1 / 23

Y llinell amser ar gyfer newid Owen Evans

Y llinell amser ar gyfer newid Owen Evans Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru Kate Crabtree Pennaeth yr Is-adran Rheoleiddio a Chymwysterau, Llywodraeth Cymru. Cefndir: Yr Adolygiad o Gymwysterau. Lansiwyd yr adolygiad ym mis Medi 2011

vesna
Télécharger la présentation

Y llinell amser ar gyfer newid Owen Evans

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Y llinell amser ar gyfer newid Owen Evans Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru Kate Crabtree Pennaeth yr Is-adran Rheoleiddio a Chymwysterau, Llywodraeth Cymru

  2. Cefndir: Yr Adolygiad o Gymwysterau • Lansiwyd yr adolygiad ym mis Medi 2011 • Pryderon: cymhlethdod, eglurder, perthnasedd, gwerth, datblygiad • Bwrdd Adolygu Annibynnol • Yn seiliedig ar dystiolaeth • Yn cynnwys rhanddeiliaid • Wedi adrodd ym mis Tachwedd 2012 gyda 42 o argymhellion • Pob argymhelliad wedi’i dderbyn erbyn mis Ionawr 2013

  3. Gweledigaeth Cymwysterau sy’n cael eu deall a’u gwerthfawrogi ac sy’n bodloni anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru

  4. Egwyddorion • System cymwysterau cenedlaethol i Gymru • Dull annibynnol a thrylwyr o sicrhau ansawdd • Yn bodloni anghenion pob dysgwr, a’n heconomi • Addysg eang a chytbwys i bobl ifanc 14 i 16 oed • Rhaglenni dysgu cydlynol i bobl ifanc 16 i 19 oed • Llythrennedd a rhifedd yn ganolog • Cymwysterau cludadwy, sy’n cael eu parchu’n rhyngwladol • Adeiladu ar gryfderau, ar gyflymder graddol, gwrando ar dystiolaeth a rhanddeiliaid

  5. Newidiadau allweddol • Sefydlu Cymwysterau Cymru • Bagloriaeth Cymru drylwyr newydd sydd â ffocws ar sgiliau • TGAU i barhau • TGAU newydd i asesu llythrennedd a rhifedd • Safon Uwch i barhau – gyda lefel Uwch Gyfrannol (UG) cysylltiedig • Cymwysterau galwedigaethol – categorïau newydd, trefniadau porthgadw • Newidiadau i fesur perfformiad • Ymgyrch gyfathrebu bwysig – ymwybyddiaeth a hyder

  6. Cymwysterau Cymru: Beth sy'n newid? • Corff annibynnol newydd • Pwyslaisarsicrhau ansawdd a gwelliant • Ymhen amser, dyfarnu’r rhan fwyaf o gymwysterau 14 i 16, y rhan fwyaf o gymwysterau Safon Uwch ac UG, Bagloriaeth Cymru • Darparu gwybodaeth a chyngor i randdeiliaid a Llywodraeth Cymru • Y nod yw symleiddio’r system a meithrin mwy o hyder a dealltwriaeth

  7. Cymwysterau Cymru: Pryd? • Ymgynghoriad ‘Ein Cymwysterau – Ein Dyfodol’ – yn rhedeg tan 20 Rhagfyr • Swyddogion i ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth • Yn amodol ar y ddeddfwriaeth yn pasio holl brosesau craffu’r Cynulliad, y bwriad yw: • Sefydlu’rcorffymmisMedi 2015

  8. Bagloriaeth Cymru: Beth sy'n newid? • Ffocws cadarn ar sgiliau ar gyfer dysgu a gweithio • Model diwygiedig a mwy trylwyr: • graddio • prosiectunigolmwyheriol • Asesu llythrennedd a rhifedd trwy’r TGAU newydd • Asesu sgiliau trwy ‘Heriau’ – yr un sgiliau â’r Adolygiad o’r Cwricwlwm • Dim rhaid ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru • Annog pob canolfan i’w ddefnyddio ar gyfer pobl ifanc 14-19

  9. Bagloriaeth Cymru: Sgiliau • Llythrennedd • Rhifedd • Cynllunio a Threfnu • Effeithiolrwydd personol • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau • Creadigrwydd ac arloesedd • Llythrennedddigidol

  10. Bagloriaeth Cymru: Pryd? • Wedi cyflwyno system raddio eleni arLefel Uwch • Hysbysu’r grŵp llywio a gweithgorau am y model newydd • Datblygu model lefel uchel a chytuno arno • Yr arolwg i randdeiliaid yn fyw – yn rhedeg tan 20 Rhagfyr 2013 • Cam nesaf: datblygu manwl, gweithlu/cefnogaeth/CPD • Manylebau ar gael yn Hydref 2014 • Addysgu’r model newydd am y tro cyntaf ym mis Medi 2015 • Gwerthuso’r model newydd o 2016 ymlaen

  11. Cymwysterau Galwedigaethol: Beth sy'n newid? • Mabwysiadu categorïau Ewropeaidd: • Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol Cychwynnol neu Barhaus (IVET/CVET) • Dim ond IVET ar gael cyn-16 • Datblygu IVET generig newydd ar gyfer CA4 • Porthgadw cryfach • Perthnasedd, gwerth, pwrpas, datblygiad • Cyrff sector i wirio perthnasedd • Model Bagloriaeth Cymru yn rhoi statws cyfartal

  12. Cymwysterau Galwedigaethol: Pryd? • Categorïo IVET/CVET wedi’i gwblhau • Dim ond IVET fydd ar gael cyn-16 oed o 2014 ymlaen • Porthgadw – Grŵp CyswlltAdAS/Sefydliad Dyfarnu wedi’i sefydlu • Paneli Cynghori ar Gymwysterau Sector Peilot yn cael eu sefydlu • Y Paneli i ystyried yr angen am IVET generig

  13. TGAU: Beth sy'n newid? • TGAU diwygiedig mewn Saesneg Iaith a Chymraeg Iaith (Gyntaf) – mwy o sicrwydd o ran llythrennedd • DauTGAU mathemateg newydd – mwy o sicrwydd o ran rhifedd • Cysylltiadau agosâ’rFframwaithLlythrennedd a Rhifedd – datblygu ar ddisgwyliadau CA3 • TGAU newydd mewn pynciau eraill i gynnwys llythrennedd a rhifedd sy’n benodol i bwnc • Symud tuag at un set - un fanyleb fesul pwnc Ond byddwn ni’n: • Cadw TGAU – a chyrsiau modiwlar lle bo’n briodol • Caniatáu asesiadau, haenu a chyrsiau byr wedi’u rheoli – lle gellir eu cyfiawnhau

  14. TGAU: Pryd? • Grwpiau cynllunio strategaeth a phwnc wedi’u sefydlu • TGAU newydd cyntaf yn cael eu datblygu gyda grwpiau arbenigol • Egwyddorion cynllunio drafft wedi’u datblygu ar gyfer y TGAU newydd • Yr arolwg i randdeiliaid nawr yn fyw – yn rhedeg tan 20 Rhagfyr 2013 • Datblygu ac ymgynghori pellach yn 2014 • Manylebau ar gael yn Hydref 2014 • Adnoddau a CPD ar gael o 2014 ymlaen 2014

  15. TGAU: Pryd? • Addysgu TGAU Saesneg/Cymraeg a mathemateg newydd am y tro cyntaf yn 2015 • Addysgu’r gyfran nesaf o TGAU diwygiedig o fis Medi 2016 ymlaen(y rhester derfynol i'w chadarnhau)

  16. Safon Uwch: Beth sy’n newid? • Cynnwys newydd ar gyfer sawl Safon Uwch o 2015 ymlaen (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) • Er bydd y cynnwys yr un peth â chynnwys Lloegr a Gogledd Iwerddon lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn caniatáu amrywiaeth i fodloni anghenion yng Nghymru • Hawl i ailsefyll pob modiwl unwaith gyda’r marc gorau yn cyfrif Ond byddwn ni’n: • Cadw Safon Uwch • Cadw Safon UG fel cymwysterau cysylltiedig • Adolygu pwysoliadau perthynol cydrannau UG ac A2 Safon Uwch

  17. Safon Uwch: Pryd? • Grŵp strategaeth wedi’i sefydlu • Y polisi wedi’i gyhoeddi – ailsefyll, asesiadau mis Ionawr, Safon UG • Arolwg i randdeiliaid nawr yn fyw – yn rhedeg tan 20 Rhagfyr • Dim cyfleoedd asesu ym mis Ionawr ar gyfer Safon Uwch na Safon UG ar ôl mis Ionawr 2014 • Amserlen heriol ar gyfer ailddatblygu Safon Uwch ar gyfer 2015 ar draws y DU • Y nod yw sicrhau bod y manylebau diwygiedig ar gael erbyn Hydref 2014 • Adnoddau a CPD ar gael o Hydref 2014 ymlaen 2014

  18. Sgiliau Hanfodol: Beth sy'n newid? • Ni fyddcymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru: • Yn cael eu defnyddio cyn-16 oed (ac eithrio Lefel Mynediad) • Yn ofynnol ar gyfer Bagloriaeth Cymru • Bydd y cymwysterau Sgiliau Hanfodol diwygiedig newydd • ar gael ar gyfer ôl-16 oed • Yn cynnwys cymwysterau Llythrennedd Digidol newydd • Yn cynnwys sgiliau cyflogadwyedd newydd (y Sgiliau Allweddol Ehangach gynt) • yn cynnwys asesiadau mwy cadarn

  19. Sgiliau Hanfodol: Pryd? • Cymhariaeth o amrywiaeth o fframweithiau sgiliau wedi’i chwblhau • Set o feysydd sgiliau wedi’i ddatblygu – wedi’i alinio â chynigion yr adolygiad o’r cwricwlwm • Yr un set o sgiliau i ffurfio craidd Bagloriaeth Cymru • Gwaith i ddatblygu setiau newydd o gymwysterau ar y gweill • Y grŵp llywio a’r gweithgorau yn cynghori • Cymwysterau newydd i gael eu treialu yn • Cymwysterau newydd ar gael i’w defnyddio yn 2015

  20. Mesur Perfformiad: Beth sy’n newid? • CyfnodAllweddol 4 • Dim un cymhwyster gwerth mwy na 2 TGAU • Mesurau Bagloriaeth Cymru i ddisodli mesurau trothwy • Gwaith pellach i ystyried mesurau a’u defnydd/pwysoliad wrth adrodd ayyb • Materion cofrestru yn gynnar i gael eu datrys • Ôl-16: • Mesurau cyson ar draws pob sector

  21. Mesur Perfformiad: Pryd? • Sefydlu gweithgor • Cyhoeddi newidiadau ar gyfer adrodd • Gwaith datblygu pellach yn 2014 • Cyhoeddi’r canlyniad erbyn Haf 2014 • Cyfwerthedd newydd ar gyfer adrodd yn 2016 (2 TGAU ar y mwyaf) • Cyflwyno mesurau Bagloriaeth Cymru, adrodd yn 2017 • Mesurau ôl-16 i gael eu hystyried drwy prosiect i ddatblygu mesurau cyson ar draws sectorau

  22. Camau nesaf • Dadansoddi’r ymatebion i’r arolwg a’r ymgynghoriad • Sioeau teithiol i reolwyr, Gwanwyn 2014 • Datblygu manylebau • Datblygu Datblygiad Proffesiynol Parhaus/ adnoddau dysgu/ cefnogaeth • Dadansoddi’r goblygiadau o ran y gweithlu • Deunyddiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus a digwyddiadau o Hydref 2014 ymlaen

  23. Rhagor o wybodaeth Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar y wefan newydd www.cymwysteraucymru.org

More Related