1 / 12

“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”

“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”. Sgil: Dehongliadau Cyfathrebu. GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924. Beth ydych chi’n credu sydd wedi digwydd?. Mater o amseru yw hi!.

nardo
Télécharger la présentation

“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. “Dysgu i Arwain ein Bywydau” Sgil: Dehongliadau Cyfathrebu GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924

  2. Beth ydych chi’n credu sydd wedi digwydd?

  3. Mater o amseru yw hi! Ym 1917 roedd Rwsia yn dal i ddefnyddio’r calendr IŴL. Roedd gweddill Ewrop yn defnyddio calendr GREGORIa oedd 13 diwrnod ymlaen. Gall fod yn ddryslyd pryd y digwyddodd y ddau chwyldro ym 1917!

  4. Pam y gorfodwyd y Tsar i ymddiorseddu ym mis Mawrth 1917? Sgil: AchosiaethSgil allweddol: Empathi • Rhoddir cymeriad i chi o Rwsia yn y cyfnod 1914 – 1917. • Gwyliwch y cyflwyniad canlynol a gweithiwch allan: • Pam y digwyddodd y pethau hyn? • Pa ran chwaraeodd eich cymeriad chi yn • Chwyldro 1af Rwsia!

  5. Y cymeriadau yn y stori hon:

  6. Digwyddiadau 1914 – Mawrth 1917 Awst 1914 Dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Rwsia yn cyhoeddi rhyfel ar Yr Almaen a’r milwyr yn ymgasglu. Roedd y Tsar yn boblogaidd iawn. Medi 1914 Trechwyd dwy fyddin Rwsia ym mrwydrau Llynnoedd Masuria a Tannenberg.

  7. Diwedd 1914 Roedd dros filiwn o filwyr Rwsia wedi marw. Ni allai diwydiant Rwsia gynhyrchu digon o arfau i gyflenwi’r holl filwyr. Nid oedd gan y fyddin ddigon o nwyddau, ac roedd y swyddogion weithiau’n anghymwys. 1914 – 1915 Roedd prinder bwyd, glo a deunyddiau diwydiannol yn y dinasoedd. Cynyddodd prisiau a chaeodd ffatrïoedd. Y llywodraeth oedd yn cael y bai.

  8. Medi 1915 Penderfynodd y Tsar adael Petrograd a mynd i Ffrynt y Gorllewin i redeg byddin Rwsia. Gadawyd y Tsares a Rasputin i reoli, ac roedden nhw’n amhoblogaidd iawn, hyd yn oed ymhlith y pendefigion. Perswadiodd Rasputin y Tsares i roi ei ffrindiau ef yn lle gweinidogion nad oedd e’n eu hoffi. Roedd trefniadaeth cyflenwi bwyd i’r dinasoedd wedi torri lawr. Gaeaf 1916 Roedd y gaeaf yn un caled. Prin oedd y bwyd a’r tanwydd a gyrhaeddodd Petrograd. Ffurfiodd ciwiau bara a saethodd prisiau i fyny.

  9. 7fed Mawrth 1917 Roedd y sefyllfa’n argyfyngus. Aeth 40,000 o weithwyr yn ffatri Putilov ar streic. 8fed Mawrth 1917 Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Ymunodd miloedd o fenywod yn y protestiadau. Roedd y protestwyr yn galw am fwyd, tanwydd a llywodraeth newydd.

  10. 12fed Mawrth 1917 Gorchmynnodd y Tsar i’r milwyr saethu ar y protestwyr. Gwrthododd llawer o filwyr ac ymuno â’r protestiadau. Gorymdeithiodd milwyr a gweithwyr i’r Dwma i fynnu ei bod yn cymryd rheolaeth dros Rwsia. 15fed Mawrth 1917 Ceisiodd y Tsar fynd yn ôl i Petrograd ond stopiwyd ef gan weithwyr y rheilffordd. Gorfodwyd ef i ffoi.

  11. Pam y gorfodwyd y Tsar i ymddiorseddu ym mis Mawrth 1917? Sgil: Achosiaeth Sgil allweddol: Empathi • Gyda’ch cerdyn cymeriad mae’n rhaid i un o’r pâr siarad am 2 funud am :- • Eich teimladau am y Tsar • Eich teimladau am y rhyfel • Sut mae eich gwlad yn cael ei rheoli • Mae’n rhaid i chi ystyried gwybodaeth eich cymeriad a’r modd y byddent yn debygol o ymateb i’r gwahanol ddigwyddiadau a’r gwahanol gymeriadau. Rhybudd: Dylech fod yn barod i ateb cwestiynau ar ddiwedd eich anerchiad!

  12. Posau Chwyldro p t u r s n a i t d r r g p e a o R a s p u t i n Llynnoedd Masuria y ll e n dd o n a i r u s m a â d m w u D w m â u P e t r o g r a d

More Related