1 / 82

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig. Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Yr Uned Cydraddoldeb, Llywodraethu a Chydymffurfio MorganCA5@caerdydd.ac.uk 02920 870230. Katya Hosking, Swyddog Cwricwlwm Cynhwysol

renee
Télécharger la présentation

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Yr Uned Cydraddoldeb, Llywodraethu a Chydymffurfio MorganCA5@caerdydd.ac.uk 02920 870230 Katya Hosking, Swyddog Cwricwlwm Cynhwysol Cefnogi Dysgu ac Addysgu, Y Gofrestrfa HoskingK@caerdydd.ac.uk 02920 879218

  2. Dalier sylw: 2 • Dyma gyflwyniad i rai egwyddorion a gofynion cyfreithiol allweddol o ran cydraddoldeb ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig • Dylai’r cyflwyniad hwn gymryd tua 30 munud i’w gwblhau yn ogystal â chwis sy’n cymryd 10 munud Am fwy o wybodaeth neu adborth ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltwch â: Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, E-bost: MorganCA5@caerdydd.ac.uk, Ffôn: 02920 870230 Am fwy o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â dysgu, addysgu ac asesu, cysylltwch â: Katya Hosking, Swyddog Cwricwlwm Cynhwysol, E-bost: HoskingK@caerdydd.ac.uk, Ffôn: 02920 879218

  3. Os oes arnoch chi angen copi o’r wybodaeth hon mewn fformat arall, cysylltwch â Catrin Morgan: MorganCA5@caerdydd.ac.uk, 02920 870230 3

  4. Amlinelliad o’r Drafodaeth 4 • Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth • Achosion Cyfreithiol, Moesol a Busnes • Deddf Cydraddoldeb 2010 • Diwylliant Cydraddoldeb Prifysgol Caerdydd • Gwahaniaethu • Stereoteipio a Rhagfarnu • Iaith Amrywiaeth • Eich rôl fel Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig • Cwis Cydraddoldeb (10 cwestiwn)

  5. 1. Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth 5

  6. Beth yw Cyfleoedd Cyfartal ac Amrywiaeth? Cyfleoedd Cyfartal: yn gysylltiedig â dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg yn erbyn grwpiau penodol. Cydraddoldeb = cyflwr o fod yn gyfartal. Amrywiaeth: yn seiliedig ar y cysyniad o gydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaeth. Mae cydraddoldeb yn diogelu pawb ohonom… Mae amrywiaeth yn adlewyrchu pawb ohonom… 6

  7. “Nid oes cydraddoldeb mewn ystyried bod pethau gwahanol yn debyg, mae cydraddoldeb mewn ystyried bod pethau gwahanol yn wahanol.”Tom Robbins

  8. Yr achos cyfreithiol, moesol a busnes dros amrywiaeth a chydraddoldeb 8

  9. Ein Diwylliant Nod Prifysgol Caerdydd yw: • Datblygu a hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac urddas, cwrteisi a pharch ledled y Brifysgol • Cefnogi’r holl fyfyrwyr a staff, gan gynnwys darparu cefnogaeth berthnasol mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig • Gweithio i atal mathau o wahaniaethu anghyfreithlon a delio â phob mathau o wahaniaethau’n gyson ac effeithiol • Sicrhau bod ei holl bolisïau a chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dylanwadu ar ddiwylliant y Brifysgol ac yn ei hysbysu. 9

  10. Pam fod arnom angen cydraddoldeb ac amrywiaeth • Yr Achos Cyfreithiol: • Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi amddiffyniad a hawliau i bobl gan gynnwys myfyrwyr a staff mewn perthynas â gwahaniaethu (triniaeth llai ffafriol), aflonyddwch ac erledigaeth • Mae deddfwriaeth hawliau dynol yn rhoi cyfres o hawliau a rhyddid sylfaenol y mae gan bob unigolyn hawl iddynt yn seiliedig ar egwyddorion craidd sy’n cynnwys urddas, cydraddoldeb a pharch. • Mae gan bawb ohonom hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r gyfraith ar gydraddoldeb. 10

  11. Pam fod arnom angen cydraddoldeb ac amrywiaeth • Yr Achos Busnes: • Denu a chadw myfyrwyr a staff • Gwneud defnydd llawn o dalentau a dysgu pobl o ystod eang o wybodaeth a phrofiad • Gwella perfformiad a galluogi pobl i berfformio hyd at eu potensial llawn • Yr Achos Moesol: • Trin pobl yn deg • Creu amgylchedd cynhwysol 11

  12. “Un o bedwar prif bwrpas addysg uwch yw chwarae rhan fawr mewn ffurfio cymdeithas ddemocrataidd, wâr, gynhwysol.” Syr Ron Dearing Pwyllgor ymchiliad y DU i addysg uwch, 1997

  13. Pwy mae’r gyfraith yn eu hamddiffyn? ‘Nodweddion Gwarchodedig’ Gellir dod o hyd i mwy o wybodaeth ar ein poster Nodweddion Gwarchodedig 13

  14. Nodweddion Gwarchodedig Mae Deddf Cydraddoldeb 2011 yn rhoi hawliau a mesurau diogelu mewn perthynas â’r ‘Nodweddion Gwarchodedig’ canlynol: • Oedran • Anabledd • Ailbennu Rhywedd • Priodas a Phartneriaeth Sifil • Beichiogrwydd a Mamolaeth • Hil • Crefydd a Chredo • Rhyw • Cyfeiriadedd Rhywiol Gellir dod o hyd i mwy o wybodaeth ar ein poster: Nodweddion Gwarchodedig 14

  15. “Cydraddoldeb yw enaid rhyddid; mewn gwirionedd, hebddo, nid oes rhyddid.”Frances Wright

  16. Beth yw rhai o’r buddion ar gyfer Myfyrwyr? • Peidio â bod o dan anfantais neu brofi ymddygiad negyddol am reswm yn ymwneud â’ch nodwedd warchodedig • Astudio/byw mewn amgylchedd sy’n eich galluogi i fod ‘yn chi’ch hun’ a bod yn agored am eich hunaniaeth ac anghenion • Cael profiad myfyriwr mwy ‘byd-eang’ ac amrywiol a fydd yn eich helpu i gael ystod ehangach o wybodaeth a phrofiad • Cael dealltwriaeth well o anghenion pobl mewn perthynas â deunydd pwnc, e.e. myfyrwyr meddygaeth yn deall anghenion cleifion anabl, y gellir defnyddio hyn yn ddiweddarach mewn gwaith ymchwil neu gyflogaeth • Bod wedi’ch paratoi’n well ar gyfer cyflogaeth (polisïau amrywiaeth a chydraddoldeb cyflogwr) • Deall tegwch a chynhwysoldeb yn arferion y Brifysgol • Deall gweithdrefnau ar gyfer mynd i’r afael ag aflonyddwch / bwlio 16

  17. Mae’n bwysig nodi: • Nid yw’r Brifysgol yn goddef aflonyddwch a bwlio gan gynnwys iaith dramgwyddus • Mae rhyddid i lefaru ac eithrio o’r cwricwlwm yn caniatáu beirniadaeth gyfreithiol, gyfreithlon, neu ddadl at ddibenion academaidd yn ymwneud â materion, syniadau a deunyddiau. Fodd bynnag, ni ddylai’r rhai sy’n ymarfer rhyddid i lefaru dorri cyfreithiau eraill, er enghraifft yn ymwneud ag aflonyddwch ac annog casineb, yn y ffordd y caiff syniadau eu cyfleu • Mae gan yr holl fyfyrwyr â staff gyfrifoldeb i gydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau cydraddoldeb • Mae gan fyfyrwyr a staff gyfrifoldeb i weithredu mewn ffordd nad yw’n gwahaniaethu’n anghyfreithlon (gweler diffiniadau mewn sleidiau i ddod) • Er mwyn nodi unrhyw anghenion am gymorth, dylai myfyrwyr drafod eu hanghenion penodol gyda’r Brifysgol 17

  18. “Y pwynt yw bod byw gyda’n gilydd yn raslon yn gwneud ein bywydau’n fwy cyfoethog, diogel a hapus. Mae anghydraddoldeb yn gwneud bywyd yn fwy anodd, gwael ac annifyr.”Syr Trevor Phillips

  19. 3. Y Ddeddf Cydraddoldeb 19

  20. Deddf Cydraddoldeb 2010 • Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn cynnig ymagwedd wedi’i chysoni tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth (mae’n dod â’r holl ‘nodweddion gwarchodedig’ o dan un gyfraith) • O dan y Ddeddf, mae dyletswyddau ‘Cyffredinol’ a ‘Phenodol’ gan ‘Gyrff Cyhoeddus’ (e.e. prifysgolion, ysbytai ac ati) sy’n ddyletswyddau ychwanegol i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer y cyrff hyn • Dalier sylw: nid yw popeth wedi’i gynnwys o dan y ddeddf cydraddoldeb, e.e. cefndir cymdeithasol-economaidd, materion ‘tegwch’ nad ydynt yn ymwneud â nodwedd warchodedig ac ati. 20

  21. Y Dyletswyddau ‘Cyffredinol’ • Dileu gwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan neu o dan y Ddeddf • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu, a • Meithrin perthynas da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu. 21

  22. Dyletswyddau ‘Penodol’ (Cymru) Mae gennym nifer o ddyletswyddau penodol ar waith yng Nghymru sydd â’r nod o sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol i gwrdd â’r dyletswyddau cyffredinol. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys: 1. Datblygu a gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb 2. Ymgysylltu â phobl o grwpiau cydraddoldeb gwahanol 22

  23. Dyletswyddau ‘Penodol’ (Cymru) 3. Monitro data cydraddoldeb 4. Edrych ar y ffordd y mae ein polisïau a gweithdrefnau’n effeithio ar grwpiau gwahanol 5. Cynnal archwiliadau cyflog cyfartal i sicrhau cyflog cyfartal am waith cyfartal rhwng dynion a menywod 6. Adrodd yn flynyddol ar gynnydd a chyhoeddi’r wybodaeth hon. 23

  24. 4. Ein Polisïau a Diwylliant Cydraddoldeb 24

  25. Cynllun, Polisïau a Chanllawiau Cydraddoldeb

  26. Y Cynllun Cydraddoldeb Strategol • Mae’r Brifysgol wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) • Mae’r cynllun yn dangos sut y byddwn yn cydymffurfio â’r ddeddf ac yn amlinellu ymrwymiad y Brifysgol i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar sail Oedran, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Crefydd neu Gredo, a Chyfeiriadedd Rhywiol • Cafodd yr Iaith Gymraeg ei chynnwys yn ein CCS hefyd i ddangos ein hymrwymiad (mae gan y Brifysgol Gynllun Iaith Gymraeg hefyd sy’n cynnwys ymrwymiadau mwy manwl) 26

  27. Chwe Amcan Cydraddoldeb EIN DIWYLLIANT: Diwylliant yn seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch Amcan 1: Sefydlu cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy hyfforddiant, ymwybyddiaeth a chyfathrebu Amcan2: Gwella’r broses o fonitro a datgelu nodweddion gwarchodedig EIN MYFYRWYR A STAFF: Profiad addysgol a phrofiad o weithio sy’n ysbrydoli a chyfoethogi myfyrwyr a staff Amcan3: Adolygu, datblygu a gweithredu polisïau, gweithdrefnau, cwricwlwm ac amgylchedd ffisegol sy’n gefnogol a chynhwysol Amcan4: Adolygu a mynd i’r afael â thangynrychiolaeth mewn recriwtio, cadw a datblygiad/cyrhaeddiad staff a myfyrwyr Amcan5: Adolygu a mynd i’r afael â chydraddoldeb o ran cyflog staff a strwythurau cysylltiedig EIN CYMUNEDAU: Annog a chefnogi cydlyniant cymunedol Amcan6: Hyrwyddo cydweithio allanol, ehangu mynediad a chyfathrebu, meithrin perthnasoedd da a chynnal ymgysylltiad yn fewnol ac allanol 27

  28. Y Siarter Myfyrwyr • Cyflwynodd y Brifysgol ei Siarter Myfyrwyr ym mis Awst 2012 a mae’n amlinellu disgwyliadau’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a Myfyrwyr am gymuned urddasol ac egwyddorol, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth a deddfwriaeth o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a roddir yn y pecyn hwn. • Mae’r Siarter yn diffinio cymuned urddasol ac egwyddorol fel un lle hybir cydraddoldeb, lle gwerthfawrogir amrywiaeth a chynwysoldeb a lle perchir unigolion; lle mae ymddygiad yn cael ei lywio gan godau’n ymwneud ag uniondeb academaidd, moeseg ac ymddygiad da; lle mae pawb yn derbyn cyfrifoldeb tuag at ei gilydd; a lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal.

  29. Y Siarter Myfyrwyr Yng Nghaerdydd, gallwch ddisgwyl i’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr: - eich trin ag urddas, cwrteisi a pharch bob amser; - meithrin a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chyhoeddi gwybodaeth am ein cynnydd bob blwyddyn; • gweithredu’n brydlon ac effeithiol i fynd i’r afael â chwynion yn ymwneud â gwahaniaethu neu aflonyddwch; • fod wedi’u hymrwymo i gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg; • fod wedi’u hymrwymo i wella hygyrchedd ein cwricwlwm, cyfleusterau a gwasanaethau, i gwrdd â gofynion pob defnyddiwr posibl.

  30. Y Siarter Myfyrwyr Mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn disgwyl i chi: • ymddwyn yn briodol, gan drin cyd-fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol ag urddas, cwrteisi a pharch bob amser; • rhoi gwybod i ni os yw eich profiad yng Nghaerdydd yn cael ei effeithio’n andwyol gan ymddygiad cyd-fyfyrwyr neu staff; • datblygu eich dealltwriaeth o broffesiynoldeb ac uniondeb academaidd yn gynnar a rhoi hyn ar waith trwy gydol eich cyfnod yma a thu hwnt. Mae’r Siarter Myfyrwyr llawn ar gael yma – www.caerdydd.ac.uk/studentcharter

  31. Rhai Ffeithiau/Gwybodaeth am Brifysgol Caerdydd • Gellir dod o hyd i Wybodaeth Cydraddoldeb am staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar ein poster ‘Ffeithiau a Ffigyrau’ 31

  32. 5. Gwahaniaethu 32

  33. “Mae ein bywydau’n dechrau dod i ben panfyddwn yn cadw’n dawel am bethau sydd o bwys.”Martin Luther King

  34. Gwahaniaethu uniongyrchol (1) Gwahaniaethu uniongyrchol yw pan gaiff rhywun ei drin yn llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig. Enghraifft: Mae gan ddau fyfyriwr ôl-raddedig mewn peirianneg gymwysterau cyfartal. Mae’r adran yn cynnig swydd cynorthwyydd addysgu i’r dyn, ac nid i’r fenyw, oherwydd mai dynion yw’r rhan fwyaf o’r gyfadran ac maen nhw’n meddwl y bydd dyn yn fwy addas. Enghraifft: Mae prifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr anabl gael archwiliad meddygol ond nid yw’n gwneud hyn yn ofynnol i fyfyrwyr nad ydynt yn anabl. Enghraifft: Nid yw adran gwleidyddiaeth yn cynnig swydd cynorthwyydd addysgu i fyfyriwr ôl-raddedig Iddewig oherwydd bod dosbarthiadau tiwtorial yn cael eu cynnal ar nos Wener ac mae’r Cadeirydd yn tybio y bydd y myfyriwr eisiau gadael yn gynnar ar ddydd Gwener er mwyn nodi’r Saboth. 34

  35. Gwahaniaethu Uniongyrchol (2) Mae gwahaniaethu uniongyrchol hefyd yn cynnwys sefyllfaoedd ble mae rhywun yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei bod yn ymddangos bod ganddynt nodwedd warchodedig neu eu bod yn gysylltiedig â rhywun sydd â nodwedd warchodedig: Enghraifft: Mae cydgysylltydd lleoliadau’n meddwl bod athro-fyfyriwr yn hoyw, er nad ydyw mewn gwirionedd. Mae’n penderfynu peidio â chynnig lleoliad iddo mewn ysgol Gatholig oherwydd nid yw’n meddwl y bydd yr ysgol yn lle cefnogol i fyfyriwr hoyw. Enghraifft: Mae’r cydgysylltydd lleoliadau’n gwybod nad yw athro-fyfyriwr yn hoyw, ond mae’n penderfynu peidio â chynnig lleoliad iddo mewn ysgol Gatholig oherwydd bod y myfyriwr wedi ymddangos yn y wasg leol yn ymgyrchu dros hawliau pobl hoyw, ac felly nid yw’n meddwl y bydd yr ysgol yn rhoi cefnogaeth iddo. 35

  36. Gwahaniaethu anuniongyrchol Gwahaniaethu anuniongyrchol yw lle mae rheol neu ymarfer sy’n ymddangos yn niwtral yn berthnasol i bawb, ond mae’n rhoi pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais benodol. Enghraifft: Nid yw prifysgol yn caniatáu cŵn yn ei hadeiladau. Byddai hyn yn anfanteisio pobl sydd â nam ar eu golwg sy’n defnyddio cŵn tywys. Enghraifft: Mae adran yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod wedi cyflawni graddau AAB mewn arholiadau Safon Uwch a safwyd ar yr un pryd. Mae menywod â phlant ifanc yn fwy tebygol o fod yn brif ofalwr na dynion â phlant ifanc, ac felly’n fwy tebygol i astudio’n rhan-amser dros nifer o flynyddoedd. Byddai’r gofyniad hwn yn anfanteisio menywod â phlant ifanc. 36

  37. Cyfiawnhad gwrthrychol Nid oes unrhyw amddiffyniad i gyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau mewn perthynas ag oedran. Gellir cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol dim ond os • mabwysiedir y rheol neu’r ymarfer er mwyn ceisio cyflawni nod cyfreithlon; • mae’r rheol neu’r ymarfer yn ddull priodol o gyflawni’r nod, ac • nad oes ffordd arall llai gwahaniaethol o gyflawni’r nod. Gelwir hyn yn gyfiawnhad gwrthrychol. Enghraifft: Ni chaniateir cŵn yng nghyfleuster gweithgynhyrchu glân yr Ysgol Fferylliaeth. Ni fyddai hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn person sy’n defnyddio ci tywys, oherwydd bod cadw’r cyfleuster yn ddi-haint yn nod cyfreithlon, a gwahardd cŵn yw’r unig ffordd y gellir cyflawni hyn. 37

  38. Anabledd O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae person yn anabl os oes ganddynt nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eu gallu i ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae pobl sydd â chyflyrau megis y canlynol yn debygol o gael eu hamddiffyn gan y Ddeddf: • Nam ar y golwg a’r clyw • Anawsterau iechyd meddwl hirdymor neu fynych • Anffurfiadau difrifol • Anawsterau dysgu penodol (e.e. dyslecsia) • Cyflyrau corfforol (e.e. parlys yr ymennydd, arthritis) • Cyflyrau meddygol hirdymor (e.e. epilepsi, diabetes, canser, HIV, sglerosis ymledol) Maen nhw’n warchodedig hyd yn oed os yw meddyginiaeth neu driniaeth yn rheoli eu cyflwr neu’n cyfyngu ei effeithiau. 38

  39. Gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd Gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd yw trin rhywun yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n deillio o’u hanabledd (ond nid oherwydd yr anabledd ei hun). Enghraifft: Mae gan fyfyriwr gyflwr meddygol sy’n achosi blinder difrifol ac mae’n syrthio i gysgu yn ystod darlith. Mae’r darlithydd yn dweud ei bod yn amlwg nad yw’r myfyriwr yn cymryd sylw, ac mae’n gofyn iddo adael. Bydd hyn yn anghyfreithlon dim ond os oedd y darlithydd yn gwybod am anabledd y myfyriwr, neu pe dylai fod yn gwybod amdano. Hefyd gall y darlithydd amddiffyn ei hun drwy roi cyfiawnhad gwrthrychol dros y driniaeth. 39

  40. Anabledd: Addasiadau Rhesymol Mae’n rhaid i brifysgolion wneud ‘addasiadau rhesymol’ i sicrhau nad yw pobl anabl yn cael eu hanfanteisio o ganlyniad i anabledd. Enghraifft: Mae darlithydd hanes yn rhoi taflenni wedi’u hargraffu i fyfyrwyr yn y ddarlith, a darparu fersiwn electronig wedi hynny’n unig. Byddai’n addasiad rhesymol i roi copi electronig i fyfyriwr dall o flaen llaw, fel y bydd ganddo amser i ddefnyddio meddalwedd testun-i-lais i’w ddarllen cyn y dosbarth. Enghraifft: Mae’n angenrheidiol i fyfyriwr Byddar sy’n darllen gwefusau allu gwylio wynebau pobl pan maen nhw’n siarad. Byddai’n addasiad rhesymol i’w thiwtor drefnu’r cadeiriau mewn cylch a gofyn i fyfyrwyr siarad un ar y tro. 40

  41. Erledigaeth ac Aflonyddwch 41 Aflonyddwch yw ymddygiad di-groeso sy’n troseddu yn erbyn urddas rhywun neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu ymosodol. Mae’n cynnwys ymddygiad y mae unigolyn yn ei gael yn ymosodol, hyd yn oed os nad yw’r ymddygiad wedi’i gyfeirio atyn nhw. Mae aflonyddwch mewn perthynas â nodwedd warchodedig yn anghyfreithlon. Enghraifft: Mewn seminar, mae dau fyfyriwr yn cwyno’n uchel bod myfyrwyr anabl sy’n cael amser ychwanegol mewn arholiadau’n cael mantais annheg, ac mai dim ond myfyrwyr anneallus ydynt sy’n gwneud esgus ac nad ydynt mewn gwirionedd yn haeddu’r graddau a ddyfernir iddynt. Mae hyn yn creu amgylchedd gelyniaethus a llawn cywilydd i fyfyriwr anabl yn y grŵp seminar. Erledigaeth yw trin pobl yn llai ffafriol oherwydd eu bod wedi ceisio ymarfer eu hawliau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, neu oherwydd eu bod wedi helpu rhywun i ymarfer eu hawliau.

  42. Gweithredu Cadarnhaol Mae gweithredu cadarnhaol yn gallu golygu trin pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn fwy ffafriol, ac mae’n gyfreithlon dim ond os yw’n golygu cymryd camau cymesur • i’w galluogi i oresgyn anfantais; • i gwrdd â’u hanghenion arbennig; neu • eu hannog neu eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd lle maen nhw wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd. Enghraifft: Er mwyn annog dynion i ystyried gyrfa mewn nyrsio, mae prifysgol yn trefnu rhaglen fentora ar gyfer bechgyn yn eu harddegau sy’n cynnwys profiad gwaith mewn ysbytai. Dalier sylw: yn wahanol i’r nodweddion gwarchodedig eraill, nid yw anabledd yn gymesur – nid yw trin rhywun yn fwy ffafriol oherwydd eu hanabledd yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon yn erbyn person nad yw’n anabl. 42

  43. 6. Stereoteipiau a Rhagfarn 43

  44. Stereoteipiau a Rhagfarn • Stereoteipio: cyffredinoli rhagfarnllyd ynghylch grŵp cymdeithasol – tybio neu briodoli nodweddion gor-gyffredinol i grŵp • Rhagfarn: "syniad rhagdybiedig sy‘n seiliedig ar ychydig iawn o ffeithiau neu ddim" • Yn aml rydym yn tybio ynghylch pobl eraill, a’u galluoedd, sgiliau a phriodweddau, heb wybod llawer amdanynt • Mae tueddiad i weld gwahaniaethau fel gwendidau. 44

  45. Yr hyn rydym yn ei weld: • Ymddangosiad, rhyw, lliw croen, oedran... • Yr hyn nad ydym yn ei weld: • Gwerthoedd / Credoau • Profiadau / hanes • Cyfeiriadedd Rhywiol • Crefydd / Ffydd • Anableddau nad ydynt yn amlwg... 45

  46. Peryglon Stereoteipio Atgyfnerthu rhagfarnau a chanfyddiadau negyddol am rai grwpiau penodol Mae‘n gallu arwain at allgáu a/neu wahaniaethu Mae coleddu rhagdybiaethau ynghylch anghenion unigolyn yn gallu arwain at fethiant i fynd i’r afael ag anghenion pobl mewn modd priodol ac effeithiol. 46

  47. “Ni yw’r holl bobl sydd fel ni a Nhw yw pawb arall.” Rudyard Kipling, 1865-1936 47

  48. Ffyrdd o osgoi stereoteipio • Cwestiynwch eich rhagfarnau, normau, arferion a ffyrdd o ryngweithio ag eraill • Gwnewch ymrwymiad i gadw meddwl agored a pharchu "eraill" • Peidiwch byth â goddef gwahaniaethu, allgáu, ymddygiad nawddoglyd neu ymddygiad rhagfarnllyd arall • Peidiwch â thrin pobl yn y ffordd yr hoffech chi gael eich trin ond yn hytrach yn y ffordd yr hoffen nhw gael eu trin • Datblygwch werthoedd personol i wrthsefyll stereoteipio a mynd i’r afael â gwahaniaethu mewn dysgu. 48

  49. Enghreifftiau o Rwystrau i Gynhwysiant 49 Agweddau negyddol Diffyg dealltwriaeth Ffyrdd gwael (ac amhriodol) o roi gwybodaeth/ cyfathrebu gwael Dim prosesau ymgynghori Diffyg cyfleoedd wrth astudio ac mewn gwaith Mynediad ffisegol gwael Amgylchedd astudio gwael

  50. “Credaf fod gan bob bod dynol y potensial i newid, i drawsnewid eu hagweddau eu hunain, ni waeth pa mor anodd yw’r sefyllfa.”Dalai Lama

More Related