1 / 9

Beth yw portread?

Portreadau. Beth yw portread?. Delwedd sy’n cael ei chreu gan arlunydd ac sy’n cynrychioli person, gr ŵp o bobl neu anifail hyd yn oed yw portread. Ydy o’n gyfoethog neu’n dlawd?. Pryd oedd o’n byw?. Bydd arlunwyr yn paentio lluniau o bobl (ac anifeiliaid, weithiau).

koen
Télécharger la présentation

Beth yw portread?

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Portreadau Beth yw portread? Delwedd sy’n cael ei chreu gan arlunydd ac sy’n cynrychioli person, grŵp o bobl neu anifail hyd yn oed yw portread.

  2. Ydy o’n gyfoethog neu’n dlawd? Pryd oedd o’n byw? Bydd arlunwyr yn paentio lluniau o bobl (ac anifeiliaid, weithiau). Pan fyddwch chi’n edrych ar bortreadau, byddwch yn dysgu llawer am y bobl sydd yn y lluniau hynny. Faint yw ei oed? O ble mae o’n dod?

  3. Gallwn anrhydeddu pobl bwysig drwy greu portread ohonynt. Pam y bydd arlunwyr yn paentio portreadau? Cyn bod camerâu gan bobl, roedd darlun portreadol yn ffordd dda o gofio sut roedd rhywun yn edrych. Heddiw, bydd y rhan fwyaf o bobl yn tynnu lluniau i’w hatgoffa o bobl. Mae arlunwyr yn dal i baentio portreadau, a hynny am nifer o resymau. Gallwn gyfleu awyrgylch neu ddal personoliaeth mewn portread.

  4. Bydd portreadau yn aml yn dangos un person. Dyma lun o wraig ifanc. Gall portreadau hefyd ddangos grwpiau o bobl, e.e. teuluoedd. Weithiau, bydd arlunwyr yn paentio portreadau o anifeiliaid.

  5. Weithiau, bydd arlunwyr yn paentio llun ohonynt eu hunain. Hunanbortreadau yw’r enw ar y lluniau hyn. Byddan nhw’n defnyddio drych i greu portread ohonynt eu hunain!

  6. Mae llawer o arlunwyr yn ceisio gwneud i bethau edrych yn real. Maen nhw eisiau i’r portread edrych yn union fel y model. Weithiau, gall arlunwyr hyd yn oed ddelfrydu neu beri i’r llun edrych yn llawer gwell na golwg go iawn y person dan sylw. Bydd arlunwyr eraill yn creu portreadau sy’n haniaethol (dydyn nhw ddim yn edrych yn real).

  7. Camera a ffilm Paent olew Sbwriel Pinnau Ffelt Teracota Bydd y mwyafrif o bobl yn meddwl am baentiadau pan fyddwn yn meddwl am bortread. Ond gallwch lunio portread allan o unrhyw beth! Pan fyddwch am lunio portread, rhaid i chi wneud y penderfyniadau canlynol– Faint o’r person i’w ddangos? Wyneb llawn, hyd ¾, corff i gyd …. Beth ddylai’r person ei wisgo? Pa argraff sydd i’w chyfleu? Beth am yr ystum? Sefyll, eistedd, ffurfiol … Mynegiant yr wyneb? Y cefndir? Defnyddiau? Offer? Technegau?

  8. Chwilio am gliwiau mewn llun – bod yn dditectif! Gallwch edrych ar – • Y dillad sy’n cael eu gwisgo • Steil gwallt • Ystum corff • Cefndir • Unrhyw wrthrychau • Mynegiant wyneb y sawl sydd yn y llun • Lliwiau yn y portread Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei gasglu fel hyn yn dweud cryn dipyn wrthych am destun y llun. Hefyd, ceisiwch feddwl pam, o bosibl, y cafodd y llun ei baentio.

  9. Beth ydych chi'n ei gofio am bortreadau? Agorwch y ffeil Smart Notebook: DosbarthuPortreadau (trefnu_portreadau.notebook) a gosodwch y darnau o arlunwaith yn eu dosbarthiadau cywir. Pob hwyl! trefnu_portreadau.notebook

More Related