170 likes | 347 Vues
Fframwaith Dillad Gwaith Corfforaethol a Dillad Gwaith Iechyd a Diogelwch. Sian Griffiths Pen Swyddog Caffael (Contractio a Chomisiynu). Rhagarweiniad. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys: Gwybodaeth am y gofyniad, y gwerth amcangyfrifedig a threfniant y fframwaith
E N D
Fframwaith Dillad Gwaith Corfforaethol a Dillad Gwaith Iechyd a Diogelwch Sian Griffiths Pen Swyddog Caffael (Contractio a Chomisiynu)
Rhagarweiniad • Bydd y cyflwyniad yn cynnwys: • Gwybodaeth am y gofyniad, y gwerth amcangyfrifedig a threfniant y fframwaith • Manylion cychwynnol am y gofyniad • Manylion am y broses gaffael, y meini prawf gwerthuso a rheolaeth y contract • Casgliad • Cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod yr apwyntiadau gyda swyddogion perthnasol yr Awdurdod
Beth yw Fframwaith? • Fframwaith yw cytundeb gyda darparwyr sy’n nodi’r telerau a’r amodau ar gyfer pryniannau penodol (yn ôl y gofyn) yn ystod cyfnod y Fframwaith. • Mae contractau yn cael eu ffurfio pan mae nwyddau yn cael eu prynu yn ôl y gofyn dan y Cytundeb yn unig. • Mae Awdurdod yn rhydd i ddefnyddio Fframwaith pan mae’n cynnig gwerth am arian ond gall fynd i rywle arall os na ellir sicrhau gwerth am arian drwy’r Fframwaith.
Gwybodaeth am y Fframwaith • Byddwn yn ceisio cwmpasu holl ofynion yr Awdurdod am Ddillad Gwaith Corfforaethol / Dillad Gwaith Iechyd a Diogelwch • Bydd hefyd yn cwmpasu ein gofynion ar gyfer ein cwsmeriaid allanol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat • Bydd yn safoni ac yn cynnal ein gofynion am Ddillad Gwaith Corfforaethol / Dillad Gwaith Iechyd a Diogelwch – h.y. lliw, dyluniad, ansawdd, pris, danfoniad, ac ati. • Bydd y Fframwaith yn cael ei hysbysebu drwy GwerthwchiGymru. • Dyddiad dechrau disgwyliedig y fframwaith - Ebrill 2011.
Beth yw gwerth y Fframwaith hwn? • Mae’r gwerth disgwyliedig dros Drothwy Cyfarwyddeb Caffael yr UE ar gyfer cyflenwadau – h.y. £156,442 y flwyddyn • Mae wedi’i ddosbarthu’n Fframwaith cyflenwadau sy’n cydymffurfio’n llawn â Chyfarwyddeb Caffael yr UE. • Egwyddorion y Gyfarwyddeb yw Cystadleuaeth Agored, Tryloywder, Tegwch a Chymesuredd.
Pa fath o drefniant fyddwn ni’n ei roi yn ei le? • Cytundeb Fframwaith – am hyd at uchafswm o 4 blynedde.e. 3 blynedd a darpariaeth i’w ymestyn am 1 flwyddyn • Wedi’i rannu’n 6 Chyfran: • Bydd un cyflenwr fesul Cyfran, fodd bynnag gellir dyfarnu mwy nag un Gyfran i gyflenwr • Ni fydd unrhyw gystadlaethau bychain o fewn unrhyw un o’r Cyfrannau
Beth yw’r Gofynion / Manyleb fesul Cyfran? • Rhoddir gwybod am y niferoedd a’r gofynion o ran logo yn y dogfennau tendro
Beth yw’r Gofynion Ansawdd? • Cynhwysir manylion am Safonau Ansawdd a Safonau Prydeinig (EN) yn y dogfennau tendro. • Lle bo’n briodol, darperir copïau o dystysgrifau cydymffurfio gyda’r uchod. • Samplau – lle byddwn yn gofyn am sampl, rhaid i ddanfoniadau yn y dyfodol gadw at yr un ansawdd. • Rhaid datrys materion ansawdd, h.y. dychweliadau, eitemau diffygiol, maint anghywir, ac ati, ar frys.
Pa Feini Prawf Gwerthuso fyddwn ni’n eu defnyddio? • Ansawdd/Cost. Mae’r gymhareb i’w phennu. • Cymerir y Meini Prawf Ansawdd o’r fanyleb (gofynion allweddol) e.e. amserau danfon, amserau arweiniol, samplau, dulliau rheoli ansawdd, datrys anghydfodau ynghylch anfonebau, ac ati. • Bydd angen i chi gwblhau Datganiad o Ddull i esbonio sut rydych chi’n bwriadu cyflenwi. • Cynhwysir y Meini Prawf Cost ar restr costau sydd i’w chwblhau gan y tendrwr e.e. rhestru cynnyrch a’r symiau. • Bydd y Dogfennau Tendro yn cynnwys manylion am y meini prawf gwerthuso a’r pwysiadau a bennwyd ar gyfer pob un o’r meini prawf hynny.
A oes angen i ni sicrhau Effeithlonrwydd/Arbedion o ganlyniad i’r ymarfer Caffael hwn? • Fel Sefydliad yn y Sector Cyhoeddus, mae’n rhaid i ni adrodd ynghylch effeithlonrwydd/arbedion i Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn rheolaidd. • Mae gennym System Dosbarthu Effeithlonrwydd Corfforaethol (yn unol â dull LlCC). • Y canlynol yw’r dosbarthiadau – gostwng prisiau, osgoi costau, sicrhau gwerth ychwanegol a lleihau costau prosesu.
Sut ydym ni’n bwriadu rheoli’r Fframwaith? • Yn ystod Proses Rheoli Contract • Sicrhau cydymffurfiaeth â’r Fframwaith a pherfformiad o safon uchel • Dod o hyd i ddulliau cost-effeithiol o gyflawni’r Fframwaith i sicrhau effeithlonrwydd. • Cytuno ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i fonitro’r Fframwaith. • Cynhwysir enghreifftiau o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol yn y dogfennau tendro.
Gweithdrefn Gyfyngedig Hysbysebu’r Contract drwy GwerthwchiGymru ac OJEU Cyflenwyr yn cyflwyno datganiad o ddiddordeb/ Gofyn am Holiadur Cyn Cymhwyso (HCC) Cyflenwyr yn cyflwyno HCC. Panel gwerthuso yn llunio rhestr fer gan ddefnyddio’r Broses Ddethol Anfonir gwahoddiadau i dendro at gyflenwyr dethol Y cyflenwr yn cyflwyno tendr. Y panel gwerthuso yn gwerthuso’r tendrau. Hysbysiad ynghylch y Penderfyniad i Ddyfarnu’r Contract. Cyfnod segur o 10 diwrnod Dyfarnu’r Contract
Beth ddylwn i ei ystyried ar ôl heddiw? • Sicrhewch fod eich cofrestriad ar GwerthwchiGymru (www.gwerthwchigymru.co.uk) wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau o fewn eich sefydliad. • Trowch at ein Pecyn Gwybodaeth am Gaffael a’n Canllaw ynghylch Sut mae Tendro sydd ar gael ar ein gwefan: www.carmarthenshire.gov.uk/procurementsupportforbusiness • Rhowch wybod i ni am unrhyw bryderon neu ymholiadau a allai fod gennych ynghylch y gofynion, y broses gaffael, ac ati. • Nodwch eich sylwadau a’ch awgrymiadau ynghylch y Fframwaith yn yr holiadur adborth am y digwyddiad
Diolch • Diolch am ddod i’r digwyddiad heddiw. • Gobeithiwn y cawsoch y wybodaeth yn ddefnyddiol. • Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cyflwyniad neu’r broses gaffael, siaradwch â mi, Stuart John neu Kim Baker. • Bydd y cyflwyniad ar gael i’w lawrlwytho drwy’r ddolen gyswllt ganlynol am y pythefnos nesaf: www.carmarthenshire.gov.uk/procurementsupportforbusiness