1 / 42

Rheoli Perfformiad Rhan C: Gwerthuswr

Rheoli Perfformiad Rhan C: Gwerthuswr. Cyflwyniad i'r Rheoliadau Rheoli Perfformiad Diwygiedig a rôl y Gwerthuswr Ionawr 2011 (i'w rhoi ar waith erbyn mis Ionawr 2013). Amcanion y Sesiwn. Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol

nairi
Télécharger la présentation

Rheoli Perfformiad Rhan C: Gwerthuswr

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Rheoli Perfformiad Rhan C: Gwerthuswr Cyflwyniad i'r Rheoliadau Rheoli Perfformiad Diwygiedig a rôl y Gwerthuswr Ionawr 2011 (i'w rhoi ar waith erbyn mis Ionawr 2013)

  2. Amcanion y Sesiwn • Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol • Adolygu rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol • Adolygu sut y bydd rheoli perfformiad yn rhan o gyd-destun ehangach proses gwella'r ysgol • Adolygu gweithredu'r broses rheoli perfformiad gan gynnwys rolau a chyfrifodebau'r rhai sy'n rhan ohoni • Deall rôl y gwerthuswr

  3. Atgrynhoi a Throsolwg o Ofynion Rheoli Perfformiad Diwygiedig

  4. Gofynion Diwygiedig Amserlen • Rheoliadau Diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012 • Defnyddio'r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012 Diwygiadau • Mae gan reoli perfformiad gysylltiad clir â - safonau proffesiynol • blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol • data perfformiad disgyblion • Mwy o gyfranogiad gan yr Awdurdod Lleol ym mhroses rheoli perfformiad ysgolion. • Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid

  5. Diben Rheoli Perfformiad ‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac arweinwyr timau ysgolion. Mae'n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr i gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a'u hadolygu yng nghyd-destun cynllun gwella'r ysgol. Mae'n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Canllawiau Rheoli Perfformiad Ebrill 2010

  6. Rôl Rheoli Perfformiad yn y Broses Gwella Ysgolion Mae Rheoli Perfformiad yn cefnogi • ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau • athrawon i ddiwallu anghenion plant a chodi safonau Mae Rheoli Perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i • ddatblygu'r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd • lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol

  7. Y Cylch Gwerthuso

  8. Y Cylch Gwerthuso • Bydd y pennaeth yn pennu amser y cylch gwerthuso i bob athro • Rhaid i'r corff llywodraethu bennu cylch gwerthuso ar gyfer y pennaeth • Fel arfer blwyddyn fydd hyd y cylch gwerthuso

  9. Y Cylch Gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu Gwerthuswr Dadansoddiad strategol Datganiad gwerthuso a Gosod Amcanion Gwerthusai Cytuno ar amcanion Monitro Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwi addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy'n briodol i rôl yr athro

  10. Rolau a Chyfrifoldebau y Gwerthuswr

  11. Rolau a Chyfrifoldebau yn y Broses Rheoli Perfformiad Aelodau Allweddol • Y corff llywodraethu/y corff priodol • Y Pennaeth • Gwerthuswr/gwerthuswyr • Y gwerthusai • Yr Awdurdod Lleol • Llywodraeth Cymru

  12. Rôl y Gwerthuswr • Cytuno a chofnodi amcanion gyda'r person sy'n cael ei arfarnu • Monitro ac adolygu perfformiad trwy'r cylch • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol • Paratoi'r datganiad gwerthuso blynyddol • Gwneud argymhelliad ar gynnydd tâl lle mae'r person sy'n cael ei gwerthuso'n gymwys am gynnydd tâl o dan Ddogfen Tâl a Thelerau Athrawon Ysgol (STPCD), lle y bo'n briodol.

  13. Cyfrifoldebau'r Gwerthuswr/Gwerthuswyr Maent yn cynnal eu cyfrifoldebau drwy:- • Gynllunio'r cylch gwerthuso gyda'r gwerthusai • Osod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol • Drafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol • Barhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch RhP (adolygiad ffurfiannol) • Gynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn) • Weithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad • Drefnu i'r datganiad gwerthuso fod ar gael i'r personél priodol

  14. Gwybodaeth a Dealltwriaeth Rhaid bod gwerthuswyr yn deall • cyd-destun yr ysgol • data perfformiad ysgol gan gynnwys Set Data Craidd Cymru Gyfan • blaenoriaethau gwella'r ysgol • blaenoriaethau gwella'r Awdurdod Lleol a chenedlaethol • y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer gweithwyr proffesiynol yng Nghymru • swydd y gwerthusai • cynllun hyfforddi'r ysgol a'r gyllideb briodol • gweithdrefnau rheoli perfformiad.

  15. Nodweddion y Gwerthuswyr Dyma nodweddion i'w hystyried wrth ddewis gwerthuswyr: • sgiliau cyfathrebu da • sgiliau rhyngbersonol da • sgiliau caffael gwybodaeth a dadansoddi data da gan gynnwys y gallu i ddeall, dehongli a dadansoddi dangosyddion perfformiad allweddol sy'n ymwneud â pherfformiad yr ysgol • perthynas waith dda gyda'r gwerthusai, gan gynnwys ei ymddiriedaeth a'i barch • digon o amser i ymgymryd â'i rôl fel arfarnwr a gwneud cyfiawnder â'r broses.

  16. Hunanasesiad Gwerthuswr • Dylai gwerthuswr gwblhau hunanasesiad i nodi eu hanghenion datblygu. • Gellir gwneud mwy o hyfforddiant yn y meysydd datblygu a nodir i sicrhau y gwneir y rôl yn effeithiol • Nodir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru y dylai'r holl gwerthuswyr gael eu hyfforddi'n briodol i ymgymryd â'r rôl hyderus iawn angen datblygu • sgiliau cyfathrebu da • sgiliau rhyngbersonol da • sgiliau caffael gwybodaeth da • y gallu i farnu perfformiad yn seiliedig ar dystiolaeth bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau rheoli perfformiad.

  17. Adolygu Perfformiad

  18. Y Cyfarfod Gwerthuso Blynyddol Cyfle ffurfiol i: • gydnabod cyflawniadau a dathlu llwyddiant • trafod meysydd ar gyfer gwella • cytuno ar flaenoriaethau'r dyfodol, gan gynnwys amcanion ar gyfer y cylch Rheoli Perfformiad canlynol

  19. Yr Adolygiad Perfformiad • Rhaid i'r gwerthuswyr a'r gwerthusai gynnal adolygiad gwerthuso blynyddol gyda'r amcan o • Asesu'r graddau y mae'r gwerthusai wedi cyflawni'r amcanion ar gyfer y cylch • Pennu a fu llwyddiant cyffredinol mewn perfformiad wrth gadarnhau bod y pennaeth wedi bodloni'r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon • Nodi'r angen am gefnogaeth, hyfforddiant a datblygiad ychwanegol • Dylid ystyried AYD y person sy'n cael ei arfarnu wrth adolygu perfformiad

  20. Paratoi ar gyfer Adolygiad Perfformiad Blynyddol • Caniatáu digon o amser ar gyfer yr adolygiad • Rhaid i'r person sy'n cael ei gwerthuso gael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 niwrnod ysgol ymlaen llaw • Rhaid anfon y Cofnod Adolygu a Datblygiad Proffesiynol (PRD) at gwerthuswyr o leiaf 5 niwrnod cyn y cyfarfod adolygu

  21. Paratoi ar gyfer yrAdolygiad Perfformiad Blynyddol • Pennu sut i gadw cofnodion ac ysgrifennu datganiad arfarnu • Nodi data a thystiolaeth briodol i'w defnyddio yn unol â'r rheoliadau • Penderfynu sut caiff amcanion o'r cylch diwethaf eu hystyried • Dylai'r person sy'n cael ei arfarnu hunanfyfyrio cyn y cyfarfod • Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu

  22. Hunanfyfyrio'r Gwerthusai Dylai'r gwerthusai ystyried perfformiad yn erbyn: • Ei asesiad ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion • Tystiolaeth o berfformiad yn y cylch • Manteision unrhyw ddatblygiad proffesiynol a gafwyd • Adolygiadau a gynhaliwyd mewn unrhyw flwyddyn • Unrhyw ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad • Amcanion posib ar gyfer y cylch nesaf

  23. Dogfennaeth i'w hystyried • Unrhyw ddata a gwybodaeth perfformiad ysgol perthnasol • Cynllun Gwella Ysgolion/Cynllun Ardal • Y cofnod hunanwerthuso ysgol/ardal • Cynllun ôl-arolygiad Estyn • Y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru • Deunyddiau perthnasol o adolygiadau'r awdurdod lleol - matrics categoreiddio rhanbarthol

  24. Paratoi ar gyfer yrAdolygiad Perfformiad Blynyddol • Caniatáu digon o amser ar gyfer yr adolygiad • Dylech gytuno ar arsylwadau addysgu ymlaen llaw gan roi o leiaf 5 niwrnod o rybudd • Dylai bod athrawon yn cael rhybudd ymlaen llaw am ddyddiad y cyfarfod adolygu • Dylai'r cofnod PRD gael ei anfon at arfarnwyr o leiaf 5 niwrnod cyn y cyfarfod adolygu

  25. Y Datganiad Gwerthuso • Rhaid cyflwyno datganiad ysgrifenedig o fewn 10 niwrnod ysgol • Rhaid darparu anghenion hyfforddiant a datblygiad mewn atodiad • Gall yr athro ychwanegu sylwadau i'r datganiad o fewn 10 niwrnod • Bydd hyn yn rhan o'r datganiad • Mae'r datganiad gwerthuso yn bersonol ac yn gyfrinachol

  26. Gosod Amcanion

  27. Gosod yr Amcanion • Byddai tri amcan fel arfer yn ddigon • Dylai amcanion y gwerthuswr • Gyfrannu at wella datblygiad disgyblion yn yr ysgol • Ystyried tystiolaeth briodol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol • Ganolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu lle gellir llunio barn sy'n seiliedig ar dystiolaeth

  28. Mae angeniamcanionfodyn: • Glir: heb unrhyw amwysedd na dryswch ynghylch y canlyniad a fwriedir. • Cryno: gan ddefnyddio cyn lleied o eiriau â phosib i gyfleu'r bwriad. • Mesuradwy: wedi'u mynegi yn y fath fodd fel y gellir cytuno ar feini prawf a fydd yn dangos a gyflawnwyd amcan ai peidio. • Heriol: dylent fod yn ddigon heriol, gan ystyried amgylchiadau'r ysgol, gan achosi gwelliant sylweddol. • Datblygiadol: gan gefnogi gwella'r ysgol a'r arfarnai.

  29. Nodi Anghenion Datblygiad Proffesiynol Dylai datblygiad proffesiynol: • gefnogi gwella gwybodaeth a sgiliau • gefnogi amcanion cytunedig • ddatblygu cryfderau • fynd i'r afael â meysydd ar gyfer datblygiad personol neu dwf proffesiynol

  30. Monitro Perfformiad

  31. Monitro Perfformiad • Dylai gweithdrefnau monitro: • gael eu trafod a'u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio • gynnwys amrywiaeth o ddulliau • Dylid monitro cynnydd drwy gydol y flwyddyn • Dylid casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol i sicrhau llunio barn gadarn • Rhaid i'r person sy'n cael ei arfarnu gadw cofnod adolygu a datblygu arfer diweddar (PRD)

  32. Monitro Gweithgarwch Dylai bod amrywiaeth o weithgarwch monitro sy'n casglu digon o dystiolaeth briodol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Gellir casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys:- • Cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng yr gwerthuswr/gwerthuswyr a'r gwerthusai • Cofnod Arfer, Adolygu a Datblyu'r gwerthusai • Cynllun Gwella Ysgol • Data a gwybodaeth perfformiad ysgol • Proses hunanwerthuso barhaus yr ysgol • Arsylwadau addysgu (lle y bo'n addas)

  33. Arsylwadau addysgu • Rhaid bod gan arsylwyr SAC • Dylid cynnal arsylwadau yn ystod gwersi a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw • Rhaid rhoi o leiaf 5 niwrnod ysgol o rybudd • O leiaf un arsylwad y flwyddyn - mwy â chaniatâd • Rhoddir adborth cyn gynted â phosib • Dylid cofnodi canlyniadau'r arsylwad • Gall yr athro ychwanegu sylwadau

  34. Rheoli Tanberfformiad • Nid yw'r cyfarfod adolygu a'r datganiad gwerthusiad yn rhan o weithdrefnau disgyblu cymhwysedd na gallu ffurfiol. • Bydd rheolaeth linell effeithiol â disgwyliadau clir a chefnogaeth briodol yn helpu wrth nodi a chyfeirio at unrhyw wendid mewn perfformiad. • Gall y rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch materion perfformio, tâl, dyrchafu, y diswyddo neu ddisgyblu ystyried datganiadau gwerthuso

  35. Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae arfarnwyr yn • Cynllunio'r cylch gwerthuso gyda'r gwerthusai? • Gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol? • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol? • Parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch RhP (adolygiad ffurfiannol)? • Gweithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad? • Cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)? • Trefnu i'r datganiad gwerthuso fod ar gael i'r personél priodol? B. Sut mae RhP yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 3 i hwyluso'r drafodaeth

  36. Rolau a Chyfrifoldebau’r Gwerthuseion

  37. Rôl y Gwerthusai • Trafod a gosod set o amcanion gyda'r gwerthuswr/gwerthuswyr • Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol

  38. Cyfrifoldebau'r Gwerthusai • Trafod gosod amcanion gyda'r gwerthuswr o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol • Hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data perthnsaol a thystiolaeth o berfformiad • Cymryd rhan wrth fonitro trefniadau a chynnal a chadw cofnod datblygu ac adolygu arfer diweddar • Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol

  39. Myfyrio a Thrafod A. Ym mha ffyrdd y mae'r gwerthusai’n: • Trafod gosod amcanion gyda'r gwerthuswr o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol? • Hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth priodol? • Cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod AYD diweddar? • Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol? B. Sut ydych chi'n gwybod yr hyn sy'n digwydd ac a yw'n rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso'r drafodaeth

  40. Dyma Arfer Gorau Mewn Rheoli Perfformiad: • Ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles disgyblion; • Gwerthfawrogi'r rôl hanfodol sydd gan athrawon; • Ymrwymiad i berfformiad a lles staff; • Ymddiriedaeth rhwng yr athro a'r gwerthuswr, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl; • Annog rhannu arfer da; • Integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol.

  41. Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae'r Broses Rheoli Perfformiad yn • Cefnogi gweledigaeth yr ysgol? • Cyfrannu at wella cyflawniad a lles disgyblion? • Helpu gyda datblygiad proffesiynol yr holl staff? • Meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng yr athro a'r gwerthuswr, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl? • Annog rhannu arfer da? • Ategu ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol? • Bodloni'r rheoliadau statudol diwygiedig? B. Sut ydych chi'n gwybod bod y broses yn effeithiol ac yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. Oes unrhyw agweddau y mae angen eu hadolygu a'u gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso'r drafodaeth

  42. Ac yn olaf.... ‘Mae rheoli perfformiad yn rhoi sylw i wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli Perfformiad i Athrawon LlC 073/2012

More Related