1 / 20

Beth yw SPA a beth yw ein gwaith?

Cyflwyniad i Brofiad Ymgeiswyr Profiad Ymgeiswyr yng Nghymru, 4 Mehefin 2014 Peter Chetwynd, Rheolwr Cefnogi a Datblygu Derbyn. Beth yw SPA a beth yw ein gwaith?.

levi
Télécharger la présentation

Beth yw SPA a beth yw ein gwaith?

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cyflwyniad i Brofiad YmgeiswyrProfiad Ymgeiswyr yng Nghymru, 4 Mehefin 2014Peter Chetwynd, Rheolwr Cefnogi a Datblygu Derbyn

  2. Beth yw SPA a beth yw ein gwaith? • Mae SPA yn rhaglen annibynnol a gwrthrychol, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, Adran Cyflogaeth a Dysgu Gogledd Iwerddon, Cyngor Cyllido’r Alban, UCAS a Phrifysgolion y DU, ac arian CCAUC sy'n ariannu'r digwyddiad heddiw • Mae SPA yn hyrwyddo derbyn teg a mynediad i addysg uwch yn y DU drwy ddatblygu ac arwain arferion da o ran recriwtio a dewis myfyrwyr. • Adnodd arbenigol ar y cyd ar gyfer y sector AU ar dderbyn teg • Arferion da annibynnol a diduedd • Brocer gwybodaeth rhwng gwneuthurwyr a gweithredwyr polisïau

  3. Beth yw Derbyn Teg? • bod yn dryloyw • galluogi sefydliadau i ddewis myfyrwyr sy'n gallu cwblhau'r cwrs fel y gellir eu barnu yn ôl eu cyraeddiadau a'u potensial • ymdrechu i ddefnyddio dulliau asesu sy'n ddibynadwy a dilys • ceisio lleihau'r rhwystrau i ymgeiswyr • bod yn broffesiynol ym mhob ffordd yn seiliedig ar strwythurau a phrosesau sefydliadol priodol "Cyfle cyfartal i bob unigolyn, beth bynnag fo'i gefndir, er mwyn cael mynediad i gwrs sy'n addas ar gyfer ei allu a'i ddyheadau."

  4. Pam fod profiad ymgeiswyr da yn bwysig? • Mae'n rhan o brofiad myfyrwyr: • Nid yw profiad myfyriwr o brifysgol yn dechrau yr eiliad mae'n camu ar y campws ar ddechrau mis Hydref... Mae'r berthynas gynnar rhwng myfyriwr a phrifysgol yn bwysig yn ystod y broses ymgeisio a derbyn, wrth baratoi myfyrwyr am fywyd prifysgol ac er mwyn cychwyn eu hymgysylltu â'u prifysgol a sbarduno'u hagwedd tuag ati yn y ffordd orau bosibl. Gall profiad myfyriwr o brifysgol ymestyn yn ôl hyd yn oed ymhellach drwy ymgysylltu AU effeithiol ag ysgolion a cholegau. • — Cyfoethogi Profiad Myfyrwyr, Grŵp 1994 (2007)

  5. Pam fod profiad ymgeiswyr da yn bwysig? • Mae profiad ymgeiswyr gwael • ...yn gynhenid niweidiol - mae'r ddwy ochr ar eu colled • ...yn cynnal rhwystrau ac yn dieithrio ymgeiswyr/cynghorwyr • ...yn gallu arwain at anghyfathiant • ...yn arwain at fethu gwireddu potensial a mwy yn peidio gorffen eu cyrsiau • Mae profiad ymgeiswyr da • ...yn fuddiol i'r ymgeisydd a'r DAU fel ei gilydd • ...yn paratoi, hysbysu ac yn darparu cyfleoedd cyfartal • ...yn paru'n gywir • ...yn arwain at gadw myfyrwyr ac yn cyfoethogi cenhadaeth strategol y DAU

  6. Beth yw profiad ymgeiswyr? • Y 'twndis ymgeisio' • recriwtio ? • derbyn • ymrestru

  7. Beth sy'n digwydd y tu mewn i'r twndis?

  8. Pwy sy'n cuddio yn y twndis? • Cyswllt ysgol/coleg • WP/allgymorth • Marchnata • Derbyn • Cynllunio ? • Addysgu a Dysgu • Gwasanaethau myfyrwyr • Cofnodion myfyrwyr

  9. Beth yw profiad ymgeiswyr? cyn ymgeisio • Mae hyn yn cynnwys yr holl weithgareddau cyn cyflwyno cais • Ni fydd rhai unigolion ar y cam yma fyth yn dod yn ymgeiswyr AU • Gweithgareddau ymgysylltu cynnar... ond pa mor gynnar ydym yn dechrau? • Ymgysylltu paratoadol â darpar ymgeiswyr • Cyflwyno ymgeiswyr i'r broses ymgeisio sy'n gweddu'n dda â'r darparwr AU

  10. Beth yw profiad ymgeiswyr? cyn ymgeisio ymgeisio • Mae hyn yn cynnwys popeth o ymrwymo i gychwyn cais i pan fo'r cais hwnnw'n cael ei ystyried gan y darparwr(wyr) AU • Gall fod yn ychydig oriau yn unig neu'n gyfnod hirach o ystyried, drafftio ac ymgynghori â chynghorwyr. • I rai ymgeiswyr, dyma fydd y cysylltiad uniongyrchol cyntaf â'r darparwr • Nid proses weinyddol yn unig ydyw - mae hwn yn bwynt cysylltu allweddol ym mhrofiad yr ymgeisydd

  11. Beth yw profiad ymgeiswyr? cyn ymgeisio ymgeisio ôl ymgeisio • Mae'n cynnwys yr holl broses o ystyried y cais, o'r asesu cychwynol hyd at gadarnhau man astudio i'r ymgeisydd • Bydd yn aml yn parhau am nifer o fisoedd, ond mewn rhai achosion gall fod drosodd mewn eiliadau • Mae'n cynnwys y prosesau craidd y cysylltir yn gyffredin â'r 'swyddfa dderbyn', ond yn sicr nid ydynt wedi eu cyfygu iddi yn unig

  12. Beth yw profiad ymgeiswyr? cyn ymgeisio ymgeisio ôl ymgeisio pontio • Mae'n cynnwys yr holl weithgareddau ôl-gadarnhad, o gadarnhau lle'r ymgeisydd i gychwyn ei astudiaethau AU • Mae'n para am dros flwyddyn yn achos ymgeiswyr gohiriedig, ond gall derbyn, ymrestru a chychwyn ar y cwrs ddigwydd ar yr un diwrnod • Yn anffodus, mae'n cynnwys rhai ymgeiswyr na fydd yn symud ymlaen i gychwyn ar gwrs, naill ai oherwydd dad-ddewis gwirfoddol neu o ganlyniad i rwystrau na ellid eu gorchfygu • Mae'n parhau trwy brofiad myfyrwyr a thu hwnt....

  13. Beth yw profiad ymgeiswyr? cyn ymgeisio ymgeisio ôl ymgeisio pontio • Mabwysiadu safbwynt ymddygiadol ynglŷn â 'phrofiad' • Nid yw ymgeiswyr yn deithwyr goddefol • Mae darparwyr AU yn fwy na chyrchfan yn unig • Mae'n gysylltiedig ac yn seiliedig ar rhyngweithio effeithiol a safonol • hysbysu • cynghori • arwain

  14. Map o Strategaeth Profiad Ymgeiswyr sicrhau bod llwyddiant yn gyraeddadwy diffinio amcanion/canlyniadau diffinio amserlenni/cylch diffiniocyllideb/adnoddau

  15. Map o Strategaeth Profiad Ymgeiswyr sicrhau bod llwyddiant yn gyraeddadwy cenhadaeth a gwerthoedd y sefydliad amcanion strategol polisïau galluogwyr – staff, systemau, arian

  16. Map o Strategaeth Profiad Ymgeiswyr cenhadaeth a gwerthoedd y sefydliad amcanion strategol polisïau cyn ymgeisio ymgeisio ôl ymgeisio pontio rhyngweithiadau allweddol rhyngweithiadau allweddol rhyngweithiadau allweddol rhyngweithiadau allweddol cysylltu rhyngweithiadau cysylltu rhyngweithiadau cysylltu rhyngweithiadau grwpiau/cymunedau o ymarferwyr wedi'u hintegreiddio galluogwyr – staff, systemau, arian

  17. Map o Strategaeth Profiad Ymgeiswyr cenhadaeth a gwerthoedd y sefydliad amcanion strategol polisïau cyn ymgeisio ymgeisio ôl ymgeisio pontio rhyngweithiadau allweddol rhyngweithiadau allweddol rhyngweithiadau allweddol rhyngweithiadau allweddol monitro mesur cysylltu rhyngweithiadau cysylltu rhyngweithiadau cysylltu rhyngweithiadau grwpiau/cymunedau o ymarferwyr wedi'u hintegreiddio galluogwyr – staff, systemau, arian

  18. Buddion profiad ymgeiswyr • Mae arweiniad strategol o ran derbyn yn rhan hanfodol o ran strategaeth, rheoli a chynllunio dysgu ac addysgu • Mae strategaeth profiad ymgeiswyr yn sylfaen i brofiad myfyrwyr, ac mae'n ategu rheoli a phrosesau staff academaidd a phroffesiynol, gan arwain at: • ffyrdd o weithio mwy integredig, ac enillion posibl o ran effeithlonrwydd • mwy o broffesiynoldeb staff a dealltwriaeth o'r strategaeth • arferion a gweithdrefnau o safon uchel all roi mantais gystadleuol, gwella enw da a helpu i gadw myfyrwyr • gallu i fanteisio ar newidiadau allanol yn gyflym

  19. ...a'r manteision i'r ymgeiswyr • Gwell dealltwriaeth ynglŷn â beth mae AU yn ei olygu i bob darpar ymgeisydd, a thwf mewn cyfalaf diwylliannol ar gyfer grwpiau â chyfranogiad isel • Gwell dealltwriaeth ynglŷn â'r dewisiadau sydd ar gael, sy'n arwain at... • Benderfyniadau gwybodus, lleihau risg o anfodlonrwydd neu dynnu'n ôl • Paratoad gwell ar gyfer AU yn: • cymdeithasol • emosiynol • academaidd • cyfraddau uwch o ran cwblhau a llwyddiant myfyrwr

  20. DiolchBuasem yn ddiolchgar am eich adborthMwy o wybodaeth yn: enquiries@spa.ac.uk neu 01242 544891www.spa.ac.uk

More Related