1 / 28

Canllawiau rheoli perfformiad

Canllawiau rheoli perfformiad. Rheoli perfformiad Rhan A: trosolwg. Cyflwyniad i’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011 (i’w rhoi ar waith erbyn 1 Ionawr 2013). Amcanion y sesiwn. Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i’w rhoi ar waith yn effeithiol.

jett
Télécharger la présentation

Canllawiau rheoli perfformiad

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Canllawiau rheoli perfformiad

  2. Rheoli perfformiadRhan A: trosolwg Cyflwyniad i’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011(i’w rhoi ar waith erbyn 1 Ionawr 2013)

  3. Amcanion y sesiwn Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i’w rhoi ar waith yn effeithiol. Adolygu rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol. Adolygu sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio yng nghyd-destun ehangach prosesau gwella’r ysgol. Adolygu gweithredu’r broses rheoli perfformiad, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy’n rhan ohoni.

  4. Gofynion diwygiedig Amserlen Rheoliadau diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012. Defnyddio'r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012. Diwygiadau Mae gan reoli perfformiad gysylltiad clir â: safonau ac ymarfer proffesiynol blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol data perfformiad dysgwyr cynnydd tâl. Mae ymarferwyr yn cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu. Mwy o gyfranogiad gan yr awdurdod lleol ym mhroses rheoli perfformiad ysgolion. Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid. Dylech gadw dogfennau rheoli perfformiad am o leiaf tair blynedd.

  5. Diben rheoli perfformiad ‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac fel arweinwyr timau ysgol. Mae’n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a’u hadolygu yng nghyd-destun cynlluniau gwella’r ysgol. Mae’n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain yn fwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli perfformiad i benaethiaid (Llywodraeth Cymru, 2012)

  6. Rôl rheoli perfformiad yn y broses gwella’r ysgol Mae rheoli perfformiad yn cefnogi: ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau athrawon i ddiwallu anghenion dysgwyr a gwella safonau. Mae rheoli perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i: ddatblygu’r holl ymarferwyr yn effeithiol sicrhau boddhad yn y swydd lefelau uchel o arbenigedd dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol.

  7. Y cylch gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Gwerthuswr Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu a gwerthusai Dadansoddiad Datganiad gwerthuso strategol Gosod amcanion Cytuno ar ddatblygiad Monitro proffesiynol parhaus Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwad addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy’n briodol i rôl yr athro/athrawes

  8. Rolau a chyfrifoldebau

  9. Rolau a chyfrifoldebau yn y broses rheoli perfformiad Partneriaid allweddol Corff llywodraethu/corff perthnasol. Pennaeth. Gwerthuswr(gwerthuswyr). Gwerthusai(gwerthuseion). Awdurdod lleol. Llywodraeth Cymru.

  10. Cyfrifoldebau’r corff llywodraethu/corff perthnasol Rhaid i’r corff llywodraethu/corff perthnasol: adolygu a chytuno ar y polisi rheoli perfformiad yn flynyddol monitro effeithiolrwydd ac effaith y broses rheoli perfformiad adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso rhoi unrhyw broses apelio ar waith cadw copi o ddatganiadau’r pennaeth am o leiaf tair blynedd anfon copi o ddatganiad y pennaeth at y Prif Swyddog Addysg (PSA).

  11. Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso A. Ym mha ffordd y mae’r corff llywodraethu’n: adolygu ac yn cytuno ar y polisi rheoli perfformiad? monitro effeithiolrwydd ac effaith y broses rheoli perfformiad? adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso? rhoi unrhyw broses apelio ar waith? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. Oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 1 i hwyluso’r drafodaeth.)

  12. Cyfrifoldebau’r pennaeth o fewn y broses rheoli perfformiad Rhaid i benaethiaid: adolygu a chytuno ar bolisi rheoli perfformiad gyda’r corff llywodraethu a’r awdurdod lleol pennu amseru cylch gwerthuso’r ysgol penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro/athrawes yn yr ysgol a sicrhau bod gwerthuswyr yn cynnal eu cyfrifoldebau sicrhau monitro addysgu ac adborth datblygu sicrhau bod gan athrawon gynlluniau unigol a datblygiad proffesiynol a dargedir sy’n cefnogi gwella’r ysgol gyfan adrodd am weithrediad ac effeithiolrwydd gweithdrefnau rheoli perfformiad yn flynyddol i’r corff llywodraethu, gan gynnwys anghenion hyfforddi a datblygu athrawon a’r pennaeth cadw copi o’r holl ddatganiadau gwerthuso am o leiaf tair blynedd.

  13. Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso A. Ym mha ffordd y mae’r pennaeth yn: adolygu’r polisi rheoli perfformiad ac yn cytuno arno gyda’r corff llywodraethu a’r awdurdod lleol? pennu amseru cylch gwerthuso’r ysgol? penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro/athrawes yn yr ysgol a sicrhau bod y gwerthuswyr yn cynnal eu cyfrifoldebau? sicrhau monitro addysgu ac adborth datblygu? sicrhau bod gan yr athro/athrawes gynlluniau unigol a datblygiad proffesiynol a dargedir sy’n cefnogi gwella’r ysgol gyfan? adrodd am effeithiolrwydd gweithdrefnau rheoli perfformiad yr ysgol yn flynyddol i’r corff llywodraethu? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 2 i hwyluso’r drafodaeth.)

  14. Rôl y gwerthuswr(gwerthuswyr) (athro/athrawes, pennaeth, llywodraethwr, enwebai’r awdurdod lleol) Rhaid i werthuswyr: gytuno a chofnodi amcanion gyda’r gwerthusai monitro ac adolygu perfformiad y gwerthusai trwy gydol y cylch trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol y gwerthusai paratoi’r datganiad gwerthuso blynyddol gwneud argymhellion ysgrifenedig lle mae’r gwerthusai’n gymwys am gynnydd cyflog yn unol âDogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, lle bo’n addas.

  15. Cyfrifoldebau’r gwerthuswr(gwerthuswyr) gynllunio’r cylch gwerthuso gyda’r gwerthusai: gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch rheoli perfformiad (adolygiad ffurfiannol) cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda’r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn) gweithredu’n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad trefnu bod datganiad gwerthuso llawn ac atodiad i’r datganiad gwerthuso ar gael i’r personél priodol. Mae gwerthuswr(gwerthuswyr) yn cynnal eu cyfrifoldebau drwy:

  16. A. Ym mha ffordd y mae gwerthuswr(gwerthuswyr) yn: cynllunio’r cylch gwerthuso gyda’r gwerthusai? gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol? trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol? parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch rheoli perfformiad (adolygiad ffurfiannol)? gweithredu’n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad? cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda’r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)? trefnu bod datganiad gwerthuso ar gael i’r personél priodol? Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 3 i hwyluso’r drafodaeth.)

  17. Rôl y gwerthusai (athro/athrawes a phennaeth) Rhaid i werthuseion: drafod, cynllunio a gosod amcanion gyda’u gwerthuswr(gwerthuswyr) cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol.

  18. Cyfrifoldebau’r gwerthusai (athro/athrawes a phennaeth) Rhaid i’r gwerthuseion: drafod gosod amcanion gyda’r gwerthuswr(gwerthuswyr), o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data perthnasol a thystiolaeth o berfformiad cymryd rhan mewn trefniadau monitro cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol.

  19. A. Ym mha ffordd y mae’r gwerthuseion yn: trafod gosod amcanion gyda’u gwerthuswr o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol? hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth perthnasol? cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol? cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso’r drafodaeth.) Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso

  20. Yr awdurdod lleol Rhaid i’r awdurdod lleol: gymeradwyo polisi rheoli perfformiad yr ysgol enwebu un neu ddau werthuswr yr awdurdod lleol i wasanaethu fel gwerthuswyr ar banel gwerthuso’r pennaeth ymgynghori â’r pennaeth ar enwebai(enwebeion) yr awdurdod lleol darparu enwebeion ar gyfer y broses apeliadau derbyn, a chadw am dair blynedd, datganiad gwerthuso’r pennaeth wedi’i lofnodi a’i dyddio sicrhau bod gweithdrefnau gwerthuso yn eu lle i athrawon digyswllt.

  21. Adolygu’r broses rheoli perfformiad

  22. Y polisi rheoli perfformiad ‘Dylai’r polisi sefydlu fframwaith sy’n galluogi’r holl staff i gytuno ac adolygu blaenoriaethau ac amcanion o fewn cyd-destun cynllun datblygu’r ysgol a’u hanghenion datblygu proffesiynol eu hunain. Bydd yn gymorth yn y gwaith o ddatblygu’r holl staff ac yn helpu i godi safonau cyflawniadau disgyblion lle bo’n briodol.’ Rheoli perfformiad i athrawon (Llywodraeth Cymru, 2012)

  23. Y polisi rheoli perfformiad Rhaid bod y polisi rheoli perfformiad yn glir ynghylch: gweithredu gweithdrefnau disgwyliadau blaenoriaethau monitro ac asesu adolygu.

  24. Elfennau allweddol polisi rheoli perfformiad Cyflwyniad: yr hyn y mae’r polisi’n ceisio gyflawni. Rolau a chyfrifoldebau. Amserlen ar gyfer adolygiadau. Y cylch rheoli perfformiad. Y weithdrefn apelio. Cyfrinachedd. Mynediad i ddeilliannau.

  25. Y broses rheoli perfformiad Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy: ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles dysgwyr gwerthfawrogi’r rôl hanfodol sydd gan athrawon ymrwymiad i berfformiad a lles staff meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng yr athro/athrawes a’r gwerthuswr, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl annog rhannu arfer da integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol.

  26. A. Ym mha ffordd y mae’r broses rheoli perfformiad yn: cefnogi gweledigaeth yr ysgol? cyfrannu at wella cyrhaeddiad a lles dysgwyr? cynorthwyo datblygiad proffesiynol yr holl staff? meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng y gwerthuswr a’r gwerthusai, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl? annog rhannu arfer da? ategu’r ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso’r drafodaeth.) Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso

  27. A. Ym mha ffordd y mae’r polisi a gweithdrefnau rheoli perfformiad yn: integreiddio’r broses rheoli perfformiad ym ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol? hyrwyddo eglurder ar: – weithredu’r broses? – rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau’r polisi? – gwerthuso effeithiolrwydd y polisi? creu awyrgylch o barch ac ymddiriedaeth proffesiynol? annog lledaenu arfer da? nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso’r drafodaeth.) Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso

  28. Ac yn olaf . . . ‘Mae rheoli perfformiad yn canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain mwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli perfformiad i athrawon (Llywodraeth Cymru, 2012)

More Related