1 / 38

Celfyddyd Cymreig- Tirluniau

Celfyddyd Cymreig- Tirluniau. Ymddiriedolaeth Cefyddyd Gain Clwyd a’r Cyd-wasanarth Addysg Amgueddfeyd (ADDA). Cynnwys:. Trafodaeth. Lluniadu. Monoprintio. Argraffu. Mwy o Luniau.

flo
Télécharger la présentation

Celfyddyd Cymreig- Tirluniau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Celfyddyd Cymreig- Tirluniau Ymddiriedolaeth Cefyddyd Gain Clwyd a’r Cyd-wasanarth Addysg Amgueddfeyd (ADDA)

  2. Cynnwys: Trafodaeth Lluniadu Monoprintio Argraffu Mwy o Luniau Delweddau trwy garedigrwydd Celf Gain Clwyd a Chyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd

  3. 1. Trafodaeth Mae tirluniau yn un o’r prif ddelweddau mewn celfyddyd dros y canrifoedd, ac rydyn ni’n mynd i edrych ar esiamplau o dirluniau rhai o artistiaid enwocaf Cymru. Gwelwn yma dirlun gan Syr Kyffin Williams. Trwy osod lôn / hewl sy’n edrych fel pe bai’n mynd i mewn i’r darlun, mae wedi creu effaith o bersbectif. Mae ei ddefnydd cynnil o ddŵr ac inc wedi cynhyrchu dyfnder mewn tôn a gweadedd sydd yn rhoi argraff o gysgodion a phellter. Sir Kyffin Williams Rhwng Dwy Afon Cyffylliog / Hendre

  4. Mae’r darlun yma o Chwarel y Penrhyn gan Peter Prendergast yn dangos yn glir sut mae dewis effeithiol o liwiau gwrthgyferbyniol yn gallu atgynhyrchu awyrgylch safle. Trwy adlewyrchu goleuni lliw yr awyr mewn ambell le ochr yn ochr â glas tywyll, piws a du mae’r artist wedi dangos graddfa enfawr a chadernid y graig. Mae’r darlun yn cyffroi teimladau o arswyd ac uchafiaeth sydd wirioneddol bortreadu’r profiad o fod yno ymysg mynyddoedd Cymru. Peter Prendergast Penrhyn Quarry

  5. Yma gwelwn ddarlun arall o chwarel, gan Graham Meredith y tro hwn, sydd yn defnyddio arddull gwbl wahanol i Peter Prendergast Mae cyfansoddiad y ddau lun yn debyg ond mae Graham Meredith yn llawer mwy cywrain efo’i baent gan greu ysgafnder a phrydferthwch, - geiriau nad ydym yn eu cysylltu gyda chwareli fel arfer. Graham Meredith Quarryscape, Minera,1978

  6. Yma gwelwn ddarlun gan Elis Gwyn. Mae’r tirlun yn llawn o liwiau’r Hydref ac mae’r awyr dywyll yn awgrymu fod storm ar ei ffordd. Mae’r artist wedi dewis dangos gwead y gwrychoedd ac arwynebedd y tir drwy grafu siapiau i mewn i’r paent sydd yn rhoi effaith o ddyfnder. Elis Gwyn Tua’r Gorllewin Mae cyfuniad Elis Gwyn o liw a gwead yn creu darlun sydd nid yn unig yn ddiddorol, ond hefyd yn effeithiol dros ben.

  7. Edrychwch ar y lluniau tirlun gan Syr Kyffin Williams a Peter Prendergast. Trafodwch y gwaith gan ddefnyddio geiriau i ddisgrifio’r: Llinellau a’r marciau e.e. trwchus, tenau, cyflym, meddal a.y.y.b…. Delwedd e.e. effeithiol, uchafiaeth, manwl, oer, doniol a.y.y.b….

  8. Ble ydych chi’n meddwl y gwnaeth yr artist y gwaith?

  9. Ydych chi’n credu fod yr artist wedi gwneud brasluniau cyn creu’r gwaith? Pam eich bod chi’n meddwl hynny?

  10. Ydych chi’n meddwl fod yr artist yn gweithio’n gyflym ynteu’n araf? Sut ellwch chi ddweud hyn?

  11. Sut y mae techneg yr artist yn dylanwadu ar y ffordd y mae'n portreadu'r tirlun?

  12. Beth y mae defnydd yr artist o dywyll a golau yn ei ddweud wrthym am sut oedd yn teimlo wrth iddo wneud y gwaith?

  13. A ydych chi'n meddwl fod techneg yr artist wedi'i helpu i ddal hanfod y tirlun, ym mha ffordd?

  14. Meddyliwch am wahanol dechnegau y gallech eu defnyddio i greu effaith debyg.

  15. Ble ydych chi’n meddwl y gwnaeth yr artist y gwaith?

  16. Ydych chi’n credu fod yr artist wedi gwneud brasluniau cyn creu’r gwaith? Pam eich bod chi’n meddwl hynny?

  17. Ydych chi’n meddwl fod yr artist yn gweithio’n gyflym ynteu’n araf? Sut ellwch chi ddweud hyn?

  18. Sut y mae techneg yr artist yn dylanwadu ar y ffordd y mae'n portreadu'r tirlun?

  19. Beth y mae defnydd yr artist o dywyll a golau yn ei ddweud wrthym am sut oedd yn teimlo wrth iddo wneud y gwaith?

  20. A ydych chi'n meddwl fod techneg yr artist wedi'i helpu i ddal hanfod y tirlun, ym mha ffordd?

  21. Meddyliwch am wahanol dechnegau y gallech eu defnyddio i greu effaith debyg.

  22. Beth sy’n debyg yn y ddau waith?

  23. Beth sy’n wahanol?

  24. Pa un sydd orau gennych chi a pham?

  25. Beth sy’n wahanol ynghylch y lliwiau?

  26. Pam ydych chi’n meddwl eu bod nhw wedi dewis y lliwiau hyn?

  27. Sut mae’r darluniau’n gwneud i chi deimlo?

  28. 2.Lluniadu Defnyddiau sydd eu hangen: Llyfrau neu bapur braslunio, byrddau braslunio, siarcol, pensiliau (2B neu feddalach), pasteli olew gwyn. • Yn yr ystafell ddosbarth dewch i adnabod eich defnyddiau • Gyda phensil finiog gwnewch linellau tenau ysgafn yn eich llyfr braslunio. • Gan ddechrau gyda llinell bensil denau, pwyswch ychydig yn galetach i wneud y llinell yn dywyllach. • Ydy’r llinell yn edrych yn fwy trwchus po dywyllaf y mae’n mynd? Pensil • Defnyddiwch ymyl eich pensil i wneud marciau llwyd trwchus. Po galetaf rydych yn pwyso y tywyllaf yw’r marc. Defnyddiwch y dechneg yma ar gyfer tôn yn eich lluniau. • Defnyddiwch linellau pensil yn croesi i greu tôn – gelwir hyn yn groeslinellu. Po agosaf yw’r llinellau at ei gilydd y tywyllaf fydd y tôn

  29. Mae siarcol yn ddefnydd brau iawn, pwyswych yn rhy galed a bydd yn torri’n chwilfriw. Mae wedi’i wneud o bren llosg ac mae’n smwtsio’n rhwydd iawn, braidd fel sialc. Siarcol • Defnyddiwch ymyl eich pric siarcol i wneud llinellau tenau. Pwyswch yn ysgafn iawn i gael marciau ysgafn, ychydig yn galetach i gael llinellau tywyllach. • Defnyddiwch ben crwn eich pric siarcol i wneud lIinellau du trwchus, gan ddal y pric yn unionsyth. • Defnyddiwch ymyl y pric siarcol i greu darnau mawr 0 don. Arbrofwch yn awr gyda'r siarcol, y pensil a'r pastel olew gwyn gan ddefnyddio cyfuniad o farciau. Nawr edrychwch ar daflen waith 1

  30. 3. Argraffu: Mono brintiau Defnyddiau sydd eu hangen: Dalennau A4 laminedig (neu ddalennau persbecs), rholeri, brwshys, pensilau, papur arlunio A4, inc argraffu, papurach, papur sidan a photiau dŵr. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn:- taflen waith 2 i wneud eich mono brintiau

  31. 4. Argraffu: Block Prints Defnyddiau sydd eu hangen: Pensil, cerdyn lIyfn, glud PVA, papur sidan, siswrn, Ilinyn, inc printio dyfrsail du, darnau o garpiau, papur, potiau dwr, brwshys. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn:- taflen waith 3 i wneud eich block prints

  32. Sir Kyffin Williams Hill Farmers

  33. Elis Gwyn Pencoed

More Related