1 / 30

Celfyddyd Gymreig - Pobl

Celfyddyd Gymreig - Pobl. Ymddiriedolaeth Celfyddyd Gain Clwyd a’r Cyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd (ADDA). Cynnwys:. Trafodaeth. Lluniadu. Cerflunio. Mwy o Luniau. Delweddau trwy garedigrwydd Celf Gain Clwyd a Chyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd.

naasir
Télécharger la présentation

Celfyddyd Gymreig - Pobl

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Celfyddyd Gymreig - Pobl Ymddiriedolaeth Celfyddyd Gain Clwyd a’r Cyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd (ADDA)

  2. Cynnwys: Trafodaeth Lluniadu Cerflunio Mwy o Luniau Delweddau trwy garedigrwydd Celf Gain Clwyd a Chyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd

  3. 1. Trafodaeth Mae amrywiaeth o ffyrdd i gynhyrchu delweddau o bobl. Gall yr artist ddewis dangos cymeriad, teimladau, symudiad, adrodd sefyllfa neu roi sylwadaeth ar gyflwr byw y person. Gwelwn yma, yn Hill Farmersgan Syr Kyffin Williams, ffermwyr wrth eu gwaith. Trwy ddewis eu dangos ar ochr y mynydd ar ôl cawod eira mae'r artist wedi cynhyrchu teimlad o oerni er mwyn pwysleisio pa mor galed yw'r gwaith. Sir Kyffin Williams Hill Farmers

  4. Mae’r gwaith yma gan Will Roberts yn dangosdyn yn gweithio’n galed yn ei ardd. Trwy ddefnyddio lliwiau tebyg i ddelweddu’r tir, yn ogystal â’r garddwr, mae’r artist wedi llwyddo i adlewyrchu pwysigrwydd y gwaith iddo. Mae’r defnydd yma o liw yn awgrymu hefyd fod y garddwr yn tyfu wrth ei waith, fel coeden yn tyfu o’r tir. Will Roberts The Gardener

  5. Mae'r portread yma o Hywel Williams gan Tom Rathmel wedi ei gynhyrchu yn y modd traddodiadol. Gwelir bod yr eisteddwr wedi ei osod yng nghanol y cyfansoddiad a’i fod yn edrych yn syth atom. Trwy edrych yn agosach gallwn ddweud mwy am Hywel Williams. Mae wedi dewis eistedd mewn siwt a thei sydd yn rhoi awyrgylch o urddas iddo, ond eto, mae cefndir y darlun yn dangos amgylchedd syml iawn gan awgrymu nad oes mawrdra yn ei urddas. Tom Rathmel Williams, Dolgellau

  6. Peter Edwards Woman on Bridge in Llangollen Roy Ostle Tunnellers Edrychwch ar, a chymharwch waith Roy Ostle a Peter Edwards. Meddyliwch am eiriau i ddisgrifio'r peintiadau: golau, tywyll, hapus, meddylgar, lliwgar, digalon a.y.y.b.

  7. Ble ydych chi’n meddwl y gwnaeth yr artist y gwaith?

  8. Ydych chi’n meddwl fod yr artistiaid wedi gwneud brasluniau cyn gwneud y gwaith? Beth sy'n gwneud ichi feddwl hyn?

  9. Ydych chi’n meddwl fod yr artist yn gweithio'n gyflym ynteu'n araf? Sut ellwch chi ddweud hynny?

  10. Ble ydych chi’n meddwl y gwnaeth yr artist y gwaith?

  11. Ydych chi’n meddwl fod yr artist wedi gwneud brasluniau cyn gwneud y gwaith? Beth sy'n gwneud ichi feddwl hyn?

  12. Ydych chi’n meddwl fod yr artist yn gweithio'n gyflym ynteu'n araf? Sut ellwch chi ddweud hynny?

  13. Beth sy'n debyg ynghylch y gweithiau?

  14. Beth sy'n wahanol?

  15. Beth ydych chi’n meddwl mae’r peintiadau yn ei ddweud wrthym am y bobl ynddynt?

  16. Sut y mae'r gwaith yn gwneud ichi deimlo?

  17. Sut y mae'r lliwiau'n effeithio ar awyrgylch y peintiadau?

  18. Sut mae'r artistiaid wedi creu'r rhith o olau?

  19. 2. Lluniadau Defnyddiau sydd eu hangen: Llyfrau braslunio, pensilau, siarcol, pasteli olew lliw. Mewn parau eisteddwch gyferbyn â'ch gilydd, edrychwch yn ofalus iawn ar wynebau eich gilydd. Edrychwch ar ble ar yr wynebmae'r llygaid (Tua ½ffordd i lawr) Y trwyn (Tua ½ ffordd rhwng y llygaid a'r ên) Y geg (½ffordd rhwng y trwyn a'r ên) Y clustiau (Y top gyfuwch â'r llygaid, y bôn gyfuwch â'r geg), Mae llinell y gwallt hanner ffordd rhwng y llygaid a thop y pen.

  20. Canllawiau cyffredinol yw'r rhain ond mae angen ychwanegu manylion pryd a gwedd eich model. Ai crwn, llydain, bychain a.y.y.b. yw'r llygaid? Ai syth, bychan, llydan a.y.y.b. yw'r trwyn? Ydy’r geg yn llawn, cul, llydan, bechan a.y.y.b? Ydy’r gwallt yn hir, byr, trwchus, tenau a.y.y.b? Ceisiwch wneud i'ch llun edrych mor debyg i'r model ag sy'n bosib. Gwnewch yn siwr eich bod yn dal i edrych ar wyneb eich model, peidiwch â dyfalu sut olwg sydd arnynt.

  21. 3. Cerflunio Defnyddiau sydd eu hangen: 4 bocs cardbord mawr, papur newydd, stribed gwm, tâp parseli, paent. Gweler taflen waith 2 am gyfarwyddiadau

  22. Emrys Williams Brightday Study. Women on the Promenade

  23. Peter Edwards Lord Kenyon

  24. John Elwyn Welsh Funeral

  25. Mildred E Eldridge Study of R.S. Thomas

More Related