1 / 30

GANDHI

GANDHI.

luke-rivera
Télécharger la présentation

GANDHI

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. GANDHI

  2. Ydych chi wedisylwiar hen fapiauo’rbydllemaenifero’rgwledyddwedi’ulliwio’ngoch? Ystyrhynnyyweubodar un adegwedicaeleurheoliganBrydain. Un o’rgweldyddmwyafoedd India, gwladllemaecannoeddarfiloedd o boblynbyw , lawerohonynnhwyndlawd ac ynbywbywydaudiflasdrosben.

  3. Y Ymerodraeth Brydeinig 1850

  4. Roedd yr Indiaid yn casau’r Prydeinwyr a oedd yn rheoli, ond yn ogystal roedden nhw’n casau ei gilydd. Roedd y wlad wedi’i rhannu i nifer fawr o grwpiau crefyddol, gyda phob grwp yn credu nad oedd yn iawn iddyn nhw gymysgu a phobl o grwp arall.

  5. Roedd yr Indiaid am gael gwared ar y Prydeinwyr, a rheoli ei gwlad yn eu ffordd eu hunain. Ond roedd hyn yn ymddangos yn amhosibl am fod y Prydeinwyr mor gryf, a hefyd am eu bod nhw yn cweryla ymysg ei gilydd. Roedd angen arweinydd arnyn nhw, person a fyddai’n cael parch a pherson a fyddai y tu hwnt i broblemau crefydd.

  6. Un diwrnod cyrhaeddodd llong ym Mumbai. O’r llong daeth dyn bach, byr yn gwisgo dillad Indiaidd. Roedd yn eithaf enwog yn barod, oherwydd roedd e wedi bod yn gweithio yn Ne Affrica, yn helpu Indiaid a oedd yn byw ymo. Ei enw oedd Gandhi.

  7. Roedd Gandhi yn credu mai’r peth pwysicaf i India oedd cael gwared ar y Prydeinwyr. Ond, roedd yn gwybod hefyd na allai hyn ddigwydd nes bod pobl India yn stopio ymladd ymysg ei gilydd.

  8. Dywedodd Gandhi: ‘Dim ond ar ol i ni feddwl am ein hunain fel un y gallwn droi at ymladd y Prydeinwyr’

  9. Ond doedd Gandhi ddim eisiau ymladd gyda gynau, ond trwy ddefnyddio dulliau di drais. Dywedodd wrth y bobl am beidio a chymryd sylw o ddeddfau Prydian. Dyweododd wrthyn nhw am fynd i’r carchar yn fodlon pan fyddai’r milwyr yn dod i’w harestio nhw. Roedd Gandhi am wneud yn siwr nad oedd yn bosibl i’r Prydeinwyr aros yn India.

  10. Enw Gandhi ar y math hwn o brotest oedd anufudd-dod sifil Ystyr hyn oedd gwneud pethau’n anodd iawn i’r Prydeinwyr reoli. Cyn hir roedd miliynau o bobl India yn dilyn syniadau Gandhi

  11. Doedden nhw ddim yn talu trethi, ac roedd angen trethi er mwyn codi heolydd, rhedeg ysgolion a phob math o bethau eraill. Byddai’r bobl yn cynnal cyfarfodydd enfawr lle byddai Gandhi ac arweinwyr eraill yn siarad yn erbyn deddfau caled Prydain.

  12. Ymhen amser sylweddoldd y Prydeinwyr bod yn rhaid iddyn nhw adael India. Fe adawon nhw o’r diwedd yn 1947.

  13. Oedd Gandhi’n falch? Nag oedd, am fod y Prydeinwyr wedi rhannu India yn ddwy wlad, India a Phacistan. Roedden nhw wedi gwneud hyn fel bod y ddwy grefydd fwyaf, yr Hindwiaid a’r Mwslimiaid yn hapus.

  14. Hindw

  15. Mwslim

  16. Roedd Gandhi yn casau y rhannu hwn, ac fe siaradodd, ysgrifennodd ac ymprydiodd yn erbyn y rhaniad. Erbyn hyn roedd e’n saith deg wyth oed, yn denau ac yn wan. Un diwrnod wrth iddo fynd i weddio fe gafodd ei sathu dair gwaith, a bu farw ar unwaith.

  17. Sriharan, y dyn a laddodd Ghandi

  18. Roedd y byd i gyd yn drist. Doedd neb fel Gandhi wedi byw erioed. Roedd e wedi dangos i’r byd sut i ymladd heb rhoi loes i unrhyw un, a sut i berswadio’r gelyn drwy ddioddef ei hun.

  19. ‘Mae digon yn y byd i ddiwallu angen pawb, ond dim digon i ddiwallu’r barus’“

More Related