1 / 20

Enillwyr ac Enillwyr

Enillwyr ac Enillwyr. Dyma stori gafodd ei hadrodd gan ddyn o’r enw Al Covino a oedd yn dod o America. Fel hyfforddwr coleg byddwn yn gwneud fy ngorau glas i helpu fy myfyrwyr ennill eu gemau i gyd. Roeddwn i am iddynt ennill gymaint ag yr oeddent hwy. AL COVINO.

elise
Télécharger la présentation

Enillwyr ac Enillwyr

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Enillwyr ac Enillwyr

  2. Dyma stori gafodd ei hadrodd gan ddyn o’r enw Al Covino a oedd yn dod o America Fel hyfforddwr coleg byddwn yn gwneud fy ngorau glas i helpu fy myfyrwyr ennill eu gemau i gyd. Roeddwn i am iddynt ennill gymaint ag yr oeddent hwy.

  3. AL COVINO

  4. Ond cafodd fy marn am ennill a cholli ei newid yn dilyn digwyddiad dramatig mewn gêm roeddwn i'n dyfarnu ynddi. Roeddwn i'n dyfarnu mewn gêm gynghrair pencampwriaeth pêl-fasged yn New Rochelle, Efrog Newydd rhwng New Rochelle a Yonkers High.

  5. NEW ROCHELLE

  6. YONKERS HIGH

  7. Hyfforddwr New Rochelle oedd Dan O'Brien a hyfforddwr Yonkers oedd Les Beck. Roedd y gampfa'n orlawn, ac roedd y cefnogwyr yn gwneud cymaint o sŵn fel na allai neb glywed dim. Roedd y gêm yn dda iawn ac roedd yn gystadleuaeth agos. Roedd Yonkers un pwynt ar y blaen ac wrth i mi edrych ar y cloc, gwelais mai dim ond 30 eiliad oedd ar ôl.

  8. DAN O BRIEN

  9. LES BECK

  10. Roedd y bêl ym meddiant Yonkers, a dyma nhw'n pasio - yn saethu - ac yn methu. Dyma New Rochelle yn adennill y bêl - yn ei phasio i fyny'r cwrt - ac yn saethu. Dyma'r bêl yn hofran yn bryfoclyd ar ymyl y rhwyd ac oddi arni. Sgrechai'r cefnogwyr.

  11. Dyma New Rochelle, y tîm cartref yn adennill y bêl ac yn ei tharo i'r rhwyd a chael y fuddugoliaeth fel y tybiwn i. Roedd y sŵn yn fyddarol. Edrychais ar y cloc a gweld bod y gêm drosodd. Doeddwn i ddim wedi clywed y seiniwr terfynol oherwydd y sŵn. Es i ofyn i'r swyddog arall, ond doedd e ddim yn gallu fy helpu.

  12. Wrth geisio help yn y cyffro a'r dryswch, es i draw at yr amserwr, dyn ifanc tua 17 oed. Dywedodd, "Mr Covino, fe ganodd y seiniwr wrth i'r bêl rolio oddi ar ymyl y rhwyd, cyn y taro i mewn terfynol."

  13. Roeddwn i mewn sefyllfa lletchwith ofnadwy wrth orfod rhoi'r newyddion drwg i O'Brien yr hyfforddwr. "Dan," meddwn i, "roedd yr amser wedi dod i ben cyn taro'r fasged olaf i mewn. Yonkers enillodd y gêm."

  14. Tywyllodd ei wyneb. Daeth yr amserwr ifanc atom. Meddai, "Mae'n ddrwg gen i, Dad. Roedd yr amser wedi dod i ben cyn y fasged olaf."

  15. Yn sydyn fel haul ar fryn, goleuodd wyneb O'Brien yr hyfforddwr. Dywedodd, "Popeth yn iawn, Joe. Fe wnest ti'r hyn oedd yn iawn. Rwy'n falch iawn ohonot ti. Gan droi ataf i, meddai, "Al, dyma fy mab, Joe."

  16. Cerddodd y ddau oddi ar y cwrt gyda'i gilydd, a braich yr hyfforddwr am ysgwyddau ei fab.

More Related