1 / 10

Beth ddigwyddodd yn 1066?

Beth ddigwyddodd yn 1066?. Rhowch y digwyddiadau a ganlyn yn eu trefn gronolegol gywir. Chwith-gliciwch unwaith ar bob label a llusgwch ef i’r llun. Chwith-gliciwch eto i ollwng y label. Pwyswch Esc pan fyddwch wedi gorffen. Nesaf. Cliciwch y labeli a gollyngwch nhw ar y llinell amser.

satya
Télécharger la présentation

Beth ddigwyddodd yn 1066?

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Beth ddigwyddodd yn 1066? Rhowch y digwyddiadau a ganlyn yn eu trefn gronolegol gywir Chwith-gliciwch unwaith ar bob label a llusgwch ef i’r llun. Chwith-gliciwch eto i ollwng y label. Pwyswch Esc pan fyddwch wedi gorffen. Nesaf

  2. Cliciwch y labeli a gollyngwch nhw ar y llinell amser. Rhowch y digwyddiadau hyn yn eu trefn gronolegol gywir Yn ôl 1066 ac ati Ateb Brwydr Hastings Gwilym yn glanio yn Pevensey Edward yn cael ei gladdu Harold yn cael ei goroni’n frenin Gwilym yn cael ei goroni’n frenin Brwydr Stamford Bridge Edward Gyffeswr yn marw

  3. 1066 ac ati Cliciwch ar y protestiadau i ddarganfod mwy am yr hyn a ddigwyddodd. Edward Gyffeswr yn marw Edward yn cael ei gladdu Harold yn cael ei goroni’n frenin Brwydr Stamford Bridge Gwilym yn glanio yn Pevensey Brwydr Hastings Gwilym yn cael ei goroni’n frenin Atebion Yn ôl Diwedd

  4. 5ed Ionawr Edward Gyffeswr, brenin Lloegr yn marw.Mae hyn yn gadael problem yn Lloegr. Pwy fydd yn frenin? Ceir pedwar ymgeisydd: • Harold Godwinson • Gwilym o Normandi • Harald Hardrada • Edgar Aethling Back Yn ôl End Diwedd

  5. 6ed Ionawr - Bore Edward Gyffeswr yn cael ei gladdu yn Abaty Westminster. Roedd Edward yn cael ei adnabod fel Cyffeswr oherwydd ei fod mor grefyddol. Roedd wedi treulio’r rhan fwyaf o’i deyrnasiad yn adeiladu’r Abaty. Yn ôl Diwedd

  6. 6ed Ionawr - Prynhawn Harold Godwinson, Iarll Wessex yn cael ei goroni’n Frenin Lloegr. Harold oedd dewis y Witan (arglwyddi Lloegr) ac roedd wedi rheoli Lloegr ym mhob dim ond enw wedi i’w dad farw yn 1051. Yn ôl Diwedd

  7. 25ain Medi BrwydrStamford Bridge – Harold Godwinson yn arwain y Saeson mewn brwydr yn erbyn byddin o Lychlynwyr yn cael ei harwain gan Harald Hardrada a’i frawd Tostig. Godwinson yn ennill a miloedd yn cael eu lladd. Yn ôl Diwedd

  8. 28ain Medi Mae’r gwyntoedd yn newid cyfeiriad ac mae Gwilym yn gallu hwylio o Normandi gyda’i fyddin. Ar yr 28ain mae’r Normaniaid yn glanio yn Pevensey. Mae Gwilym yn gorchymyn adeiladu castell i’w amddiffyn rhag y Sacsoniaid. Yn ôl Diwedd

  9. 14eg Hydref Brwydr Hastings – Ymgasglodd byddin y Sacsoniaid dan arweiniad Harold Godwinson ar Fryn Senlac i wynebu byddin oedd yn cael ei harwain gan Gwilym. Wedi diwrnod cyfan o ymladd cafodd Harold ei ladd a Gwilym oedd yn fuddugoliaethus. Yn ôl Diwedd

  10. 25ain Rhagfyr Wedi iddo gael ei dderbyn yn Frenin gan arglwyddi Lloegr cafodd Gwilym ei goroni yn Abaty Westminster. Daeth tyrfa o Sacsoniaid i longyfarch eu brenin newydd ond ymosododd dynion Gwilym ar y dyrfa oherwydd eu bod yn ofni mai terfysg ydoedd. Yn ôl Diwedd

More Related