1 / 17

CANTRE’R GWAELOD

CANTRE’R GWAELOD. Y CHWEDL.

raziya
Télécharger la présentation

CANTRE’R GWAELOD

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. CANTRE’R GWAELOD Y CHWEDL

  2. Os ewch chi ryw fin nos o haf ar hyd y ffordd sy’n arwain allan o bentref Aberarth i gyfeiriad Llanon, cofiwch aros ar ben y rhiw i edrych i lawr ar Fae Aberteifi. Mae’n werth ei weld, yn enwedig pan fo’r haul yn machlud yn goch yn y Gorllewin. Fe welwch ddarn mawr o fôr gwastad, a thir Cymru a’i ddwy fraich amdano. Ac yn y pellter fel cefn llwyd rhyw hen gawr mawr yn codi o’r môr, fe welwch Ynys Enlli.

  3. Ganrifoedd maith yn ôl, nid môr oedd rhwng Aberarth ac Enlli, ond tir glas a dolydd ffrwythlon. Tai a gerddi hefyd, a phentrefi tawel a gwartheg a defaid yn pori, gwyr a gwragedd wrth eu gwaith a phlant yn chwarae. Cantre’r Gwaelod oedd enw’r wlad hyfryd honno sy’ bellach o dan y môr. Beth a ddigwyddodd iddi? Wel, fel hyn y bu hi.

  4. Er bod Cantre’r Gwaelod yn lle braf iawn i fyw ynddo, roedd yna un bai mawr yn perthyn i’r wlad. Roedd y tir yn is na’r môr. Ac felly fe fu’n rhaid adeiladu muriau cryfion i rwystro’r môr rhag llifo i mewn dros y tir. Ar ben y muriau hyn, pan fyddai’r llanw’n dod i mewn, cerddai gwylwyr i ofalu nad oedd y môr yn tyllu trwy’r muriau. Ac os llwydda’r môr i dorri trwy’r mur ar ambell noson stormus, roedd yna gloch fawr mewn tŵr uchel yn cael ei chanu fel rhybudd i’r bobl ddod ar frys i gau’r twll yn y mur cyn i’r môr foddi’r wlad.

  5. O do, fe lwyddodd y môr i dorri twll droeon, yn enwedig pan fyddai llanw uchel, a gwynt mawr yn chwythu o’r Gorllewin. Ond bob tro y digwyddai hyn roedd y gwylwyr yn ddigon effro, a’r bobl yn ddigon cyflym yn rhedeg i gau’r twll â cherrig trymion fel na ddaeth dim niwed i’r wlad a’r tai a’r pentrefi.

  6. Gan fod gofalu am y muriau mawr yn waith mor bwysig, roedd yn rhaid cael un o ddynion pwysica’r wlad i fod yn gyfrifol am y gwaith. Dewisodd brenin y wlad, sef Gwyddno Garan Hir, y tywysog Seithennyn fel meistr y muriau. Aeth blynyddoedd heibio ac ni wnaeth y môr unrhyw niwed i’r muriau. Gweithiau pobl yn ddiwyd ar y tir, ac roedd pawb yn hapus yng Nghantre’r Gwaelod.

  7. Ond, un noson dywyll yn y gaeaf, roedd gwledd bwysig iawn ym mhlas y brenin Gwyddno. Roedd merch y brenin yn cael ei phen-blwydd y diwrnod hwnnw, ac roedd Gwyddno wedi gwahodd gŵyr a gwragedd bonheddig Cantre’r Gwaelod i gyd i’r wledd. Dechreuodd y gwledda yn gynnar yn y prynhawn ac aeth ymlaen tan yn hwyr y nos. Roedd y tywysog Seithennyn, wrth gwrs, yn y wledd, ac erbyn iddi dywyllu'r noson honno roedd e wedi yfed llawer gormod o win, ac wedi meddwi.

  8. Y noson yna cododd y gwynt yn gynnar, gan chwythu’n gryf iawn o’r Gorllewin. Y noson honno hefyd, cerddai dau o ŵyr ifanc ar ben y mur mawr gan edrych allan i’r môr. Fe fuon nhw yno am amser hir yn disgwyl gwylwyr eraill i gymryd eu lle, ond ddaeth neb. Roedd y gwylwyr eraill, fel eu meistr, y Tywysog Seithennyn, yn y wledd yn y plas, ac wedi meddwi.

  9. Ond roedd y gwynt yn codi’n storm, a’r llanw’n uchel, ac fe ddylai fod mwy o wylwyr nag arfer ar y mur ar noson mor ofnadwy. Cerddodd y ddau’n ôl tuag at y twr uchel oedd ar ganol y mur. Yno y crogai’r gloch fawr a fyddai’n cael ei chanu pan lwyddai’r môr i dyllu’r mur. Doedd dim angen canu honno eto, ond sut byddai hi pan ddeuai’r penllanw? Cytunodd y ddau fod un ohonyn nhw i fynd ar unwaith i’r plas i geisio cael rhagor o wylwyr i ddod i’w helpu. O dan y tŵr roedd stablau ceffylau’r gwylwyr, a chyn bo hir roedd un o’r ddau wyliwr unig yn carlamu drwy’r tywyllwch i gyfeiriad y plas.

  10. Arhosodd y llall, bachgen o’r enw Gwyn ap Llywarch yn y twr. Roedd yn nosi’n gyflym. Erbyn hyn roedd y môr yn berwi wrth waelod y mur a’r ewyn gwyn yn llenwi’r awyr. Gallai’r bachgen glywed y tonnau’n curo’n drwm ar y mur ac fe godai eu sŵn ofn yn ei galon. Ond meddyliodd wedyn am y wledd fawr yn y plas, ac am ferch hardd y brenin. Byddai hi’n siŵr o fod yn edrych yn harddach nag erioed y noson honno, meddyliodd. Er nad oedd ef yn ddim ond mab i fonheddwr digon tlawd yng Nghantre’r Gwaelod, roedd e’n caru Mererid, merch y brenin, yn fawr iawn. Ac O! Fe hoffai fod yn y plas y funud honno, yn dawnsio gyda hi!

  11. Yna fe ddaeth y penllanw. Roedd y tonnau’n awr yn gynddeiriog. Fflachiodd mellten ar draws yr awyr gan oleuo’r nos. Roedd y dynion yn hir yn dod, meddyliodd. Aeth i lawr o’r twr ac i’r stablau i weld a oedd ceffylau wedi gwylltio. Pan gyrhaeddodd waelod y mur fflachiodd mellten arall, ac yn ei golau gwelodd rywbeth a gododd arswyd arno. Roedd y môr wedi tyllu’r mur, ac yn awr llifai dwr gwyn yn ffrwd fain rhwng y cerrig.

  12. Tra safai yno clywodd sŵn, sŵn cerrig mur yn cael eu symud gan nerth y tonnau. Yna clywodd sŵn y dŵr yn rhuthro’n gynt. Roedd y mur wedi torri! Rhedodd yn ôl i ben y mur ac i mewn i’r twr. Tynnodd raff y gloch fawr, ac aeth ei ‘Ding! Dong! Ding! Dong!’ dros y lle i gyd. Ond y noson honno ni ddaeth neb i achub y mur. Rhedodd Gwyn ap Llywarch wedyn i lawr i’r stablau. Neidiodd ar gefn un o’r ceffylau a charlamu trwy’r tywyllwch i gyfeiriad y plas.

  13. Fe gyrhaeddodd lys y brenin yn ddiogel. Clywodd sŵn chwerthin a chanu wrth nesáu at y porth. Aeth i mewn. Gwelodd olygfa ryfedd. Roedd y brenin, y gwŷr bonheddig a’r milwyr i gyd yn feddw, at Tywysog Seithennyn, ceidwad y mur, yn fwy meddw na neb. Roedd llawer o’r dynion mor feddw nes eu bod wedi syrthio i gysgu. Gwaeddodd nerth ei geg, ‘Mae’r môr wedi torri’r mur!’ Edrychodd rhai’n syn arno, chwarddodd y lleill am ei ben. Ble roedd y Dywysoges Mererid? Aeth i gyfeiriad ystafelloedd y merched, a gwelodd hi! Roedd hi yn ei gwisg fwyaf hardd ac fe edrychai’n hapus dros ben.

  14. Rhedodd ati. ‘Rhaid i chi ddod gyda fi,’ meddai. ‘Mae’r môr wedi torri’r mur ac mae e’n llifo dros y tir. Rhaid i ni gilio ar unwaith i’r bryniau, i’r tir uchel!’ ‘Ond...’ Roedd y wen ar wyneb y dywysoges wedi diflannu. Edrychai’n ddryslyd ar Gwyn ap Llywarch. Cododd hwnnw hi yw freichiau a mynd trwy’r neuadd fawr tua phorth y llys. Wrth fynd, gwaeddai nerth ei geg. “Ffowch i’r bryniau! Mae’r môr yn llifo dros y tir! Mae’r tir wedi torri!”

  15. Yna roedd e allan o’r llys ac yn y cyntedd, lle safai ei geffyl. Cyn bo hir roedd ef a’r dywysoges ar gefn y ceffyl yn carlamu trwy’r glaw ar gwynt a'r tywyllwch. Erbyn hynny, hefyd, roedd rhai o leiaf o wŷr a gwragedd y llys wedi deall beth oedd wedi digwydd ac roedd y rhieni hefyd yn ceisio ffoi o afael y môr, a oedd yn prysur lifo dros y tir.

  16. Pan ddaeth y bore safai Gwyn ap Llywarch a’r dywysoges ar ben craig uchel uwchlaw Aberarth yng Ngheredigion, yn edrych allan tua’r gorllewin. Yn eu hymyl porai’r ceffyl blinedig a oedd wedi ei gludo i’r fan honno. Gwelodd y ddwy olygfa drist iawn o ben y graig. Doedd dim sôn am y mur mawr, na hyd yn oed y tŵr uchel a oedd yn ei ganol. Doedd dim sôn chwaith am lys y brenin nac am bentrefi na thai, na choed na thir gwyrddlas. Llifai tonnau llwyd y môr dros y cyfan i gyd!

  17. Fe fuon nhw’n yno’n hir ar ddagrau’n llifo dros eu gruddiau. Ac meddai Gwyn ap Llywarch o’r diwedd, “Dywysoges, mae pawb a phopeth a oedd yn annwyl i mi wedi mynd. Mae’r môr creulon wedi dwyn y cyfan. Wn i ddim a fu tristwch mwy yn y byd erioed. Ond… gawn ni fynd gyda’n gilydd i geisio cartref newydd yn y bryniau hyn?” “Fe wnawn ni hynny, Gwyn,” meddai hi. Cydiodd y bachgen yn ei llaw a throdd y ddau eu cefnau am byth ar Gantre’r Gwaelod.

More Related