1 / 8

Risg i iechyd?

Risg i iechyd?. Trosolwg. Rydych chi’n byw wrth ymyl ffatri gemegol sy’n gweithgynhyrchu gwrtaith at ddefnydd amaethyddol. Mae’r ffatri wedi bod yn rhedeg ers 10 mlynedd. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae meddygon wedi nodi nifer o achosion o broblemau anadlu hirdymor ymhlith pobl leol.

gage
Télécharger la présentation

Risg i iechyd?

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Risg i iechyd?

  2. Trosolwg Rydych chi’n byw wrth ymyl ffatri gemegol sy’n gweithgynhyrchu gwrtaith at ddefnydd amaethyddol. Mae’r ffatri wedi bod yn rhedeg ers 10 mlynedd. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae meddygon wedi nodi nifer o achosion o broblemau anadlu hirdymor ymhlith pobl leol.

  3. Beth a ddywedwyd yn y cyfarfod cyhoeddus? Dechreuodd fy symptomau ddwy flynedd yn ôl. Rwy’n aml yn brin fy anadl. Mae’r ffatri’n gollwng mygdarth gwenwynig. Lucy Phillips, trigolyn Gethin Harris, trigolyn Mae’r ffatri’n ein gwneud ni’n sâl! Rwy’n gweithio yn y ffatri ac yn smygu weithiau. Mae fy mheswch yn waeth yn y gwaith. Mr Jones, trigolyn Rhian Jones, trigolyn Rydym wedi astudio natur wenwynig y pridd yn yr ardal leol. Does dim tystiolaeth o gemegol gwenwynig yn y samplau a gymerwyd. Rydym wedi astudio nifer yr achosion o broblemau anadlu hirdymor yn yr ardal leol. Rydym wedi cymharu hyn â nifer yr achosion o’r un problemau mewn ardal 50km i ffwrdd o’r ffatri gemegol. Rydym wedi canfod mwy o achosion yn yr ardal wrth ymyl y ffatri gemegol. Gwyddonwyr sy’n gweithio i’r cwmni cemegol Nid yw’r mygdarth sy’n gollwng o’r ffatri yn peri risg i iechyd trigolion. Gwyddonwyr sy’n gweithio ar ran y gymuned leol Perchennog y ffatri

  4. Beth yw eich barn chi? Pa dystiolaeth sydd ar gael i wneud y canlynol: • cefnogi honiadau’r trigolion mai’r ffatri sy’n achosi eu salwch? • gwrthod honiadau’r trigolion mai’r ffatri sy’n achosi eu salwch? Pa farn rydych chi’n ei chefnogi? Pam? Pa mor gryf yw’r dystiolaeth i gefnogi hyn? Beth yw sail eich barn?

  5. Beth yw eich barn chi? Ar wahân i’r datganiad gan y gwyddonwyr sy’n gweithio ar ran y trigolion, am ba reswm arall y byddech chi’n amau’r datganiad a wnaed gan wyddonwyr y cwmni? A yw datganiad gwyddonwyr y cwmni yn cefnogi datganiad perchennog y ffatri neu’n ei wrth-ddweud? Sut gwyddoch chi hynny?

  6. Beth yw eich barn chi? Cymharodd y gwyddonwyr sy’n gweithio ar ran y trigolion nifer yr achosion o broblemau anadlu hirdymor wrth ymyl y ffatri gyda’r rhai mewn ardal sy’n bell i ffwrdd o’r ffatri. Pa wahaniaethau posibl yn y ddwy ardal fyddai’n taflu amheuaeth dros ddilysrwydd y gymhariaeth?

  7. Dod i gasgliad! Rydych chi’n wyddonydd annibynnol a gofynnwyd i chi ddod i gasgliad terfynol. Pa ymchwiliadau y byddech chi’n eu cynnal drosoch chi eich hun er mwyn dod i gasgliad? Sut y gallech chi fod yn siŵr bod y canlyniadau yn ddibynadwy a bod y casgliad yn ddilys? Sut y byddai eich canlyniadau yn dangos: • mai’r ffatri sy’n achosi’r salwch? • nad y ffatri sy’n achosi’r salwch?

  8. Pa wybodaeth arall y gallai fod ei hangen arnoch chi er mwyn dod i gasgliad? Beth sy’n digwydd i fygdarth gwenwynig a ollyngir i’r atmosffer? Cyfansoddiad cemegol gwrteithiau amaethyddol Cofnodion iechyd cleifion Bethan Alun Sarah Rwy’n credu……. Rwy’n credu . . . Y cemegion sy’n cael eu rhyddhau yn y mygdarth Y clefydau anadlol y gall cemegion eu hachosi Charlie Jenny

More Related