1 / 30

Modiwl 5

Modiwl 5. Datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng metawybyddiaeth a chaffael uwch sgiliau llythrennedd. Nodau’r modiwl. Datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng metawybyddiaeth a chaffael uwch sgiliau llythrennedd.

poppy
Télécharger la présentation

Modiwl 5

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 5 Datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng metawybyddiaeth a chaffael uwch sgiliau llythrennedd

  2. Nodau’r modiwl • Datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng metawybyddiaeth a chaffael uwch sgiliau llythrennedd. • Ystyried rôl PISA (Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Asesu Myfyrwyr) wrth ddatblygu addysgeg sy’n gwella dysgu ac addysgu.

  3. Amcanion y modiwl • Adolygu rhai o brif agweddau metawybyddiaeth. • Sefydlu cysylltiadau rhwng metawybyddiaeth, uwch sgiliau llythrennedd, profion PISA ac ymarfer dosbarth effeithiol. • Ystyried y manteision addysgol posibl o ddefnyddio metawybyddiaeth fel offeryn hanfodol wrth ddatblygu uwch sgiliau llythrennedd yn nosbarthiadau’r unfed ganrif ar hugain. • Archwilio’r graddau mae meithrin uwch sgiliau meddwl ac uwch sgiliau llythrennedd yn arwain at fwy o lwyddiant mewn profion PISA ac at ddysgu ac addysgu o ansawdd gwell.

  4. Meddwl am feddwl Unlike cognition, which is merely the act of knowing, metacognition is the learner’s reflection about what he or she already knows or is in the process of learning. (Smith, 2004)

  5. Meddwl am feddwl Mae’r defnydd hwn o fetawybyddiaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod llythrennedd yn datblygu’n effeithiol yn nosbarthiadau’r unfed ganrif ar hugain a chreu meddylwyr newydd ar gyfer y dyfodol.

  6. Metawybyddiaeth a dysgwyr galluog Higher order thinking does not necessarily show itself in evidence of 'quick thinking', but in their ability to use quick or slow thinking when the occasion demands. (Davison, Deuser and Sternberg, 1996)

  7. Rhagori ar wybyddiaeth • Cyflwynwyd y term metawybyddiaeth gan Flavell yn 1976 er mwyn cyfeirio at 'the individual's own awareness and consideration of his or her cognitive processes and strategies' (Flavell 1979). • Mae’n cyfeirio at allu unigryw dynolryw i fod yn hunan-fyfyriol, sef nid yn unig meddwl a gwybod ond meddwl am eu meddwl eu hunain a’r hyn y mae’n nhw’n ei wybod.

  8. Dulliau PISA a metawybyddol Mae llythrennedd darllen fel y’i mesurir gan PISA yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos eu sgiliau wrth ymdrin ag amrywiaeth eang o destunau, sy’n deillio o sefyllfaoedd gwahanol ac yn cael eu hystyried mewn sawl ffordd wahanol.

  9. Dulliau PISA a metawybyddol • Mae’r adroddiad Reading for Change (OECD, 2001) yn canolbwyntio ar ddau fformat ar gyfer testunau: • parhaus • tameidiog • a thri dull ar gyfer darllen sef: • adalw gwybodaeth • dehongli • adlewyrchu. • Yn 2013 rhain yw’r agweddau craidd a brofir gan PISA o hyd.

  10. Tasg 1: Cwestiwn darllen PISA

  11. Tasg 1 Pa nodwedd o’r ffilmiau a wnaeth bobl Macondo yn ddig? OECD, 2009

  12. Ymdrin â’r cwestiwn • Eglurwch sut aethoch chi ati i ateb cwestiwn darllen PISA? • Sut wnaethoch chi ymdrin â’r testun? • Darllen y cwestiwn cyfan. • Bwrw golwg gyflym dros y testun. • Ailddarllen y testun. • Adnabod geiriau allweddol. • Adnabod themâu allweddol. • Lle wnaethoch chi ddechrau darllen? OECD, 2009

  13. Uwch llythrennedd • Mae darllen effeithiol yn ymwneud â chwilio am ystyr mewn amrywiaeth o destunau sydd fwyfwy heriol. Mae angen i ddysgwyr fod yn ymwybodol y gall eu darllen fod at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys mwynhad, gwybodaeth a chyfarwyddyd.

  14. Uwch llythrennedd • Mae ysgrifennu effeithiol yn ymwneud â mynegi gwybodaeth, syniadau, meddyliau ac emosiynau yn eglur, yn rhesymegol ac yn rhugl mewn amrywiaeth eang o ffurfiau ac arddulliau. Mae wedi’i addasu er mwyn gweddu i’w gynulleidfa a’i ddiben, ac mae’n gywir o ran sillafu, atalnodi a gramadeg.

  15. Uwch sgiliau llythrennedd • Un o’r camau pwysig tuag at gyflawni uwch sgiliau llythrennedd yw uwch sgiliausiarad a gwrando a thrwy hyn gall dysgwyr: • drafod beth maen nhw wedi’i ddarllen a deall y testun yn llwyr • ymarfer a mireinio syniadau cyn eu hysgrifennu • defnyddio asesu ar gyfer technegau dysgu lle mae gofyn iddyn nhw werthuso eu gwaith eu hunain a gwaith ei gilydd a gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella.

  16. Tasg 2: Metawybyddiaeth ac uwch sgiliau llythrennedd

  17. Pa sgiliau metawybyddol a wnaethoch chi eu defnyddio? Gwneud penderfyniadau Blaenoriaethu Cwestiynu Meddwl beirniadol Gwneud cysylltiadau Defnyddio Cynllunio Datrys Gosod targedau Cof gweledol Adlewyrchu Cyfathrebu Cof meta Datrys problemau

  18. Pa rai o’r uwch sgiliau llythrennedd a wnaethoch chi eu defnyddio? Sganio Adolygu Cymhathu gwybodaeth Darllen Archwilio geirfa Lleoli Dadgodio Trefnu/ aildrefnu Rhoi mewn trefn Adnabod sawl lefel o ystyr Ysgrifennu Crynhoi Coladu Cymharu

  19. Gorgyffwrdd sgiliau? Cof meta Lleoli Ysgrifennu Sgiliau metawybyddiaeth Sgiliau llythrennedd

  20. Gallu i ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau In 2013,PISA conceives of literacy as the capacity of students to apply knowledge and skills in key subject areas and to analyse, reason and communicate effectively as they pose, solve and interpret problems in a variety of situations. PISA is forward looking, focusing on young people’s ability to use their knowledge and skills to meet real-life challenges, rather than merely on the extent to which they have mastered specific curricular content. (OECD, 2010)

  21. Sesiwn lawn: Defnyddio deunyddiau PISA yn yr ystafell ddosbarth Mewn parau, trafodwch: • y math o destun a’r uwch sgiliau y mae’r dasg ‘Macondo’ yn ei haddysgu a’i hasesu • y wybodaeth flaenorol a’r elfennau metawybyddiaeth a fyddai wedi paratoi dysgwr ar gyfer tasg o’r fath • a ddylid addysgu’r sgiliau hyn yn eich ystafell ddosbarth ai peidio • i ba raddau mae’r dasg yn gweddu i ddysgwr yr unfed ganrif ar hugain.

  22. Tasg 3: Archwilio ymarfer

  23. Y dull ysgol gyfan Gwyliwch y clip fideo lle mae athro yn trafod ei brofiad o ddefnyddio sgiliau metawybyddiaeth a meddwl yn yr ystafell ddosbarth. • Adnabod elfen o ymarfer yr hoffech chi ei harchwilio ymhellach.

  24. http://www.youtube.com/watch?v=qDUyWAdTiq4(Saesneg yn unig)

  25. Uwch sgiliau llythrennedd:archwilio ymarfer ystafell ddosbarth • Gan ddefnyddio’r dalennau archwilio a ddarparwyd, dangoswch pa agweddau ar uwch sgiliau darllen a/neu ysgrifennu sydd wedi’u cyflawni yn eich hystafell ddosbarth yr wythnos hon.

  26. Uwch sgiliau llythrennedd: archwilio ymarfer ystafell ddosbarth • Gweithiwch mewn parau er mwyn adnabod un o’r gweithgareddau yr ydych chi wedi eu ticio yn eich harchwiliad. Trafodwch gyda’ch partner: • cyd-destun y gweithgaredd • y cyfleoedd a roddwyd i ddysgwyr fynegi’r strategaethau a ddefnyddiwyd • sut fyddech chi’n mynd ati i ymgysylltu’n fwy trylwyr yn y dyfodol.

  27. Addewid personol • Beth fyddwch chi’n ei wneud er mwyn helpu i ddatblygu uwch sgiliau llythrennedd dysgwyr ymhellach?

  28. Cyfeiriadau • Davidson, J. E., Deuser, R. a Sternberg R.J., (1996) yn Metcalfe, J. a Shimamura, A. P. (1996), Metacognition; Knowing about Knowing. Cambridge, Mass: MIT. • Flavell, J. (1979), Metacognition and cognitive monitoring: A new area of cognitive-developmental enquiry. American Psychologist, 34, 906–911. • OECD (2009), PISA 2009 Assessment Framework – Key Competencies In Reading, Mathematics And Science. • Smith, F. (2004), Understanding reading: A psycholinguistic analysis of reading and learning to read (6ed argraffiad). Mahwah, NJ: Lawrence Erlbaum Associates.

  29. Rhagor o ddeunydd darllen • Brown, A. L., a Smiley, S. S. (1978), The development of strategies for studying text. Child Development. 49, 1076–1088. • Fisher, R. (1998), ‘Thinking about Thinking: developing metacognition in children‘. Early Child Development and Care. Cyf. 141 (1998) tudalennau 1–15. • Flavell, J., Green, F. a Flavell, E. (1996), Young Children's Knowledge About Thinking Monographs for the Society for Research in Child Development. Chicago: University of Chicago Press. • Kuhn, D. (2000), Metacognitive development. Current Directions in Psychological Science. 9(5), 178–181. • OECD (2003), Learning for Tomorrow’s World – First Results from PISA 2003 report. • Metcalfe, J. a Shimamura, A.P. (1996), Metacognition; Knowing about Knowing. Cambridge. Mass: MIT Press. • Quicke, J. a Winter, C. (1994), 'Teaching the language of learning', British Educational Research Journal. 20. 4 tudalen 429–45.

  30. Gwefannau defnyddiol • http://learning.wales.gov.uk/docs/learningwales/publications/130123nlnfinformationdocumentcy.pdf • www.philosophy-foundation.org/ • www.oecd.org/pisa/pisaproducts/pisa2009/PISA%202009%20reading%20test%20items.pdf • http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/101007communicationcy.pdf

More Related