150 likes | 406 Vues
Uned 4. Normaleiddio a Systemau Rheoli Cronfeydd Data Perthynol. Cronfeydd data Cyfrifiaduredig. Mae cronfa ddata yn gasgliad o eitemau data wedi’u trefnu ; mae’r cysylltau rhwng yr eitemau data wedi’u trefnu er mwyn caniat áu mynediad ato gan nifer o raglenni cymhwyso gwahanol.
E N D
Uned 4 Normaleiddio a Systemau Rheoli Cronfeydd Data Perthynol
Cronfeydd data Cyfrifiaduredig Mae cronfa ddata yn gasgliad o eitemau data wedi’u trefnu; mae’r cysylltau rhwng yr eitemau data wedi’u trefnu er mwyn caniatáu mynediad ato gan nifer o raglenni cymhwyso gwahanol. h.y. tablau perthynol o ddata sydd wedi eu cysylltu gyda’i gilydd, a gall nifer o raglenni ddefnyddio’r data yn y tablau.
Allwedd Gynradd Allwedd estron Allwedd Gynradd Loans ID Allwedd Gynradd Tablau data cysylltiedig mewn cronfa ddata berthynol
IDCwsmer EnwCyntaf Cyfenw 1 Brian Smith 2 Harry Adams 3 Joe Jones 4 Harry Smith Terminoleg: Allwedd Gynradd • Mae’r allwedd gynradd yn werth unigol sy’n galluogi pob cofnod i gael ei adnabod. • Ni all EnwCyntaf na Cyfenw fod yn allweddi cynradd oherwydd maent yn cynnwys data dyblygedig neu an-unigryw. Mae IDCwsmer yn unigryw i bob rhes ac felly yn fwy addas.
RhifArcheb RhifEitem RhifGweithiwr RhifCwsmer EnwEitem Swm 121 3 4 1024 Nyten 4 121 4 4 1024 Bollt 3 122 8 9 176 Wasier 6 123 3 6 154 Bollt 5 123 8 6 154 Wasier 4 • Ambell waith does dim un maes sy’n addas ar gyfer allwedd gynradd. O dan yr amgylchiadau hyn mae’n bosib dewis dau faes sydd, gyda’i gilydd, yn creu gwerth unigryw: Does dim maes unigol, fellyy prif faes mwyaf addas ydy cymryd RhifArcheb a RhifEitem gyda’i gilydd.
Allwedd Estron • Mae Allwedd Estron yn Allwedd Gynradd o dabl arall a ddefnyddir er mwyn cysylltu tablau.
Ail Ffurf Normal (2NF) • Er mwyn bod yn 2NF rhaid i dabl: • Fod mewn 1NF (yn amlwg) • Gael pob maes di-allwedd yn hollol ddibynnol ar yr allwedd gynradd cyn gweithio • Yn Gymraeg: • Nid yw maes di-allwedd yn rhan o’r allwedd gynradd • Mae hyn yn meddwlfod yn rhaid defnyddio’r allwedd gynradd er mwyn dod o hyd i werth meysydd eraill yn y tabl • Os gallwch ddod o hyd i werth meysydd eraill heb ddefnyddio’r allwedd gynradd, dylech gael gwared ar y maes hwnnw o’r tabl a’i symud i dabl arall.
Trydydd Ffurf Normal (3NF) • Er mwyn bod mewn 3NF: • Mewn tabl rhaid i feysydd sydd ddim yn rhan o’r allwedd gynradd fod yn llwyr ddibynnol ar yr allwedd gynradd a dim byd arall, megis maes di-allwedd arall.
Staff Dinas MathauSwydd IDGweithiwr* IDDinas* IDTeip* Cyfenw Dinas Cyflog EnwCyntaf IDDinas IDTeip Trydydd Ffurf Normal (Parhad) • Tynnu Dinas o’r tabl a chreu tabl dinasoedd newydd • Tynnu Cyflog o’r tabl a chreu tabl mathau swydd
# Allwedd gynradd *Allwedd estron TablMeddyg (IDMeddyg#, Enw, Arbenigaeth, RhifCyswllt, IDWard) TablWard (IDWard#, Nifer o Welyau, Math o Ward, IDMeddyg) TablClaf(IDClaf#, Enw, Cyfeiriad, Afiechyd, Rhyw, IDMeddyg, IDWard) ,
Beth sy’n gwneud cronfeydd data yn ddiogel ? • Hierarchaeth cyfrineiriau • Breintiau a hawliau mynediad i ddefnyddwyr • Storir data ar wahân i raglenni felly ni all raglenni gwahanol drosysgrifo data.
Manteision defnyddio cronfeydd data(Manteision normaleiddio) • Osgoi dyblygu data -storio data unwaith -cysylltiedig drwy allweddi cynradd -yr holl ddata ar gael drwy’r cysylltau perthynol mewn allweddi cynradd 2. Dileu rheoledig - Lleihau dyblygu data 3. Sicrhau cysondeb data - data i bob defnyddiwr 4. Annibyniaeth data - storir data ar wahân i raglenni, felly gellir ychwanegu meysydd newydd oherwydd mae’r data yn annibynol o’r rhaglenni sy’n ei ddefnyddio 5. Mwy o ddiogelwch
Anfanteision • Cymhleth i’w sefydlu a’u cynnal; angen tim o raglennwyr i’w gynnal a chadw. • Mae meddalwedd cronfa ddata yn fawr, cymhleth a chostus; mae angen cyfrifiaduron pwerus. • Mae pob cymhwysiad sy’n defnyddio’r data yn cael eu heffeithio os yw’r gronfa ddata yn methu. Gan mai’r System Reolaeth Cronfa Ddata SRCD (DBMS) yw’r unig fodd o gael at y data gweithredol, gallai methiant system gael canlyniadau difrifol.