1 / 14

Geiriau Tebyg

Geiriau Tebyg. Asesu ar Gyfer Dysgu / AfL MEDDWL-PARU-RHANNU THINK-PAIR-SHARE. ADOLYGU. Ydych chi’n cofio’r geiriau tebyg?. Meddwl - yn unigol ysgrifenna restr o’r geiriau tebyg rwyt ti’n gofio. Mae gen ti ddau funud.

tao
Télécharger la présentation

Geiriau Tebyg

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Geiriau Tebyg

  2. Asesu ar Gyfer Dysgu / AfL MEDDWL-PARU-RHANNU THINK-PAIR-SHARE ADOLYGU Ydych chi’n cofio’r geiriau tebyg? • Meddwl - yn unigol ysgrifenna restr o’r geiriau • tebyg rwyt ti’n gofio. Mae gen ti ddau funud. • Paru - rhaid cymharu syniadau gyda phartner. • Mae gennych chi funud. • Rhannu - yn awr rhaid rhannu’ch syniadau gyda • gweddill y dosbarth.

  3. Y Sgiliau Allweddol Byddwch chi’n datblygu’r sgiliau yma: • Cyfathrebu • Meddwl • Y Cwricwlwm Cymreig

  4. Deilliannau Dysgu: Erbyn diwedd y wers byddwch chi’n gwybod: • pa fath o gwestiwn arholiad ar y geiriau tebyg fyddwch chi’n ei gael • beth ydy’r meini prawf llwyddiant

  5. meini prawf llwyddiant ystyr eglur camgymeriadau cystrawen llunio cynllun cywirdeb gwallau criteria success meaning clear mistakes syntax/construction construct plan correctness mistakes/faults Geiriau Allweddol:

  6. Meini Prawf Llwyddiant • gwybod a deall ystyr y geiriau tebyg • gallu llunio brawddegau i ddangos yn eglur ystyron y geiriau tebyg yn llwyddiannus. • ysgrifennu brawddegau heb gamgymeriadau iaith na chamgymeriadau sillafu • ysgrifennu brawddegau heb gamgymeriadau cystrawennol

  7. CA3 Defnyddio’r Iaith a Barddoniaeth Adran A Defnyddio’r Iaith -Cwestiwn 1 - (y Papur Enghreifftiol) Dyma fydd y cwestiwn yn yr arholiad: Lluniwch frawddegau i ddangos yn eglur ystyr y geiriau tebyg canlynol: [8] • hun • hyn • Cymru • Cymry

  8. Cynllun Marcio • Mae 2 farc am bob brawddeg sy’n dangos yn eglur ystyr a defnydd y geiriau ac sy’n berffaith gywir o ran cywirdeb iaith. • Cewch chi 1 marc os ydych chi wedi dangos yn eglur ystyr y gair. • Ond rydych chi’n colli marciau am: • wallau iaith e.e gwallau treiglo / gwallau sillafu = ½ marc • wallau cystrawennol = ½ marc • 0 marc os dydy ystyr y gair ddim yn glir.

  9. Enghreifftiau (i) hun Mae Rhys bob amser yn eistedd ar ei ben ei hun. Mae’r frawddeg hon yn haeddu marciau llawn = 2 farc. Mae ystyr a defnydd y gair yn hollol eglur a’r frawddeg yn berffaith gywir o ran cywirdeb iaith.

  10. Enghreifftiau Mae Rhys bob amser yn ista ar ei ben ei hun. Mae’r frawddeg hon yn haeddu 1½ marc. Mae ystyr a defnydd y gair yn eglur ond mae’r gwall sillafu’n cael ei gosbi - ista.

  11. Enghreifftiau Rydw i fy hun. Dydy ystyr na defnydd y gair yn eglur felly 0 marc.

  12. Marciwch y brawddegau yma. Tasg: Edrychwch ar y brawddegau ar y daflen. Cofiwch dynnu hanner marc yr un am unrhyw gamgymeriadau. Mae’n rhaid i chi farcio’r brawddegau drwy: • ddod o hyd i unrhyw gamgymeriadau treiglo neu sillafu yn y brawddegau; • benderfynu a ydy’r frawddeg yn llwyddo i ddangos ystyr y gair yn eglur; • ddod o hyd i unrhyw gamgymeriadau cystrawennol yn y brawddegau.

  13. Gorffen Brawddegau • Eich tro chi rŵan!! • Gorffennwch y brawddegau ac yna crëwch eich brawddegau eich hun. • Cofiwch am y gwaith cartref ar y diwedd!!

  14. Pa sgiliau ydw i wedi eu defnyddio? ADBORTH Sut wnes i ddysgu yn yr uned hon? Ydw i wedi dysgu’n effeithiol? Edrychwch ar y daflen hunanasesu.

More Related