1 / 35

Canllawiau rheoli perfformiad

Canllawiau rheoli perfformiad. Rheoli perfformiad Rhan Ch: gwerthuseion. Cyflwyniad i’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011 a rôl y gwerthusai (i’w rhoi ar waith erbyn Ionawr 2013). Amcanion y sesiwn.

linore
Télécharger la présentation

Canllawiau rheoli perfformiad

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Canllawiau rheoli perfformiad

  2. Rheoli perfformiadRhan Ch: gwerthuseion Cyflwyniad i’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011 a rôl y gwerthusai (i’w rhoi ar waith erbyn Ionawr 2013)

  3. Amcanion y sesiwn Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i’w rhoi ar waith yn effeithiol. Adolygu rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol. Adolygu sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio yng nghyd-destun ehangach prosesau gwella’r ysgol. Adolygu gweithredu’r broses rheoli perfformiad, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n rhan ohoni. Deall rôl y gwerthusai.

  4. Atgrynhoi a throsolwg o’r gofynion rheoli perfformiad diwygiedig

  5. Gofynion diwygiedig Amserlen Rheoliadau diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012. Defnyddio’r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012. Diwygiadau Mae gan reoli perfformiad gysylltiad glir â: – safonau ac ymarfer proffesiynol – blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol – data perfformiad dysgwyr – cynnydd tâl. Mae ymarferwyr yn cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu. Mwy o gyfranogiad gan yr awdurdod lleol ym mhroses rheoli perfformiad yr ysgol. Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid. Dylech gadw dogfennau rheoli perfformiad am o leiaf tair blynedd.

  6. Diben rheoli perfformiad ‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac fel arweinwyr timau ysgol. Mae’n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a’u hadolygu yng nghyd-destun cynlluniau gwella’r ysgol. Mae’n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain yn fwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli perfformiad i benaethiaid (Llywodraeth Cymru, 2012)

  7. Rôl rheoli perfformiad yn y broses gwella’r ysgol Mae rheoli perfformiad yn cefnogi: ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau athrawon i ddiwallu anghenion dysgwyr a gwella safonau. Mae rheoli perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i: ddatblygu’r holl ymarferwyr yn effeithiol sicrhau boddhad yn y swydd lefelau uchel o arbenigedd dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol.

  8. Y cylch gwerthuso

  9. Y cylch gwerthuso Bydd y pennaeth yn pennu amser y cylch gwerthuso i bob athro/athrawes. Rhaid i’r corff llywodraethu bennu cylch gwerthuso ar gyfer y pennaeth. Fel arfer blwyddyn fydd hyd y cylch gwerthuso.

  10. Y cylch gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Gwerthuswr Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu a gwerthusai Dadansoddiad Datganiad gwerthuso strategol Gosod amcanion Cytuno ar ddatblygiad Monitro proffesiynol parhaus Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwad addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy’n briodol i rôl yr athro/athrawes

  11. Rolau a chyfrifoldebau’r gwerthusai

  12. Rolau a chyfrifoldebau yn y broses rheoli perfformiad Partneriaid allweddol Corff llywodraethu/corff perthnasol. Pennaeth. Gwerthuswr(gwerthuswyr). Gwerthusai(gwerthuseion). Awdurdod lleol. Llywodraeth Cymru.

  13. Rôl y gwerthusai Trafod, cynllunio a gosod amcanion gyda’i gwerthuswr(gwerthuswyr). Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu. Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol.

  14. Cyfrifoldebau’r gwerthusai Rhaid i’r gwerthuseion: drafod pennu amcanion gyda’r gwerthuswr, gan ystyried cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data perthnasol a thystiolaeth o berfformiad cymryd rhan mewn trefniadau monitro cadw a chynnal cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol.

  15. Gwybodaeth a dealltwriaeth Rhaid bod gan werthuseion dealltwriaeth gadarn o: gyd-destun yr ysgol data perfformiad ysgol gyfan gan gynnwys Set Data Craidd Cymru Gyfan blaenoriaethau gwella’r ysgol blaenoriaethau gwella’r awdurdod lleol a chenedlaethol data lefel dysgwyr a gwybodaeth ar y grwpiau addysgu y mae ganddynt gyfrifoldeb drostynt y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru gweithdrefnau rheoli perfformiad.

  16. Adolygu perfformiad

  17. Y cyfarfod gwerthuso blynyddol Mae’n gyfle ffurfiol i: gydnabod cyflawniadau a dathlu llwyddiant trafod meysydd i’w gwella a datblygiad proffesiynol pellach ac os dymunir: cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys amcanion ar gyfer y cylch rheoli perfformiad dilynol.

  18. Yr adolygiad perfformiad Rhaid i’r gwerthuswr(gwerthuswyr) a’r gwerthusai gynnal adolygiad gwerthuso blynyddol gyda’r amcan o: – asesu’r graddau y mae’r gwerthusai wedi cyflawni’r amcanion ar gyfer y cylch – pennu a fu llwyddiant cyffredinol mewn perfformiad wrth gadarnhau bod y gwerthusai wedi bodloni’r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon – nodi’r angen ar gyfer cefnogaeth, hyfforddiant a datblygiad ychwanegol. Dylid ystyried cofnod ymarfer, adolygu a datblygu’r gwerthusai wrth adolygu perfformiad.

  19. Cynllunio ar gyfer yr adolygiad perfformiad blynyddol Caniatáu digon o amser ar gyfer yr adolygiad. Rhaid i’r gwerthusai(gwerthuseion) gael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 niwrnod ysgol ymlaen llaw. Dylid anfon y cofnod ymarfer, adolygu a datblygu at werthuswr(gwerthuswyr) o leiaf pum niwrnod cyn y cyfarfod adolygu.

  20. Paratoi ar gyfer yr adolygiad perfformiad blynyddol Pennu sut i gadw cofnodion ac ysgrifennu’r datganiadau gwerthuso. Nodi data a thystiolaeth briodol i’w defnyddio yn unol â’r rheoliadau. Penderfynu sut caiff amcanion o’r cylch diwethaf eu hystyried. Dylai’r gwerthusai hunanfyrfyrio cyn y cyfarfod. Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu gan gynnwys arsylwadau addysgu.

  21. Hunanfyfyrio’r gwerthusai Dylai’r gwerthusai ystyried perfformiad yn erbyn: ei asesiad ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion tystiolaeth o berfformiad yn y cylch manteision unrhyw datblygiad proffesiynol a gafwyd unrhyw adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn unrhyw ffactorau sydd wedi effeithio ar berfformiad amcanion posib ar gyfer y cylch nesaf.

  22. Dogfennaeth i’w hystyried Unrhyw ddata a gwybodaeth perfformiad ysgol perthnasol. Cynllun gwella’r ysgol/cynllun gwella’r ardal. Cofnod hunanwerthuso’r ysgol/ardal. Cynllun ôl-arolygiad Estyn. Y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru. Unrhyw deunyddiau perthnasol eraill, gan gynnwys y rheini o arolygiadau’r awdurdod lleol a’r matrics categoreiddio rhanbarthol.

  23. Y datganiad gwerthuso Rhaid i’r gwerthuswr(gwerthuswyr) cyflwyno datganiad ysgrifenedig o fewn 10 niwrnod ysgol. Rhaid darparu anghenion hyfforddiant a datblygu mewn atodiad. Gall y gwerthusai ychwanegu sylwadau at y datganiad o fewn 10 niwrnod – bydd y rheini yn ffurfio rhan o’r datganiad. Mae’r datganiad gwerthuso’n bersonol ac yn gyfrinachol. Dylid rhoi copi o’r datganiad gwerthuso i’r personél priodol.

  24. Gosod amcanion

  25. Gosod yr amcanion Byddai tri amcan fel arfer yn ddigonol. Dylai amcanion y gwerthusai: – gyfrannu at wella cynnydd dysgwyr yn ysgol – ystyried tystiolaeth briodol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol – canolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu lle gellir llunio barn sy’n seiliedig ar dystiolaeth – cael eu cofnodi yn y datganiad o amcanion.

  26. glir – heb unrhyw bosibilrwydd o amwysedd neu ddryswch ynglŷn â’r deilliant a fwriedir cryno – gan ddefnyddio cyn lleied o eiriau a phosib i gyfleu’r bwriad mesuradwy – wedi’u mynegi fel y gellir cytuno ar feini prawf a fydd yn dangos a yw’r amcan wedi’i gyflawni ai peidio heriol – yn ddigon heriol, o gofio amgylchiadau’r ysgol, i gyflawni gwelliant sylweddol datblygol – yn cefnogi gwelliant yr ysgol a’r gwerthusai. Mae angen i’r amcanion fod yn:

  27. Nodi anghenion datblygiad proffesiynol Dylai datblygiad proffesiynol: gefnogi’r gwerthusai wrth wella sgiliau a gwybodaeth cefnogi amcanion cytunedig datblygu cryfderau mynd i’r afael â meysydd ar gyfer datblygiad personol neu dwf proffesiynol nodi cyfleoedd i rannu arfer da.

  28. Monitro perfformiad

  29. Monitro perfformiad Dylai gweithdrefnau monitro: – gael eu trafod a’u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio– cynnwys amrywiaeth o ddulliau. Dylid monitro cynnydd drwy gydol y flwyddyn. Dylid casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Rhaid i’r gwerthusai gynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol.

  30. Monitro cynnydd Gall ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau monitro i gasglu digon o dystiolaeth briodol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Gellir casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys: cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng y gwerthuswr(gwerthuswyr) a’r gwerthusai cofnod ymarfer, adolygu a datblygu’r gwerthusai cynllun gwella’r ysgol/cynllun gwella’r ardal data a gwybodaeth perfformiad ysgol y broses hunanwerthuso barhaus yr ysgol arsylwadau addysgu (lle y bo’n addas).

  31. Arsylwadau addysgu Natur, diben a chanolbwynt wedi’u cytuno rhwng y gwerthuswr a’r gwerthusai cyn yr arsylwad. Rhaid i arsylwadau at ddiben rheoli perfformiad gael eu cyflawni gan arsylwr â statws athro/athrawes cymwysedig (SAC) yn unig. Dylid cynnal arsylwadau yn ystod gwersi a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw. Rhaid rhoi o leiaf pum niwrnod ysgol o rybudd. O leiaf un arsylwad y flwyddyn ar gyfer rheoli perfformiad. Rhoddir adborth cyn gynted â phosib (o fewn pum niwrnod ysgol fel arfer). Dylid cofnodi canlyniadau’r arsylwad, gan gynnwys adborth – dylid rhoi cyfle i’r gwerthusai ychwanegu sylwadau.

  32. Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso A. Ym mha ffordd y mae’r gwerthuseion yn: trafod gosod amcanion gyda’u gwerthuswr(gwerthuswyr) o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol? hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth berthnasol? cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol? cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso’r drafodaeth.)

  33. Rôl y gwerthuswr Cytuno a chofnodi amcanion gyda’r gwerthusai. Monitro ac adolygu perfformiad trwy gydol y cylch. Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol. Trefnu adolygiad y gwerthusai. Paratoi’r datganiad gwerthuso blynyddol. Gwneud argymhellion ysgrifenedig lle mae’r gwerthusai yn gymwys am gynnydd cyflog yn unol âDogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, lle bo’n addas.

  34. Y broses rheoli perfformiad Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy: ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles dysgwyr gwerthfawrogi’r rôl hanfodol sydd gan athrawon ymrwymiad i berfformiad a lles staff meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng yr athro/athrawes a’r gwerthuswr, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl annog rhannu arfer da integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol.

  35. Ac yn olaf . . . ‘Mae rheoli perfformiad yn canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain mwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli perfformiad i athrawon (Llywodraeth Cymru, 2012)

More Related