80 likes | 238 Vues
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Cerddoriaeth - Offerynnol TECHNEG OFFERYNNOL. Tasg 1 – Ymlacio yn eich osgo (sefyll). Sefwch â’ch cefn yn syth, gan gadw: eich clustiau’n uniongyrchol uwchben eich ysgwyddau; eich ysgwyddau uwchben eich cluniau;
E N D
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBACUned 1 ac Uned 3 Tasg 1 Cerddoriaeth - Offerynnol TECHNEG OFFERYNNOL
Tasg 1 – Ymlacio yn eich osgo (sefyll) • Sefwch â’ch cefn yn syth, gan gadw: • eich clustiau’n uniongyrchol uwchben eich ysgwyddau; • eich ysgwyddau uwchben eich cluniau; • eich traed ar wahân yn wynebu pum munud i un; • eich dwylo’n dal/cynnal eich offeryn neu ar yr allweddau. • Gyda gweddill y dosbarth dangoswch a chymharwch sut mae osgo da a gwael wrth sefyll yn effeithio ar chwarae gwahanol offerynnau.
Tasg 2 - Ymlacio yn eich osgo (eistedd) • Eisteddwch â’ch cefn yn syth, gan gadw: • eich clustiau’n uniongyrchol uwchben eich ysgwyddau; • eich ysgwyddau uwchben eich cluniau; • eich traed yn gadarn ar lawr; • eich sodlau ychydig y tu ôl i goesau blaen y gadair; • eich dwylo’n dal/cynnal eich offeryn neu ar yr allweddau. • Gyda gweddill y dosbarth dangoswch a chymharwch sut mae osgo da a gwael wrth eistedd yn effeithio ar chwarae gwahanol offerynnau.
Tasg 3 - Anadlu (chwythbrennau ac offerynnau pres) • Dechreuwch bob amser ag ymarferion anadlu i ddatblygu eich techneg. Dyma un ymarfer ichi roi cynnig arni : • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ymlacio’n llwyr. • Anadlwch allan i wagu’r ysgyfaint yn llwyr. • Anadlwch i mewn a gadael i gyhyrau’r bol ymlacio tuag allan, a theimlo eich asennau’n ehangu tuag allan. • Chwaraewch un nodyn a chadw’ch asennau wedi’u gwthio allan am gyhyd ag y gallwch. • Peidiwch â newid y nodyn o ran traw na chryfder, gweithiwch ar sain gyson a chyfoethog.
Tasg 4 - Anadlu (chwythbrennau ac offerynnau pres) • Daliwch ati â’r ymarferion anadlu wrth ymarfer er mwyn datblygu eich techneg. Dyma un ymarfer ichi roi cynnig arni: • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ymlacio’n llwyr. • Anadlwch allan i wagu’r ysgyfaint yn llwyr. • Anadlwch i mewn a gadael i gyhyrau’r bol ymlacio tuag allan, a theimlo’ch asennau’n ehangu tuag allan. • Chwaraewch un nodyn a chadw’ch asennau wedi’u gwthio allan gan gyfrif i 10, ac wedyn i 15, 20. • Gwnewch yr ymarfer eto ond gan ddefnyddio cymal penodol allan o ddarn o gerddoriaeth.
Tasg 5 – Brawddegu • Dylech geisio brawddegu drwy ddilyn marciau’r sgôr; fel rheol bydd y rhain wedi’u marcio â marc brawddegu, tawnodau yn yr alaw neu bwynt diweddeb. • Penderfynwch ar ddarn rydych chi’n ei wybod yn barod. • Canolbwyntiwch ar chwarae’r darn gan roi sylw i’r marciau brawddegu ac wedyn heb gymryd sylw o gwbl (gallwch greu eich marciau brawddegu eich hun). • Trafodwch gydag eraill sut mae hyn yn effeithio ar y perfformiad cyffredinol. • Gwrandewch ar recordiadau o offerynwyr eraill a marciwch ar gopi sut maen nhw’n rhoi sylw i’r brawddegu.
Tasg 6 – Creu sain dda • Mae gan bob offeryn sain/tôn unigryw. Rhaid canolbwyntio bob amser ar greu’r ‘ansawdd sain’ gorau posibl; wnaiff hyn ddim ond datblygu gyda digonedd o ymarfer ac amser! • Mewn grŵp, dangoswch sain dda / wael ar eich offeryn eich hun i eraill a gofynnwch i’r grŵp am eu sylwadau ar y sain. • Gallent nodi sut roedd y ddwy sain yn wahanol. • Beth yw’r gofynion ar offeryn penodol er mwyn creu sain dda?
Tasg 7 – Cynhesu i’r traw • Dysgwch alaw syml yn unsain mewn grŵp. • Rhannwch yr alaw rhwng yr holl offerynnau yn y grŵp, gan roi un nodyn i bob offeryn ei chwarae yn ei dro. • Ceisiwch berfformio fel grŵp. • Beth sy’n hawdd ac yn anodd am y dasg hon? • Ceisiwch amrywio’r tempo a’r ddynameg yn ystod y darn.