1 / 6

At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1

At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Technoleg Cerdd Cyd-destun a dehongli eich trac sain. Tasg 1 – Arddull a chyfnod. Ymchwiliwch i arddull, cyfnod a chefndir y cyd-destun/ thema sydd wedi’i ddewis ar gyfer eich perfformiad.

kreeli
Télécharger la présentation

At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBACUned 1 ac Uned 3 Tasg 1 Technoleg Cerdd Cyd-destun a dehongli eich trac sain

  2. Tasg 1 – Arddull a chyfnod • Ymchwiliwch i arddull, cyfnod a chefndir y cyd-destun/ thema sydd wedi’i ddewis ar gyfer eich perfformiad. • Gallai hyn fod ar ffurf prosiect; dylech gynnwys • Enghreifftiau o ddarnau o gerddoriaeth (mp3 / midi) • Hanes y genre • Cyfansoddwyr enwog • Perfformwyr enwog • Arddull a ffasiynau’r cyfnod

  3. Tasg 2 - Trefnu • Cyn creu eich trefniant eich hun mae’n hanfodol eich bod yn gwrando ar drefniannau eraill. • Os gallwch ddod o hyd i fwy nag un, cymharwch nhw. • Ymchwiliwch ar y we i ganfod unrhyw sgoriau digidol a allai fod ar gael ichi fel man cychwyn. • Oes yna ffeil MIDI o’r alaw ar gael?

  4. Tasg 3 – Alaw a geiriau • Cyfansoddwch eich geiriau eich hun neu chwiliwch am set o eiriau i’w defnyddio. • Dodwch y prif acenion ar eich geiriau. • Ydy gair cyntaf pob llinell yn bwysig, neu air yn y canol? • Meddyliwch sut y byddech chi’n rapio’r geiriau. • Meddyliwch am y patrymau rhythmig fel rhan o’r broses gyfansoddi a cheisiwch nodiannu’r rhythmau – gallech benderfynu ar fwy nag un patrwm cyn gwneud penderfyniad terfynol.

  5. Tasg 4 - Naws • Cyfansoddwch jingl hysbyseb fer i greu naws hapus mewn dim mwy na phedwar bar. • Cyfansoddwch ragflas byr i ffilm i greu naws drist/ brawychus mewn dim mwy na phedwar bar. • Beth oedd yn hawdd / anodd am y dasg hon? • Beth fyddech chi’n ei newid yn y dyfodol yn y ddau ddarn?

  6. Tasg 5 – Gwrando ar enghreifftiau • Gwyliwch a gwrandewch ar berfformiad drama, pantomeim neu ffilm lle defnyddir cerddoriaeth i atgoffa’r gynulleidfa am gymeriad neu leoliad. • Gwerthuswch effaith y gerddoriaeth. • Ble a sut y caiff y gerddoriaeth ei hailadrodd? • Oes yna thema i bob cymeriad/ lleoliad? • Ble mae’r gerddoriaeth yn hapus / yn drist / yn ddramatig? • Ydy’r gerddoriaeth yn rhan o’r olygfa neu’n gerddoriaeth gefndir?

More Related