1 / 9

At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1

At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Technoleg Cerdd Materion Technegol. Tasg 1 – Ymgyfarwyddo â’r meddalwedd. Mae’n hanfodol ichi ymgyfarwyddo ag unrhyw becynnau meddalwedd newydd cyn perfformio neu ddechrau recordio.

roana
Télécharger la présentation

At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBACUned 1 ac Uned 3 Tasg 1 Technoleg Cerdd Materion Technegol

  2. Tasg 1 – Ymgyfarwyddo â’r meddalwedd • Mae’n hanfodol ichi ymgyfarwyddo ag unrhyw becynnau meddalwedd newydd cyn perfformio neu ddechrau recordio. • Gan weithio’n unigol neu gyda phartner, dewiswch becyn meddalwedd ac ymgyfarwyddwch â swyddogaethau sylfaenol y meddalwedd. • Ceisiwch recordio cerddoriaeth mewnbwn. • Ceisiwch drin synau/ newid offerynnau. • Mewnfudwch ddolenni, samplau neu synau.

  3. Tasg 2 – Iechyd a Diogelwch • Cyn dechrau, mae’n hanfodol gwirio Iechyd a Diogelwch: • Gwiriwch bob cebl am arwyddion o draul/ difrod. • Gwiriwch fod pob offer yn gweithio. • Gofalwch am bob darn offer. • Gwnewch lòg o faterion ‘Iechyd a Diogelwch’ posibl wrth ddefnyddio Adnoddau Technoleg Cerddoriaeth. • Lluniwch set o reolau i chi’ch hun ac eraill wrth ddefnyddio offer.

  4. Tasg 3 – Ffeil MIDI • Chwiliwch am ffeil MIDI o ddarn o’ch dewis ar y we. • Mewnfudwch y ffeil MIDI i’r pecyn meddalwedd sydd gennych. • Wedi ei hagor, edrychwch ar sgôr o’r darn. • Gwnewch newidiadau i’r sgôr drwy newid traw offerynnau, dynameg, tempo’r darn.

  5. Tasg 4 – Fformatau sain • Ymchwiliwch ar y we i wahanol fformatau ffeiliau sain, e.e. • MIDI • Mp3 • Wav • mpeg • Rhestrwch fanteision ac anfanteision defnyddio gwahanol fformatau sain. • Gallai’r rhain gynnwys ansawdd, maint, a pha bryd y defnyddir pob fformat.

  6. Tasg 5 - Effeithiau • Arbrofwch gydag effeithiau datseinedd, hafalu (eq), panio, oedi a chorws ar eich cyfansoddiad/ trefniant. • Gallech wneud hyn ar offerynnau byw neu synau wedi’u creu gan gyfrifiadur. • Pwyswch a mesurwch fanteision ac anfanteision defnyddio effeithiau penodol i gyfoethogi eich recordiadau.

  7. Tasg 6 - Microffonau • Ymchwiliwch i wahanol fathau o ficroffonau. • Defnyddiwch wahanol fathau o ficroffonau i recordio offeryn acwstig a cheisiwch glywed y gwahaniaeth rhwng ansawdd pob recordiad. • Ymchwiliwch i wahanol fathau o ficroffonau a thechnegau recordio a ddefnyddir mewn sefyllfaoedd byw.

  8. Tasg 7 – Cymysgu a Meistroli • Recordiwch ddarn byw mewn tri chynnig a phenderfynwch ba adrannau sydd orau ar ba recordiad / cynnig cyn mynd ati i dorri a gludo’r cynigion at ei gilydd. • Cymysgwch a meistrolwch y trac terfynol. • Trafodwch sut mae datblygiadau meddalwedd a chaledwedd diweddar wedi gwneud y broses hon yn haws a rhatach nag a fu yn holl hanes creu cerddoriaeth. 

  9. Tasg 8 – Samplau a Dolenni • Defnyddiwch neu datblygwch eich set eich hun o samplau i’w defnyddio fel rhan o gyfansoddiad / wrth recordio. • Defnyddiwch ddolenni fel rhan o’ch cyfansoddiad/ recordiad a gwerthuswch yr effaith gyffredinol ar y darn o gymharu â chreu eich synau eich hun. • Beth yw manteision ac anfanteision defnyddio offerynnau electronig o gymharu ag offerynnau traddodiadol / acwstig fel rhan o broses recordio?

More Related