1 / 11

MATERION HIL YN AMERICA

MATERION HIL YN AMERICA. 1929-1990 (Martin Luther King). PROTEST HEDDYCHLON. Roedd Dr Martin Luther King yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr (ficer) ym Montgomery Alabama.

kimi
Télécharger la présentation

MATERION HIL YN AMERICA

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. MATERION HIL YN AMERICA 1929-1990 (Martin Luther King)

  2. PROTEST HEDDYCHLON • Roedd Dr Martin Luther King yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr (ficer) ym Montgomery Alabama. • Daeth i amlygrwydd yn gyntaf pan gynorthwyodd i arwain y boicot llwyddiannus o’r system bysiau yn Montgomery yn 1955, wedi i ddynes ddu o’r enw Rosa Parks wrthod ildio ei sedd i ddyn gwyn ar y system bysiau oedd yn arwahanu. Yn ystod y frwydr hon cyhoeddodd y Goruchaf Lys bod arwahanu ar fysiau yn anghyfreithlon.

  3. EI GREDOAU • Roedd King yn credu yn y dulliau gweithredu uniongyrchol, di-drais a ddefnyddiwyd gan Gandhi yn y 1940au i fynnu bod Prydain yn rhoi annibyniaeth i’r India. • Roedd yn un o arweinwyr Cynhadledd Arweiniad Cristnogol y De, a ffurfiwyd i gydlynu protestiadau yn erbyn gwahaniaethu. • Er bod nifer o grwpiau Hawliau Sifil mawr oedd yn hyrwyddo protestiadau heddychlon, King a ddaeth yn ffigwr mwyaf adnabyddus h.y. llefarydd effeithiol y protestiadau Hawliau Sifil heddychlon.

  4. Gorymdeithiau 1961 – 2-3 • Trefnwyd nifer gan MLK a’r NAAPC yn y 60au cynnar. • Yn 1963 traddododd MLK ei araith enwog ‘ Mae gen i freuddwyd’. • Ymunodd nifer o bobl wynion, yn bennaf o’r Gogledd. Roeddent yn benderfynol o gael Hawliau Sifil i bobl dduon.

  5. Pa fath o fygythiad oedd yn bod rhwng y rhesi tanciau a’r bidogau parod oedd wedi’u hogi?

  6. Archwiliwch y llun hwn ac eglurwch beth roedd King yn ceisio ei gyflawni.

  7. TEITHIAU RHYDDID Bu King hefyd yn cynorthwyo i drefnu’r teithiau rhyddid lle gwelwyd bysiau gyda phobl dduon a phobl wynion yn eistedd yn ymyl ei gilydd yn gyrru drwy daleithiau’r De mewn protest. Yn aml ymosodwyd ar y bysiau a’u difrodi.

  8. Yn aml byddai’r gorymdeithiau a’r protestiadau heddychlon a gafwyd gan King a’i gefnogwyr yn ennyn ar ymateb treisgar yr awdurdodau. • Sut mae’r ddau ddioddefwr yn ymddangos yn y lluniau hyn?

  9. Er gwaethaf y trais a amlygwyd tuag atynt, gwrthodai King a’i gefnogwyr dalu’r pwyth yn ôl â thrais. • Llwyddodd ei ddulliau heddychlon ennill parch a chefnogaeth ryngwladol iddo. Yn 1964 dyfarnwyd gwobr heddwch Nobel iddo fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad at hawliau sifil. • Yn drasig yn 1968, cafodd Martin Luther King ei lofruddio, tra roedd yn ymweld â Memphis, Tennessee a thaniwyd trais a therfysg ledled y wlad.

  10. TASG Ysgrifennwch ysgrif goffa i Martin Luther King gan amlinellu manylion ei fywyd, ei gyflawniadau a’i gyfraniadau at y Mudiad Hawliau Sifil.

  11. Y Diwedd Cafwyd pob delwedd o Lyfrgell Genedlaethol y Gyngres (www.loc.gov) Hyd y gwêl yr awdur nid oes unrhyw gyfyngiad sy’n hysbys ar y cyhoeddiad.

More Related