1 / 22

Mantolenni ar gyfer Busnes TGAU CBAC

Mantolenni ar gyfer Busnes TGAU CBAC. Topic Outcomes:. Mae Mantolen yn crynhoi: Ble mae’r HOLL arian wedi cael ei WARIO (yn hanner uchaf y fantolen) a hefyd O BLE y daeth yr HOLL arian a FUDDSODDWYD yn y cwmni (yn hanner isaf y fantolen). Mantolen yw ….

hana
Télécharger la présentation

Mantolenni ar gyfer Busnes TGAU CBAC

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Mantolenni ar gyfer Busnes TGAU CBAC

  2. Topic Outcomes:

  3. Mae Mantolen yn crynhoi: Ble mae’r HOLL arian wedi cael ei WARIO (yn hanner uchaf y fantolen) a hefyd O BLE y daeth yr HOLL arian a FUDDSODDWYD yn y cwmni (yn hanner isaf y fantolen) Mantolen yw … Bydd dau hanner y fantolen BOB AMSER â’r un ffigur ar y gwaelod, hynny yw yn mantoli (balance) – dyna pam y defnyddir yr enw ‘mantolen’!

  4. Cyfoeth yw asedau, arian, elw MINWS unrhyw beth sy’n ddyledus gan y busnes. Mantolen yw … Mae Mantolen yn dweud wrth randdeiliaid mewn cwmni pa mor gyfoethog yw’r cwmni ar GYFNOD PENODOL.

  5. ASEDAU NET (Pethau maen nhw’nberchenarnynt minws unrhyw beth mae angen iddyn nhw ei ad-dalu o fewn blwyddyn) CYFALAF A DDEFNYFDDIWYD (O ble y daeth yr arian i helpu i dalu am eu hasedau/ heiddo) Nodwch y termau allweddol hyn! Mantolen Minty Cyf ar gyfer 31ain o Ragfyr 2010

  6. Edrych ar Minty Cyf gyda’n gilydd, Cwblhau’r gweithgareddau : Pinky Cyf a Genie Cyf., Ysgrifennu’r diffiniadau yn y blychau a’r bylchau sydd wedi’u darparu, Yna byddwn yn barod i edrych yn fwy manwl ar y manylion yn y mantolenni…. Tasgau Gan ddefnyddio’r taflenni sydd wedi’u darparu, rydyn ni’n mynd i ddysgu am STRWYTHUR y fantolen a sut mae’n cael ei gosod yn syml. (Minty – Dogfen Word â’r teitl Cardiau Gweithgareddau Mantolen CBAC 2011 Gadewch i ni…

  7. Asedau Sefydlog - Eitemau mae’r busnes yn berchen arnynt a fydd yn para am FWY na blwyddyn – fel adeiladau neu gyfrifiaduron. Asedau Cyfredol– Eitemau mae’r busnes yn BERCHEN arnynt neu sy’n DDYLEDUS iddo a fydd yn cael eu troi’n ARIAN a ddefnyddir o fewn blwyddyn e.e. stoc; dyledwyr; arian yn y cyfrif cyfredol yn y banc. Nodiadau: Termau allweddol…

  8. Rhwymedigaethau Cyfredol – Eitemau sy’n DDYLEDUS gan y busnes y bydd yn rhaid iddo eu HAD-DALU o fewn LLAI na blwyddyn – fel ei GREDYDWYR MASNACH. Cyfalaf Gweithio – Asedau Cyfredol MINWS Rhwymedigaethau Cyfredol – hynny yw yr arian sydd gan y busnes yn gweithio iddo yn y TYMOR BYR o ddydd i ddydd. Nodiadau: Termau allweddol…

  9. Asedau Net - Cyfanswm o SUT mae’r holl gyfalaf yn y busnes yn cael ei ddefnyddio. I’w gael mae angen adio CYFALAF GWEITHIO at ASEDAU SEFYDLOG. Asedau Net yw cyfanswm HANNER UCHAF y Fantolen! Termau Allweddol…

  10. Rhwymedigaethau Tymor Hir - Eitemau sy’n DDYLEDUS gan y busnes y bydd yn rhaid iddo eu HAD-DALU ymhen MWY na blwyddyn – fel ei forgais neu fenthyciad banc tymor hir. Cyfalaf Cyfranddaliadau neu Gyfalaf Berchenogion – Yr arian a fuddsoddwyd yn y busnes gan ei berchenogion. Nodiadau: Termau allweddol…

  11. Elw Cadw - Elw mae’r cwmni wedi dewis ei GADW yn y busnes ar gyfer buddsoddi neu ehangu yn y dyfodol yn hytrach na’i dalu allan fel buddrannau. Cyfalaf a Ddefnyddiwyd – Cyfanswm yr holl arian a fuddsoddwyd yn y busnes – hanner isaf y fantolen. Nodiadau: Termau allweddol…

  12. Nesaf – Edrychwn ar wahanol adrannau’r mantolen yn fwy manwl …. Edrychwn ar Genie Cyf gyda’n gilydd Yna gallwch chi brofi eich hunain drwy gyfrifo’r blychau ar gyfer Jelly Bean Cyf a Piggy Cyf.

  13. Dyledwyr Masnach - lle mae arian yn ddyledus i chi gan bobl/ gwsmeriaid am fod eich busnes wedi gwerthu nwyddau iddyn nhw ar gredyd (fel arfer mewn busnes, os byddwch yn gwerthu nwyddau i fusnes arall, byddwch yn rhoi 30 diwrnod iddyn nhw dalu) Credydwyr Masnach – pan fyddwch CHI/ EICH busnes CHI yn PRYNU ei GYFLENWADAU ar GREDYD MASNACH (eto fel arfer 30 diwrnod i dalu). Nodiadau : Termau allweddol eraill…

  14. Stoc - gwerth nwyddau sydd gan y busnes yn weddill yn ei adeilad pan mae’r fantolen yn cael ei hysgrifennu. Mae’n amcangyfrif gorau o werth nwyddau mewn siop neu ffatri pe bydden nhw’n cael eu gwerthu yn y 12 mis nesaf. Mwy o Asedau Cyfredol….

  15. Nawr – Profi ein dealltwriaeth o’r fantolen yn fwy manwl…. Nawr gallwch chi brofi eich hunain drwy gyfrifo’r bylchau ar gyfer Jelly Bean Cyf a Piggy Cyf.

  16. Yn y flwyddyn ganlynol, dychmygwch fod Genie Cyf wedi cael blwyddyn wael iawn a bod ei werthiant a’i elw yn gostwng £2,000 felly yr elw yw £3,000 Pa eitemau allai newid £2,000 ar ochr arall y fantolen? (fel yr ydym yn gwybod mae’n rhaid i’r fantolen fantoli bob amser) Cwestiwn herio - Dychmygwch ….

  17. Pe bai rhywun yn ystyried buddsoddi mewn busnes, PAM y gallen nhw fod â diddordeb mewn gweld y fantolen? A oes unrhyw bethau PENODOL y bydden nhw’n edrych arnyn nhw yn y fantolen yn eich barn chi? Eglurwch pam rydych chi’n credu hynny…. Cwestiwn MAWR!

  18. Review of Topic Outcomes…

  19. Defnyddio a Dehongli Mantolenni

  20. Using and Interpreting Balance Sheets:Outcomes

  21. (* wrth arian, rydyn ni’n golygu gweddillion cyfrifon banc a sieciau hefyd) Liquidity Ystyr hylifedd yw PA MOR GYFLYM mae gan fusnes fodd i gael at ARIAN* er mwyn gallu gweithredu o ddydd i ddydd.

  22. Os mai chi yw’r perchennog neu os ydych yn ystyried buddsoddi ynddo, mae gan fusnes DA hylifedd DA – sy’n golygu ei fod yn gallu TALU ei filiau bob amser! Mae’n bwysig gwybod hylifedd cwmni oherwydd ….?

More Related