnyddio idiomau- teimlaf fel rhoi’r ffidil yn y to. • Creu awyrgylch- Mae’n dywyll dywyll. • Ail-adrodd. • Ysgrifennu agoriad syml sy’n tynnu sylw. • Ysgrifennu clo da sy’n cloi’r darn yn daclus.

More Related