270 likes | 396 Vues
Modiwl 6: Rheoli eich arian – benthyca. Amcanion y modiwl
E N D
Amcanion y modiwl • Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae ‘egwyddorion sylfaenol benthyca’ yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru. • Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun ‘benthyca arian’. • Sylwch: Bydd gwahaniaethu, syniadau ymestyn a chwestiynu effeithiol yn cael eu hawgrymu'n aml yn y nodiadau o fewn y PowerPoint i athrawon/hyfforddwyr eu defnyddio yn ôl yr angen.
Nodau’r dysgwyr • Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r egwyddorion sylfaenol sy’n gysylltiedig â’r broses o ‘fenthyca arian’. • Bydd dysgwyr yn gallu: • esbonio ystyr ‘benthyca’, ‘benthyg’, ‘credyd’ a ‘dyled’ • ystyried cynilo fel dewis arall i fenthyca • disgrifio rhai cwestiynau allweddol i’w gofyn wrth ystyried mynd i ddyled • rhestru rhai gwahanol fathau o fenthyca a dyled • nodi’r manteision a’r anfanteision ar gyfer rhai mathau cyffredin o fenthyca. • Gellir defnyddio’r modiwl hwn ar draws Cyfnodau Allweddol 3 a 4. Bydd nodau gwahanol gan y dysgwyr, a bydd rhai ohonyn nhw’n cynnwys y pwyntiau uchod.
Cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh a gweld ble mae ‘deall egwyddorion benthyca arian’ yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.Mae deilliannau dysgu sy’n gysylltiedig â benthyca wedi’u marcio mewn teip trwm yn y tabl.
Mae’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu gallu i reoli eu harian.Tynnir sylw at y rhain mewn teip trwmar y sleid nesaf.
Ddylwn i fenthyca? Gweithgaredd cychwynnol: Trafodaeth Pam mae pobl yn benthyca arian?
Gweithgareddau benthyca • Gweithgaredd 1: Ffyrdd o fenthyca arian • Gweithgaredd 2: Cwestiynau pwysig i’w gofyn/hystyried wrth fenthyca arian • Gweithgaredd 3: Ystyried yr opsiynau benthyca arian i brynu car • Gweithgaredd 4: Deall y termau ‘benthyciwr’, ‘rhoddwr benthyg’, ‘credyd’ a ‘dyled’ • Gweithgaredd 5: Beth yw credyd a dyled? • Gweithgaredd 6: Dweud ie neu na i ddyled • Gweithgaredd 7: Llythyrau at Jade • Gweithgaredd 8: Byw nawr, talu wedyn
Gweithgaredd 1: Ffyrdd o fenthyca arian Ble neu gan bwy fydd pobl yn benthyca arian?
Gweithgaredd 1: Ffyrdd o fenthyca arian Benthyciad banc Ffrindiau/ teulu Benthyciwr stepen y drws Cwmnïau arian Gorddrafft banc Cerdyn credyd Benthycwyr arian didrwydded Hurbwrcas Benthyciad undeb credyd Cyfrif cerdyn siop Benthyciad diwrnod tâl Catalog
Gweithgaredd 2: Cwestiynau pwysig i’w gofyn/hystyried wrth fenthyca arian Defnyddiwch ‘Taflen weithgaredd rheoli arian: Ddylwn i fenthyca?’. Mae dysgwyr yn cael y senario canlynol. Mae dysgwyr yn cael rhestr o 10 cwestiwn y dylai Geoff eu hystyried neu eu gofyn i’r banc. Mae’n rhaid i’r dysgwyr benderfynu ar bwysigrwydd pob un. Mae swydd newydd gan Geoff yn y dref. Mae e am brynu beic a fyddai’n golygu benthyca arian o’r banc.
Gweithgaredd 3: Ystyried yr opsiynau benthyca arian i brynu car Adnodd:Rheoli Arian, Gweithgaredd 13, ‘Fy nghar cyntaf’ (tudalennau 101–105) Lawrlwytho’r adnodd yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/atebol/maths/cym/index.html
Gweithgaredd 3: Ystyried yr opsiynau benthyca arian i brynu car Fy nghar cyntaf Mae’r adnodd yn rhoi wyth math o opsiwn benthyca i’r dysgwyr i fenthyca £2,000 dros flwyddyn. Rhoddir y cyfraddau canran a’r cyfanswm i’w ad-dalu hefyd. Mae hyn yn cyflwyno’r dysgwyr i’r cysyniad o dalu yn ôl mwy na’r hyn rydych yn ei fenthyca. Nid yw’r gweithgaredd yn defnyddio APR (sy’n cael sylw yng Ngweithgaredd 5). Gall athrawon argraffu’r adnodd a gadael allan y swm ‘talu yn ôl’. Y dasg fyddai i’r dysgwyr gyfrifo faint sydd angen ei dalu yn ôl gan ddefnyddio’r cyfraddau canran a nodir.
Gweithgaredd 4: Deall y termau ‘benthyciwr’, ‘rhoddwr benthyg’, ‘credyd’ a ‘dyled’ Adnodd:Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Dylai’r gweithgaredd Testun 4 ‘Beth yw credyd a dyled?’ (tudalennau 36–37) gael ei ddefnyddio gyda Thaflen adnoddau 1 (tudalen 41). Lawrlwytho’r adnodd ynwww.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy
Rhoddwr benthyg Benthyciwr Credyd Dyled Gweithgaredd 4: Deall y termau ‘benthyciwr’, ‘rhoddwr benthyg’, ‘credyd’ a ‘dyled’ Gweithgaredd trafod: Beth yw ystyr y termau hyn? Gweler Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru ,Testun 4 'Beth yw credyd a dyled?' (tudalennau 36–37) a Thaflen adnoddau 1 (tudalen 41).
Gweithgaredd 5: Beth yw credyd a dyled? Adnodd:Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Dylai’r gweithgaredd Testun 4 ‘Beth yw credyd a dyled?’ (tudalennau 36–37) gael ei ddefnyddio gyda Thaflenni adnoddau 2 a 3 (tudalennau 42–43) o’r enw ‘Cardiau ysgogi’ a ‘Thabl APR’. Lawrlwytho’r adnodd yn www.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy
Gweithgaredd 5: Beth yw credyd a dyled? Beth yw credyd a dyled? Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys trafodaeth am APR. Mae’r dysgwyr yn cael dewis o wyth cerdyn ysgogi (pedair enghraifft isod).
Gweithgaredd 5: Beth yw credyd a dyled? • Beth yw credyd a dyled? • Mae’r cwestiynau isod yn ceisio annog trafodaeth am yr wyth math o fenthyca a gwerthoedd APR. • Beth ydych chi’n ei wybod ac yn teimlo am bob math o fenthyca? • Pa fathau o fenthyca allech chi ystyried eu defnyddio a phryd? • Pa rai allech chi ystyried eu hosgoi a pham?
Gweithgaredd 6: Dweud ie neu na i ddyled Adnodd: Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Dylai gweithgaredd Testun 4 ‘Dweud ie neu na i ddyled’ (tudalennau 38–39) gael ei ddefnyddio gyda Thaflenni adnoddau 4–6 (tudalennau 44–48). Lawrlwytho’r adnodd yn www.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy
Gweithgaredd 6: Dweud ie neu na i ddyled • Mae’r gweithgaredd yn ystyried rhai sefyllfaoedd pan fydd rhywun yn meddwl mynd i ddyled (cael benthyciad). • Mae’r dysgwyr yn darllen y senarios ac yn penderfynu beth ddylai pob person ei wneud. • Mae rhai cwestiynau i’w gofyn i’r dysgwyr yn cynnwys y canlynol. • Pa fenthyciwr sy’n cynnig yr opsiwn gorau? • All y benthyciwr fenthyca llai? • Oes gwir angen iddo ei brynu? • Allen nhw cynilo i’w brynu yn lle hynny?
Gweithgaredd 7: Llythyrau at Jade Adnodd: Taflen adnoddau rheoli arian: Llythyrau at Jade Gweithgaredd: Mae’r dysgwyr yn darllen y llythyrau at Jade ac yn trafod ei hamgylchiadau ariannol gwahanol dros gyfnod o 25 mlynedd.
Gweithgaredd 7: Llythyrau at Jade Llythyrau at Jade Mae’r gweithgaredd hwn yn adrodd hanes menyw ifanc ffug o’r enw Jade Carpenter drwy gyfres o lythyrau wedi’u hysgrifennu ati gan wahanol bobl a sefydliadau. Mae’r llythyrau i gyd am arian ac maen nhw’n dangos hanes Jade yn raddol mynd i ddyled. Mae’r llythyr cynted wedi’i ddyddio 2000, pan oedd Jade yn 10 oed, ac mae’r llythyr olaf, Dyfarniad Llys Sirol, wedi’i ddyddio 2025, pan mae hi’n 35 oed.
Gweithgaredd 8: Byw nawr, talu wedyn Adnodd: Rheoli Arian Gweithgaredd 14, ‘Byw nawr, talu wedyn’ (tudalennau 107–111) Lawrlwytho’r adnodd yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=44956&lang=cy
Gweithgaredd 8: Byw nawr, talu wedyn Mae rhan gyntaf y gweithgaredd hwn ar ffurf cwis. Mae’r dysgwyr yn ymateb i 10 datganiad sy’n dangos eu hymagwedd at gredyd a dyled. Mae ail ran y gweithgaredd yn dasg ‘gwybodaeth doredig’ am gymeriad o’r enw Joy sydd wedi mynd i ddyled. Mae’r dysgwyr yn rhannu’r wybodaeth ar y cardiau er mwyn creu darlun llawn o’r hyn sydd wedi mynd o’i le i Joy a sut y gellid fod wedi osgoi ei thrafferthion ariannol. Mae cynllun gweithgaredd manwl yn cael ei roi gyda’r adnodd.
Rhagor o adnoddau: Adding up to a lifetime Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 i Gyfnod Allweddol 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl: • Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn) • Bywyd gwaith • Perthnasoedd • Bywyd newydd • Ymddeoliad egnïol. www.addinguptoalifetime.org.uk Mae amrywiaeth o bynciau rheoli arian wedi’i chynnwys. Mae tiwtorial sain gyda phob modiwl y gallwch wrando arno yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Gwefannau ac adnoddau • www.moneyadviceservice.org.uk/cyMae’n rhoi cyngor a llyfrynnau gwybodaeth am ddim. Gweler y llyfryn perthnasol ar gyfer y modiwl hwn o’r enw ‘Borrowing money’. • www.barclaysmoneyskills.com/en/Information/resource-centre.aspxPecyn Adnoddau Cyfnod Allweddol 2 Sgiliau Arian Barclays (lawrlwytho).Pecyn Adnoddau Cyfnod Allweddol 3 Sgiliau Arian Barclays (lawrlwytho).Pecyn Adnoddau Cyfnod Allweddol 4 Sgiliau Arian Barclays (lawrlwytho). • www.pfeg.org Mae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. • www.nationwideeducation.co.uk/finance-education/personal/teachers/04-11_counting-on-cost-of-money/fact-work-sheets-welsh.phpSgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau* a thaflenni gwaith*i ddysgwyr 4 i 18 a mwy (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein). * Fersiynau Cymraeg ar gael. • www.bbc.co.uk/learningzone/clips/cashk-tz-pt-2-3-credit/12162.html Clip cartŵn pum munud yn dangos sut y mae prynu eitem ar gerdyn credyd yn arwain at dalu mwy (addas i ddysgwyr Blwyddyn 7).