1 / 8

Diogelwch Personol

Diogelwch Personol. Beth yw’r peryglon? Gweithgaredd 3.a. Atebwch y cwestiynau canlynol:. Pwy sydd mewn perygl yn y senario? Beth yw’r peryglon/risgiau? Beth allent fod wedi ei wneud yn wahanol i leihau’r risg i’w diogelwch personol?.

lorie
Télécharger la présentation

Diogelwch Personol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Diogelwch Personol Beth yw’r peryglon? Gweithgaredd 3.a

  2. Atebwch y cwestiynau canlynol: • Pwy sydd mewn perygl yn y senario? • Beth yw’r peryglon/risgiau? • Beth allent fod wedi ei wneud yn wahanol i leihau’r risg i’w diogelwch personol?

  3. Roedd Sam wedi cyffroi. Roedd ei ffrind gorau, Catrin, yn cael parti yn ei thŷ gan fod ei rhieni yn mynd i ffwrdd dros nos. Roedd mam Catrin bob amser yn credu’r esgus ‘Rydyn ni’n mynd i weithio gyda’n gilydd ar ein prosiect’. Felly, dim problem! Yn ddiweddarach y noson honno... “Be sy’n bod? Saf ar dy draed!” sgrechiodd Sam. Roedd Catrin yn gorwedd ar y llawr yn yr ystafell ymolchi. Roedd hi wedi taflu i fyny dros ei thop newydd. Roedd Sam yn gwybod bod y sefyllfa’n ddifrifol oherwydd doedd Catrin ddim yn deffro ac yn ei hateb. Parti Sam a Catrin!

  4. “Fe fyddwn ni’n ôl tua 10.30” meddai mam wrth iddi hi a dad adael i fynd am y sinema. Grêt, meddyliais, fe allaf wneud fel y mynnaf am ychydig oriau. Mae gen i’r tŷ i fi fy hun! Tua deg munud yn ddiweddarach dyma gloch y drws yn canu. Dywedodd y dyn fod dad wedi trefnu iddo ddod i drwsio’r pibau yn yr ystafell ymolchi i fyny’r grisiau. Fe ddywedais i fod dad allan ond fe ddywedodd ef fod popeth yn iawn ac y byddai’n dechrau ar y gwaith. Y tŷ i fi fy hun

  5. Roedd Ahmed, Tom a Sophia yn ffrindiau mawr. Roedden nhw bob amser yng nghwmni ei gilydd. Wedi’r ysgol byddent yn cyfarfod mewn hen garej tu cefn i res o dai teras. Dywedodd Tom y byddai’n dod ag ychydig o bethau i gynnau tân a chadw’n gynnes. Roedd digon o dameidiau o bren a sbwriel o gwmpas y lle. Cynnau tanau

  6. Roedd Kirsty a’i ffrindiau yn mwynhau eu hunain. Roeddent wedi llwyddo i fynd heibio’r bownsars yn y clwb heb fawr o drafferth! Roedd Kirtsy yn dawnsio gyda’r bachgen golygus yma o’r enw Dean ac nid oedd wedi sylwi bod ei ffrindiau wedi mynd adref. Dywedodd Dean y byddai’n cael ei ffrind, Owain, i fynd â hi adref. Roedd newydd basio ei brawf gyrru ddoe ac allan yn dathlu. Cyrraedd adref

  7. Roedd popeth wedi mynd o’i le! Eisteddai Becky ar ymyl y palmant yn edrych ym mhobman am ei ffôn. Roedd hi a Josh wedi bod yn gariadon ers pum mis, ac roedd hi newydd ei weld gyda Carys! Roedd hi wedi cynhyrfu’n lân. Dim ond un WKD oedd hi wedi ei gael, yr un yr oedd Mark wedi ei brynu iddi, ond roedd hi’n teimlo’n sâl iawn. Roedd hi’n siŵr ei bod am lewygu ... roedd Mark yn garedig iawn. Dywedodd y byddai’n edrych ar ei hôl. Noson allan

  8. Roedd Mrs. Prassad wedi dweud y dylai ddal ei dir yn erbyn y bwlis. Gwyddai hynny. Ond sut oedd e fod i wneud hynny? Yr unig dro yr oedd wedi dweud wrth Gari a’i ffrindiau i adael llonydd iddo fe wnaethon nhw ei alw’n fabi mawr a bygwth os byddai’n gwneud pethau’n anodd y byddent yn gwneud pethau’n waeth ac yn rhoi crasfa iddo. Roedd Gari fel petai ym mhobman yr oedd e’n mynd. Roedd yn yr ysgol; roedd yn mynd ar yr un bws ag ef adref; byddai yn y parc gyda’i ffrindiau – er y gwyddai Kyle na fyddai byth yn mynd yno eto ar ôl y tro diwethaf. Cael y gorau ar y bwlis

More Related