1 / 11

Pythagoras

Pythagoras. Hyd ochrau trionglau ongl sgwâr. Trionglau. Problem. Mae angen i ni wybod beth yw hyd yr ochr c , ond nid yw’r diagram wedi’i lunio wrth raddfa. Sut allwn wneud hyn?. c. 5 cm. 8 cm. Mr. Pythagoras.

tiara
Télécharger la présentation

Pythagoras

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Pythagoras Hyd ochrau trionglau ongl sgwâr

  2. Trionglau

  3. Problem Mae angen i ni wybod beth yw hyd yr ochr c, ond nid yw’r diagram wedi’i lunio wrth raddfa. Sut allwn wneud hyn? c 5 cm 8 cm

  4. Mr. Pythagoras Roedd Pythagoras o Samos yn fathemategydd o Wlad Groeg, a fu’n byw rhwng 582 CC – 507CC. Yn ogystal â mathemateg, roedd yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth, seryddiaeth ac athroniaeth, ond fe’i gelwid yn ‘dad rhifau’. Credodd bod gan bopeth gysylltiad â mathemateg. Ni wyddom ai Pythagoras ei hun a ddyfeisiodd ei theorem enwog, gan ei fod yn arfer yn ei ddyddiau ef i roi’r clod i’r athro ar gyfer gwaith y disgyblion. Yn wir, mae tystiolaeth yn dangos bod yr Eifftwyr a’r Tseiniaid yn gwybod y fformiwla ymhell cyn amser Pythagoras, er na roesant enw arno, a ni roddir ei enw arno tan 500 o flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth, yng ngwaith Cicero a Plutarch.

  5. c b a Theorem Pythagoras Enghraifft 1: Os yw a=6cm a hyd b yw 5cm, beth yw hyd c? Enghraifft 2: Os yw b=4cm a hyd a yw 3cm, beth yw hyd c?

  6. c b a Theorem Pythagoras • Gan ddefnyddio’r fformiwla, canfyddwch hyd c yn y cwestiynau canlynol: • a = 5cm, b = 8cm • a = 4cm, b = 6cm • a = 7cm, b = 9cm • a = 11cm, b = 2cm • a = 3cm, b = 5cm • a = 1cm, b = 1cm • a = 9cm, b = 12cm • a = 5cm, b = 17cm • a = 6cm, b = cm • a = 9cm, b = 8cm

  7. c b a Canfod hyd ochr Hyd yn hyn, rydym wedi gorfod canfod yr hypotenws o wybod a a b. Beth sy’n digwydd mewn achosion lle mae angen canfod c? Enghraifft 1: O wybod bod a=6 a c=11, beth yw hyd b? Enghraifft 2: Beth yw hyd a os yw b=7m a c=9m? • Canfyddwch hyd yr ochr sydd ar ôl yn y canlynol: • a=8cm c=11cm • b=9m c=20m • a=2m c=4m • b=7cm c=29cm • a=38cm c=41cm • b=19m c=120m

  8. Cwestiwn arholiad

  9. Cwestiwn arholiad Beth yw hyd AC? Beth yw hyd DE?

  10. Pythagoras ym mywyd bob dydd • Mae gan ddyn golchi ffenestri ysgol sy’n 4m. Mae eisiau i’r ysgol orffwys ar waelod ffenestri sy’n 3m i fyny. Pa mor bell o’r tŷ y mae’n rhaid i’r ysgol fod? • Mae gan ysgol neuadd o hyd 25m, a lled o 15m. Beth yw’r pellter o un cornel y neuadd i’r llall? • Mae peldroediwr yn dweud mai 143m yw hyd cae pêl-droed o un cornel i’r cornel cyferbyn. Os 80m yw hyd un o ochrau’r cae, beth yw hyd ochr arall y cae? • 20m yw’r hyd o un cornel sgwâr i’w gornel cyferbyn. Beth yw hyd ei ochrau? • Mae gan driongl hafalochrog ochrau o 10cm. Beth yw arwynebedd y triongl? • Canfyddwch hyd yr ochrau coll yn y canlynol:

  11. 5 4 3 Triawdau arbennig Rhowch gynnig ar brofi’r rhai canlynol: a=6 b=8 c=10 a=5 b=12 c=13 a=8 b=15 c=17 a=7 b=24 c=25 a=20 b=21 c=29 a=11 b=60 c=61 a=13 b=84 c=85 a=12 b=35 c=37 a=16 b=63 c=65 a=36 b=77 c=85 a=9 b=40 c=41 a=33 b=56 c=65 a=39 b=80 c=89 a=28 b=45 c=53 a=48 b=55 c=73 a=65 b=72 c=87 Dyma un o driawdau arbennig Pythagoriaidd. Faint rhagor sydd yna?

More Related