html5-img
1 / 17

“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”

“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”. Pam oedd Rwsia yn wlad mor anodd ei rheoli ym 1900?. Sgil: Gwybodaeth a Dealltwriaeth. GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924. Rwsia – Golwg cyffredinol. Diweddu’r Sioe. Rwsia: Golwg cyffredinol. 4,000 milltir O’r Dwyrain i’r Gorllewin

lenora
Télécharger la présentation

“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. “Dysgu i Arwain ein Bywydau” Pam oedd Rwsia yn wlad mor anodd ei rheoli ym 1900? Sgil: Gwybodaeth a Dealltwriaeth GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924

  2. Rwsia – Golwg cyffredinol Diweddu’r Sioe

  3. Rwsia: Golwg cyffredinol • 4,000 milltir O’r Dwyrain i’r Gorllewin • 2,000 milltir O’r Gogledd i’r De • Cymaint ag arwynebedd y lleuad a welir yn y nos. • 11 o wahanol ranbarthau amser. • Y tu hwnt i fynyddoedd yr Wral, roedd Rwsia yn lle gwyllt gydag aneddiadau ar y ffin. Llun trwy garedigrwydd Keith McInnes

  4. Yng nghefn gwlad ychydig iawn o ffyrdd palmantog oedd. Tu hnwt i’r prif ddinasoedd, byddai’r ffyrdd yn troi’n fwd mewn glaw trwm. Gwnâi hyn unrhyw deithio yn araf iawn. Yn ôl i fap Rwsia Llun trwy garedigrwydd Keith McInnes

  5. Gwlad Pwyl Roedd 130 miliwn o bobl yn byw yn Rwsia, ond roedd dros 50% ddim yn Rwsiaid. Roedd yr anrwsiaid yn dod o bob math o hiliau, er enghraifft, Pwyliaid o Wlad Pwyl. Roedd llawer o’r anrwsiaid hyn yn ddig oherwydd bod swyddogion Rwsia yn eu rheoli. Gwnaeth y Rwsiaid i’r anrwsiaid siarad Rwseg, gwisgo dillad Rwsiaidd a dilyn arferion Rwsiaidd. Gelwid y polisi hwn yn “Rwsieiddio” Yng Ngwlad Pwyl gwaharddwyd addysgu plant trwy gyfrwng y Bwyleg. Y Rwsiaid, nid y Pwyliaid oedd yn cael y swyddi pwysig i gyd. Yn ôl i fap Rwsia

  6. Llun yn cael ei ddefnyddio trwy garedigrwydd Keith McInnes

  7. Petrograd / Moscow – y dinasoedd mwyaf Petrograd Moscow

  8. Petrograd / Moscow – y dinasoedd mwyaf Petrograd oedd prifddinas Rwsia. Roedd y Tsar a’i Weinidogion yn rheoli’r wlad o’r fan honno. Tua 1900, cafwyd twf diwydiannol yn Rwsia a chodwyd llawer o ffatrïoedd yn Petrograd a Moscow. Eu perchnogion oedd gwŷr busnes cyfoethog a oedd yn ciniawa ar gafiâr ac eog mwg mewn tai bwyta ysblennydd, neu’n ymweld â’r bale a chyngherddau. Roedd yr elw a wnaent yn mynd ar eu tai crand. Roedd y gweithwyr ffatri yn byw ger y dinasoeddmewn trefi noswyl aflan, gorlawn a llawn heintiau. Nid oedd llawer o breifatrwydd. Weithiau byddai gwelyau yn brysur am 24 awr y dydd gan 2 weithiwr yn eu tro. Nid oedd y gweithwyr yn fodlon gyda chyflog isel ac oriau gwaith hir! Yn ôl i fap Rwsia

  9. Mynyddoedd yr Wral Y tir amaeth gorau – rhanbarth y “pridd du”

  10. Y tir amaeth gorau 25% yn unig o Rwsia oedd yn dir amaeth da. Roedd y rhan fwyaf yn Ne neu Orllewin y wlad, yn enwedig yn Wcráin, “Basged fara” Rwsia. Roedd gweddill Rwsia naill ai’n ddiffeithwch, yn dwndra arctig neu’n taiga (coedwigoedd). Roedd 4 o bob 5 Rwsiad yn werin. Roedd eu bywyd yn galed gyda newyn a haint yn gyffredin. Pam?

  11. Defnyddiai’r werin ddull stribedi o amaethu, offer pren, ac nid oedd ganddynt ond ychydig anifeiliaid. Roeddent yn bwyta bara rhyg a chawl bresych. Roedd cig yn brin. Roeddent yn byw mewn tai pren a gwellt, yn cysgu ar welyau o wellt a gwisgo crysau gwlân, bras . Gwisgai’r mwyaf tlawd sandalau a wnaed o risgl coeden. Yn aml, roedd y werin mewn dyled i’w landlordiaid, yr uchelwyr. Ffurfiai’r uchelwyr 1% o’r boblogaeth ond perchnogent bron 25% o’r tir. Roedden nhw’n gyfoethog iawn, gyda 2 dŷ, a mwynheuent y bale a digwyddiadau cymdeithasol eraill. Os oedd y werin yn protestio (yn ystod cyfnodau o newyn e.e.), byddai’r Tsar yn defnyddio ei filwyr Cosac brawychus yn eu herbyn. Yn ôl i fap Rwsia

  12. Lluniau trwy gareigrwydd Keith McInnes

  13. Siberia Rheilffordd Traws-Siberaidd

  14. Llun trwy garedigrwydd Keith McInnes Teithio yn Siberia yn yr Haf amser presennol: Dychmygwch sut oedd pethau yn y gorffennol!

  15. Siberia Eithriadol o oer (hyd at –60 gradd C). Mawr iawn. Adnoddau naturiol enfawr ond poblogaeth fach iawn. Yn draddodiadol, roedd rheolwyr Rwsia wedi anfon unrhyw berson a’i gwrthwynebai i Siberia. Roedd mwyafrif rheilffyrdd Rwsia yn Rwsia Ewropeaidd ar wahân i’r Rheilffordd traws-Siberaidd. Cymerai wythnos i deithio o un pen i’r llall, felly roedd cyfathrebu yn anodd iawn. Rheolwyd pob rhan o Rwsia, yn cynnwys Siberia, gan Weision Sifil a weithredai ddymuniadau’r Tsar. Gan fod cyflogau Gweision Sifil yn isel, a chan eu bod ymhell o lywodraeth ganol (yn enwedig yn Siberia), roedd llawer o lygredd a llwgrwobrwyo. Yn ôl i fap Rwsia

More Related