190 likes | 370 Vues
DPP CBAC 2012. SESIWN 2 Newidiadau HY1 ar gyfer addysgu o fis Medi 2012 a’r arholiad ym mis Mai 2013 (a) y fanyleb wedi’i diwygio (b) geiriau allweddol yn y papur arholiad (c) dyraniad amser (ch) newidiadau i’r cynllun marcio. DPP CBAC 2012.
E N D
DPP CBAC 2012 SESIWN 2 Newidiadau HY1 ar gyfer addysgu o fis Medi 2012 a’r arholiad ym mis Mai 2013 (a) y fanyleb wedi’i diwygio (b) geiriau allweddol yn y papur arholiad (c) dyraniad amser (ch) newidiadau i’r cynllun marcio
DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU I HY1 AR GYFER ADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’R ARHOLIAD GYNTAF YN HAF 2013 Newidiadau TAG Hanes unedau UG, HY1 a HY2 wedi’u hachredu gan y rheoleiddiwr arholiadau, OFQUAL. Gwnaed y newidiadau hyn o ganlyniad i argymhellion wedi archwiliad llywodraeth o’r pwnc yn 2009. Byddan nhw ar gael i’w haddysgu ym mis Medi 2012. Bydd yr arholiadau cyntaf yn y dull diwygiedig ar gael ym mis Mai 2013. Mae’r fanyleb wedi’i diwygio a’r deunydd asesu enghreifftiol wedi’i ddiwygio ar gael nawr ar wefan CBAC http://www.cbac.co.uk
DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU I HY1 AR GYFER ADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’R ARHOLIAD CYNTAF YN HAF 2013 MAE’R FANYLEB WEDI NEWID AR GYFER POB UNED HY1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn addysgu’r fanyleb newydd – edrychwch ar y Dudalen TAG Safon Uwch Hanes ar y wefan.
DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU I HY1 AR GYFER ADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’R ARHOLIAD CYNTAF YN HAF 2013 Mae pob astudiaeth o gyfnod ar gyfer HY1 yn cynnig dewis o bynciau mewn pedwar maes. Mae rhai o’r rhain yn feysydd cynnwys ychwanegol, rhai wedi’u creu trwy rannu pynciau yn y meysydd presennol. Mewn rhai o’r meysydd pynciau cyffredinol eraill newidiwyd y cynnwys fymryn er mwyn gwneud yr ymdriniaeth yn gliriach i’r canolfannau. Does DIM newid yng nghynnwys y Astudiaeth o Gyfnod ar gyfer HY4 – mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i HY1 yn unig.
Dyma enghraifft o osod allan manyleb ar gyfer HY1 yn dangos meysydd PEDWAR pwnc: cafodd y templed gwreiddiol ei gadw.
Crynodeb o’r prif newidiadau i bob un o’r Astudiaethau o Gyfnod.
DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU I HY1 AR GYFER ADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’R ARHOLIAD CYNTAF YN HAF 2013 Nid yw natur y cwestiynau na disgwyliadau’r Arholwyr wedi newid – er bod y cynllun marcio wedi newid. Bydd y papur arholiad yn dal yn werth 120 GMU. Neilltuir mwy o amser ar gyfer y papur o ystyried y pryder nad oedd 90 munud yn caniatáu amser i feddwl a chynllunio. Rydym yn ychwanegu 10 munud o AMSER MEDDWL yn y gobaith y bydd yr ymgeiswyr yn treulio’r amser ychwanegol yn ystyried a chynllunio eu hymateb i’r union gwestiynau a osodir. Bydd yr arholiad HY1 yn para am 1 awr a 40 munud o haf 2013.
DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU I HY1 AR GYFER ADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’R ARHOLIAD CYNTAF YN HAF 2013 Ymhob cwestiwn yn y papur arholiad bydd geiriau allweddol fydd yn ymwneud â chysyniadau hanesyddol yn cael eu hamlygu. Er enghraifft: • Y newid yn rôl a statws menywod, 1880-1929 • (a) Eglurwch pam cafodd menywod yr hawl i bleidleisio yn 1928. [24] • Ai’r Rhyfel Byd Cyntaf oedd yn bennaf gyfrifol am newid rôl a statws menywod rhwng 1880-1929? [36] Does yna ddim newid arall i arddull na chynllun y papurau arholiad – cewch weld enghraiift nesaf.
Enghraifft o bapur arholiad HY1 yn dangos y dudalen cyfarwyddiadau a’r pedwar cwestiwn i’w gweld ar y cefn.
TAG HANES - HY1 MAE DEUNYDDIAU ASESU ENGHREIFFTIOL AR GAEL AR GYFER POB ASTUDIAETH O GYFNOD A PHOB ASTUDIAETH FANWL (HY2) AR Y WEFAN.
TAG HANES - HY1 Mae’r cynlluniau marcio ar gyfer HY1 wedi newid yn sylweddol ond rydym wedi cadw tair lefel yn Rhan (a) a Rhan (b). Cafodd y trefniant cyfredol o rannu amcanion asesu yn linynnau o AA1a ac AA1b ei ddisodli gan fersiwn cyfunol: Amcan Asesu 1. Hwn yw’r disgrifiad swyddogol o Amcan Asesu 1: Bydd ymgeiswyr yn galw i gof, dethol a defnyddio gwybodaeth hanesyddol yn briodol, ac yn cyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes mewn dull eglur ac effeithiol. Bydd ymgeiswyr yn dangos eu dealltwriaeth o’r gorffennol trwy egluro, dadansoddi a chyflwyno datganiadau cytbwys o gysyniadau allweddol megis achosiad, canlyniad, parhad, newid ac arwyddocâd o fewn cyd-destun hanesyddol; y berthynas rhwng nodweddion allweddol y cyfnodau a astudiwyd.
Mae’r cynllun marcio wedi’i osod allan fel a ganlyn ar gyfer Rhan (a) a Rhan (b). Mae’n dechrau gyda pheth esboniad ac arweiniad am y modd y dosberthir y marciau a sut fyddan nhw’n cael eu cymhwyso.
Mae gan y cynllun marcio grid generig wedyn yn dangos y tair lefel. Ymhob lefel mae yna ddisgrifiad cyffredinol o’r math o ymateb a ddisgwylir ac yna rhennir pob lefel yn ymatebion ISEL, CANOLIG ac UCHEL ynghyd â disgrifiad o’r nodweddion ar bob lefel a’r ystod marciau fydd ar gael. Dyma Ran (a) DANGOSIR GRID LEFEL 3 NESAF ER MWYN EGLURDER
LEFEL 3 O RAN (a) Y GRID. Nodwch nad yw gofynion y cynllun marcio wedi newid – bu’n ofynnol i ni gyfuno AA1a ac AA1b.
Yna mae yna adran sy’n dangos y CYNNWYS DYNODOL ar gyfer pob is-gwestiwn – nid rhywbeth i’w anwybyddu yw’r cyflwyniad cyffredinol: mae’n adlewyrchiad o’r amrediad o gynnwys posibl.
LEFEL 3 O RAN (b) Y GRID. Nodwch nad yw gofynion y cynllun marcio wedi newid – bu’n ofynnol i ni gyfuno AA1a ac AA1b.
CYNNWYS DYNODOL AR GYFER CWESTIWN 4(b) NODWCH: Nid yw’r cynnwys hwn yn ragnodol a does dim disgwyl i ymgeiswyr gyfeirio at yr holl ddeunydd y cyfeirir ato isod. Bydd pob ateb yn cael ei asesu yn ôl ei deilyngdod yn unol â’r cynllun marcio generig yn ogystal â’r cynnwys dynodol. CWESTIWN: I ba raddau roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn bennaf gyfrifol am newid rôl a statws menywod 1880-1929? Disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno dyfarniadau cadarn gyda thystiolaeth ynghylch p’un a oedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn bennaf gyfrifol am newid swyddogaeth a statws merched rhwng 1880-1929 neu beidio. Dylai effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar y newid yn rôl a statws menywod gael ei dadansoddi a’i gwerthuso yng nghyswllt materion megis: Cyflwyno deddfwriaeth yn rhoi mwy o gyfle i fenywod i weithio Ymateb menywod i’r ymdrech ryfel Y newid yn agwedd llawer o ddynion o ganlyniad i’r rhyfel Y galw cyffredinol am fwy o ddiwygio gwleidyddol Dylai effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar y newid yn rôl a statws menywod gael ei werthuso yng nghyd-destun ffactorau eraill oedd yn gyfrifol am newid rôl a statws menywod yn ystod y cyfnod hwn. Rhai o’r materion y gellid eu trafod o bosibl fyddai: newid agwedd nifer o lywodraethau yn ystod y cyfnod effaith cyffredinol y mudiadau pleidlais rhyddfreinio economaidd merched newidiadau cymdeithasol a diwylliannol yn gyffredinol cyfleoedd addysg yn newid effaith unigolion ac ymgyrchwyr penodol uchafbwyntiau ymestyn etholfreintiau yn 1918 a 1928