1 / 29

Celfyddyd Gymreig - Tirluniau

Celfyddyd Gymreig - Tirluniau. Ymddiriedolaeth Celfyddyd Gain Clwyd a’r Cyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd (ADDA). Cynnwys:. Trafodaeth. Lluniadu. Mono brintiau. Mwy o Luniau. Exit.

rozene
Télécharger la présentation

Celfyddyd Gymreig - Tirluniau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Celfyddyd Gymreig - Tirluniau Ymddiriedolaeth Celfyddyd Gain Clwyd a’r Cyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd (ADDA)

  2. Cynnwys: Trafodaeth Lluniadu Mono brintiau Mwy o Luniau Exit Images courtesy of Clwyd Fine Art Trust and Joint Area Museum Education Service

  3. 1. Trafodaeth Mae tirluniau yn un o’r prif ddelweddau mewn celfyddyd dros y canrifoedd, ac rydyn ni’n mynd i edrych ar esiamplau o dirluniau rhai o artistiaid enwocaf Cymru. Gwelwn yma dirlun gan Syr Kyffin Williams. Trwy osod lôn / hewl sy’n edrych fel pe bai’n mynd i mewn i’r darlun, mae wedi creu effaith o bersbectif. Mae ei ddefnydd cynnil o ddŵr ac inc wedi cynhyrchu dyfnder mewn tôn a gweadedd sydd yn rhoi argraff o gysgodion a phellter. Syr Kyffin Williams Rhwng Dwy Afon Cyffylliog / Hendre Delweddau trwy garedigrwydd Celf Gain Clwyd a Chyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd

  4. Mae’r darlun yma o Chwarel y Penrhyn gan Peter Prendergast yn dangos yn glir sut mae dewis effeithiol o liwiau gwrthgyferbyniol yn gallu atgynhyrchu awyrgylch safle. Trwy adlewyrchu goleuni lliw yr awyr mewn ambell le ochr yn ochr â glas tywyll, piws a du mae’r artist wedi dangos graddfa enfawr a chadernid y graig. Mae’r darlun yn cyffroi teimladau o arswyd ac uchafiaeth sydd wirioneddol bortreadu’r profiad o fod yno ymysg mynyddoedd Cymru. Peter Prendergast Penrhyn Quarry

  5. Yma gwelwn ddarlun arall o chwarel, gan Graham Meredith y tro hwn, sydd yn defnyddio arddull gwbl wahanol i Peter Prendergast Mae cyfansoddiad y ddau lun yn debyg ond mae Graham Meredith yn llawer mwy cywrain efo’i baent gan greu ysgafnder a phrydferthwch, - geiriau nad ydym yn eu cysylltu gyda chwareli fel arfer. Graham Meredith Quarryscape, Minera,1978

  6. Yma gwelwn ddarlun gan Elis Gwyn. Mae’r tirlun yn llawn o liwiau’r Hydref ac mae’r awyr dywyll yn awgrymu fod storm ar ei ffordd. Mae’r artist wedi dewis dangos gwead y gwrychoedd ac arwynebedd y tir drwy grafu siapiau i mewn i’r paent sydd yn rhoi effaith o ddyfnder. Elis Gwyn Tua’r Gorllewin Mae cyfuniad Elis Gwyn o liw a gwead yn creu darlun sydd nid yn unig yn ddiddorol, ond hefyd yn effeithiol dros ben.

  7. Edrychwch ar y lluniau tirlun gan Syr Kyffin Williams a Peter Prendergast. Trafodwch y gwaith gan ddefnyddio geiriau i ddisgrifio’r: Llinellau a’r marciau e.e. trwchus, tenau, cyflym, meddal a.y.y.b…. Delwedd e.e. effeithiol, uchafiaeth, manwl, oer, doniol a.y.y.b….

  8. Ble ydych chi’n meddwl y gwnaeth yr artist y gwaith?

  9. Ydych chi’n credu fod yr artist wedi gwneud brasluniau cyn creu’r gwaith? Pam eich bod chi’n meddwl hynny?

  10. Ydych chi’n meddwl fod yr artist yn gweithio’n gyflym ynteu’n araf? Sut ellwch chi ddweud hyn?

  11. Ble ydych chi’n meddwl y gwnaeth yr artist y gwaith?

  12. Ydych chi’n credu fod yr artist wedi gwneud brasluniau cyn creu’r gwaith? Pam ydych chi’n meddwl hynny?

  13. Ydych chi’n meddwl fod yr artist yn gweithio’n gyflym ynteu’n araf? Sut ellwch chi ddweud hyn?

  14. Beth sy’n debyg yn y ddau waith?

  15. Beth sy’n wahanol?

  16. Pa un sydd orau gennych chi a pham?

  17. Beth sy’n wahanol ynghylch y lliwiau?

  18. Pam ydych chi’n meddwl eu bod nhw wedi dewis y lliwiau hyn?

  19. Sut mae’r darluniau’n gwneud i chi deimlo?

  20. 2.Lluniadu Defnyddiau sydd eu hangen: Llyfrau neu bapur braslunio, byrddau braslunio, siarcol, pensiliau (2B neu feddalach), pasteli olew gwyn. • Yn yr ystafell ddosbarth dewch i adnabod eich defnyddiau • Gyda phensil finiog gwnewch linellau tenau ysgafn yn eich llyfr braslunio. • Gan ddechrau gyda llinell bensil denau, pwyswch ychydig yn galetach i wneud y llinell yn dywyllach. • Ydy’r llinell yn edrych yn fwy trwchus po dywyllaf y mae’n mynd? Pensil • Defnyddiwch ymyl eich pensil i wneud marciau llwyd trwchus. Po galetaf rydych yn pwyso y tywyllaf yw’r marc. Defnyddiwch y dechneg yma ar gyfer tôn yn eich lluniau. • Defnyddiwch linellau pensil yn croesi i greu tôn – gelwir hyn yn groeslinellu. Po agosaf yw’r llinellau at ei gilydd y tywyllaf fydd y tôn

  21. Mae siarcol yn ddefnydd brau iawn, os pwyswch yn rhy galed bydd yn torri’n chwilfriw. Mae wedi’i wneud o bren llosg ac mae’n smwtsio’n rhwydd iawn, fel mae sialc yn gwneud. • Defnyddiwch ymyl eich pric siarcol i wneud llinellau tenau. Pwyswch yn ysgafn i gael marciau ysgafn, ychydig yn galetach i gael llinellau tywyllach. Siarcol • Defnyddiwch ben crwn eich pric siarcol i wneud llinellau du trwchus, gan ddal y pric yn unionsyth • Defnyddiwch ymyl y pric siarcol i greu darnau mawr o dôn.

  22. Defnyddiwch y sgiliau newydd yr ydych wedi’u dysgu i atgynhyrchu rhai o’r marciau sydd i’w cael yng ngwaith Syr Kyffin Williams a Peter Prendergast. • Ewch allan gyda’ch llyfr braslunio, bwrdd arlunio a phapur, ynghyd â phensil a phric siarcol. • Gwnewch luniau o’r tirlun/treflun y gellwch ei weld o gae/fuarth yr ysgol. • Defnyddiwch gymaint o wahanol farciau ag sy’n bosib. Ceisiwch ddefnyddio marciau tebyg i’r rhai a welir yng ngwaith Syr Kyffin Williams a Peter Prendergast.

  23. Yn ôl yn yr ystafell ddosbarth defnyddiwch bastel olew gwyn i ychwanegu darnau goleuach at eich gwaith.. • Edrychwch ar waith eich cyd-ddisgyblion. Pa wahaniaethau ellwch chi weld rhwng eu gwaith nhw a’ch gwaith chi? • Faint o farciau newydd ellwch chi eu gweld yng ngwaith y disgyblion eraill na ellwch chi eu gweld yn eich un chi? • Cymharwch eich gwaith â gwaith Syr Kyffin Williams a Peter Prendergast. Beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol? • Ar ôl edrych ar y gwaith i gyd beth fyddech yn ei newid yn eich un chi i’w wneud yn fwy effeithiol?

  24. 3. Argraffu: Mono brintiau Defnyddiau sydd eu hangen: Dalennau A4 laminedig (neu ddalennau persbecs), rholeri, brwshys, pensilau, papur arlunio A4, inc argraffu, papurach, papur sidan a photiau dŵr. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn:- nhaflen waith 1 taflen waith 2 a thaflen waith 3 i wneud eich mono brintiau

  25. Cymharwch eich printiau • Beth sy’n wahanol ynghylch pob print? • Beth sy’n debyg? • Pa brint sy’n fwyaf effeithiol ? • Beth allech chi ei wneud er mwyn i’r print fod yn fwy effeithiol? (dal ati i ddarlunio gyda phasteli olew neu bensiliau lliw a.y.y.b.) Edrychwch ar waith Syr Kyffin Williams a Peter Prendergast eto. • Beth sy’n debyg rhwng eu gwaith nhw a’ch gwaith chi? • Beth sy’n wahanol? • Gan edrych ar yr holl waith yr ydych wedi’i wneud, beth dybiwch chi y dylech ei wneud nesaf i ddatblygu eich syniadau? ( peintio, collage, gwaith a wneir mewn grwpiau a.y.y.b.)

More Related