300 likes | 446 Vues
Briffio ymgeiswyr ac asiantau. Etholiadau llywodraeth leol. Pynciau. pwy ’dy pwy amserlen yr etholiad cymwysterau gwaharddiadau enwebiadau asiantau pleidleisiau drwy’r post y diwrnod pleidleisio cyfrif pleidleisiau treuliau ymgeiswyr cysylltwyr. Pwy ’dy pwy.
E N D
Briffio ymgeiswyr ac asiantau Etholiadau llywodraeth leol
Pynciau • pwy ’dy pwy • amserlen yr etholiad • cymwysterau • gwaharddiadau • enwebiadau • asiantau • pleidleisiau drwy’r post • y diwrnod pleidleisio • cyfrif pleidleisiau • treuliau ymgeiswyr • cysylltwyr
Pwy ’dy pwy • Y Swyddog Canlyniadau yw’r sawl sy’n gyfrifol am redeg yr etholiadau. [nodwch yr enw] yw’r Swyddog Canlyniadau. • Mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gyfrifol am gynnal y gofrestr o etholwyr a’r rhestri o bleidleiswyr absennol. [nodwch yr enw] yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol. • Gallwch chi gysylltu â’r ddau trwy’r swyddfa etholiadau (rhoddir y manylion yn ddiweddarach)
Cymwysterau • Rhaid i ymgeiswyr fodloni meini prawf ar ddiwrnod eu henwebu ac ar y diwrnod pleidleisio: • bod yn 18 oed o leiaf • bod yn Brydeinig, yn ddinesydd y Gymanwlad sy’n gymwys (â chaniatâd amhenodol i aros), yn wladolyn aelod-wladwriaeth yr UE. • Hefyd, rhaid bodloni o leiaf un o’r canlynol: • Bod yn etholwr llywodraeth leol cofrestredig ar gyfer ardal yr awdurdod lleol • Meddiannu tir neu adeiladau, fel perchennog neu denant, yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn enwebu • Bod â’r prif weithle neu’r unig weithle (gan gynnwys gwaith di-dâl) yn ystod y 12 mis diwethaf yn ardal yr awdurdod lleol • Bod wedi byw yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y 12 mis diwethaf
Gwaharddiadau • Ni chaiff rhywun fod yn ymgeisydd os yw: • yr awdurdod lleol yn ei gyflogi/chyflogi neu os yw mewn swydd â thâl dan yr awdurdod (gan gynnwys cyd-fyrddau neu bwyllgorau). !Caiff ymgeiswyr fod yn weithwyr y mae’r ‘awdurdod lleol yn eu cyflogi’ os ydynt yn gweithio mewn gwasanaethau tân, yr heddlu, gwasanaethau iechyd neu ysgolion penodol • yn destun Gorchymyn Cyfyngiadau Methdaliad (neu orchymyn interim) yng Nghymru neu Loegr • wedi’i (d)dedfrydu i gyfnod o garchariad am dri mis neu fwy (gan gynnwys dedfryd ohiriedig) heb opsiwn talu dirwy, yn ystod y 5 mlynedd cyn y diwrnod pleidleisio • wedi’i (g)wahardd dan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 • yn bwrw gwaharddiad o ganlyniad i lys etholiad yn ei gael/ei chael yn euog o arfer llwgr neu anghyfreithlon • mewn swydd dan gyfyngiadau gwleidyddol
Cyflwyno papurau enwebu • Rhai i bob ymgeisydd gyflwyno dau bapur enwebu erbyn canol dydd - [E-19] • y ffurflen enwebu • y cydsyniad i’r enwebiad • Hefyd, bydd angen i ymgeiswyr dros bleidiau gyflwyno, erbyn canol dydd – [E-19]: • Tystysgrif yn awdurdodi defnyddio enw plaid/ disgrifiad cofrestredig ar y papur pleidleisio • Cais ysgrifenedig i ddefnyddio un o arwyddluniau’r blaid ar y papur pleidleisio (dewisol)
Cyflwyno papurau enwebu • !Sicrhewch fod y papurau enwebu’n cael eu llenwi'n gywir, gan y gall camgymeriadau wneud eich cais yn annilys. • I drefnu rhywun i’w wirio’n anffurfiol, cysylltwch â’r swyddfa etholiadau (rhoddir y manylion yn ddiweddarach)
Ffurflen enwebu • Cynhwyswch eich enw llawn a’ch cyfeiriad cartref • Dewisol: defnyddiwch y blwch/blychau enwau a ddefnyddir fel arfer os mai dyna ydych chi fel arfer yn cael eich galw yn lle’ch enw llawn a’ch bod eisiau ei ddefnyddio yn lle. • Maes disgrifiad – 3 opsiwn: • ei adael yn wag • Annibynnol • gall ymgeiswyr dros blaid ddefnyddio enw’r blaid neu ddisgrifiad y mae tystysgrif sydd wedi’i chyhoeddi gan neu ar ran y Swyddog Enwebu’n ei awdurdodi
Ffurflen enwebu • Tanysgrifwyr: mae’n ofynnol cael 10 tanysgrifiwr. Mae’n rhaid iddynt lofnodi a phrintio’u henwau. Cymharwch fanylion y tanysgrifwyr â’r manylion ar y gofrestr etholiadol. Peidiwch â gofyn i’r tanysgrifwyr lofnodi hyd nes eich bod wedi llenwi’r meysydd enw, cyfeiriad a disgrifiad ar y ffurflen.
Ffurflen cydsynio i enwebu • Mae’n rhaid cynnwys: • enw a chyfeiriad • yr ardal rydych chi’n sefyll ynddi • cadarnhad o’r cymhwyster/ cymwysterau perthnasol (o leiaf 1, ond dewiswch bob un sy’n berthnasol) • dyddiad geni a llofnod • enw, cyfeiriad a llofnod tyst
Tystysgrif awdurdodi • Mae’n rhaid i ymgeiswyr dros blaid gael caniatâd ysgrifenedig i ddefnyddio enw/disgrifiad y blaid oddi wrth y Swyddog Enwebu (neu rywun sydd wedi’i benodi/phenodi i weithredu ar ei r(h)an) • Gall y dystysgrif: • ganiatáu defnyddio enw’r blaid neu ddisgrifiad penodol • caniatáu i’r ymgeisydd ddewis p’un a yw am ddefnyddio enw’r blaid neu unrhyw un o’r disgrifiadau sydd wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Etholiadol • Rhaid ei chyflwyno erbyn canol dydd[E-19]
Ffurflen cais am arwyddlun • Gall ymgeiswyr dros blaid ofyn am gael arwyddlun wedi’i argraffu ar y papur pleidleisio • Rhaid cyflwyno ffurflen cais am arwyddlun erbyn canol dydd [E-19] • Dylai ymgeiswyr dros blaid gyflenwi fersiwn electronig o’r arwyddlun i’r Swyddog Canlyniadau lle bo angen
Ymgeiswyr dros bleidiau ar y cyd • Wedi’u henwebu gan fwy nag un plaid • Gallant ddefnyddio cyd-ddisgrifiadau cofrestredig • rhaid i dystysgrif awdurdodi oddi wrth bob plaid eu cefnogi • Gallant ddefnyddio un arwyddlun un o’r pleidiau ond nid oes unrhyw arwyddluniau ar y cyd
Asiant etholiad • Yn gyfrifol am reoli'ch ymgyrch etholiad yn briodol; yn enwedig rheolaeth ariannol. • Rhaid i hysbysiadau o benodi gyrraedd y Swyddog Canlyniadau erbyn canol dydd – [E-16] Mae’r ffurflen wedi’i chynnwys yn y pecyn enwebu. • Fe fyddwch chi’n dod yn eich asiant eich hun fel mater o drefn os nad oes asiant wedi’i benodi.
Asiantau eraill • Gellir penodi asiantau eraill i fod yn bresennol ar eich rhan wrth agor pleidleisiau drwy’r post, mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y cyfrif: • Mae’n ofynnol sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau’n derbyn hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw bobl a benodir fel asiantau pleidleisio a chyfrif erbyn [E-5]. • Rhaid penodi’r asiantau pleidleisio drwy’r post a fydd yn mynychu sesiwn agor benodol cyn dechrau’r sesiwn. Bydd y Swyddog Canlyniadau’n rhoi rhybudd o 48 awr. • Mae ffurflenni ar gael i hysbysu’r Swyddog Canlyniadau.
Cael gweld y gofrestr etholiadol/ rhestri pleidleiswyr absennol • Ar gael i ymgeiswyr – cyn gynted ag y dewch yn ymgeisydd yn swyddogol: • y cynharaf, ar [dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad] os ydych chi neu eraill yn datgan y byddwch chi’n sefyll fel ymgeisydd • cyn gynted ag y byddwch chi neu eraill wedi datgan y byddwch chi’n sefyll fel ymgeisydd ar ôl y dyddiad hwn / y dyddiad y byddwch chi'n cyflwyno'ch papurau enwebu • Gwnewch gais ysgrifenedig i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol – mae ffurflenni ar gael o’r swyddfa / wedi’u cynnwys yn eich pecyn enwebu.
Cael gweld y gofrestr etholiadol/ rhestri pleidleiswyr absennol • Defnyddiwch ddata at ddibenion a ganiateir yn unig! • i lenwi’r ffurflen enwebu • i’ch helpu i ymgyrchu • i wirio bod rhoddion/benthyciadau’n ganiataol
Ymgyrchu • Defnyddiwch argraffnodau yn eich deunyddiau ymgyrchu, gan gynnwys gwefannau. • Cydymffurfiwch â rheolau cynllunio sy'n ymwneud â byrddau hysbysebu a baneri mawr. • Sicrhewch fod posteri awyr agored yn cael eu tynnu i lawr 2 wythnos ar ôl yr etholiad. • Peidiwch â chynhyrchu deunydd sy’n edrych yn debyg i gerdyn pleidleisio. • Peidiwch â thalu pobl am arddangos eich hysbysebion (oni bai eu bod nhw’n arddangos hysbysebion fel rhan o’u busnes arferol).
Pleidleisiau Drwy’r Post • Cod ymddygiad – ni ddylai unrhyw ymgeisydd neu gefnogwr eu rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle gellir amau eu gonestrwydd neu eu huniondeb, neu onestrwydd neu uniondeb yr ymgeisydd neu’r blaid • Oherwydd rhesymau’n ymwneud â diogelwch, mae gofyn i bleidleiswyr absennol ddarparu llofnod a dyddiad geni ar geisiadau • mae’r rhain yn cael eu storio’n electronig a chymharir nhw â’r rheiny ar y datganiad pleidleisio drwy’r post a ddychwelir gyda’r bleidlais drwy'r post • Mae’n bwysig bod unrhyw geisiadau neu becynnau pleidleisio drwy’r post a dderbynnir yn cael eu dychwelyd i’r swyddfa etholiadau cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau bod yna ddigon o amser i’w prosesu • Os ydych chi’n ystyried argraffu’ch ffurflenni eich hun, mae’n rhaid iddynt gynnwys yr holl ofynion deddfwriaethol
Y diwrnod pleidleisio • Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm • Bydd y swyddfa ar agor rhwng [x]yb a [x]yh ar gyfer ymholiadau neu broblemau sy’n ymwneud â gweinyddu’r etholiad • yn achos ymholiadau sy’n ymwneud â materion ariannol yr etholiad, cysylltwch â’r Comisiwn Etholiadol (dangosir y manylion cyswllt yn ddiweddarach) • Rhifwyr • Pleidleisiau Drwy’r Post – gellir mynd â’r rhain i mewn i orsafoedd pleidleisio o fewn y adran/ward neu i’r swyddfa etholiadau tan 10yh.
Cyfrif pleidleisiau • [Nodwch drefniadau lleol ar gyfer cyfrif pleidleisiau etholiad llywodraeth leol: pryd, lle ac ati] • Bydd y ganolfan cyfrif ar agor i asiantau ymgeiswyr o [X] • Cynhelir y cyfrif yn: • [nodwch leoliad/cyfeiriad y ganolfan cyfrif] • Mae gan ymgeiswyr, asiantau etholiad, asiantau cyfrif ac un person arall sydd wedi’i benodi gan yr ymgeisydd hawl i fod yno. - cyfyngiadau o ran asiantau cyfrif: [X]
Gwariant ymgeiswyr • Y diffiniad yw treuliau penodol ‘a ddefnyddir at ddiben etholiad yr ymgeisydd’ ar ôl y dyddiad y daethant yn ymgeisydd yn swyddogol • Cyfrifoldeb yr asiant etholiad • Cyfyngiad ar dreuliau: • £600 + 5 ceiniog fesul etholwr yn y ward/adran ar y gofrestr mewn grym ar [nodwch y dyddiad] • yn llai i ymgeiswyr dros bleidiau ar y cyd • Mae’n rhaid cael derbynebau a’u cadw (dros £20)
Manylion gwariant ymgeiswyr • Mae’n rhaid cyflwyno manylion treuliau 35 diwrnod calendr ar ôl canlyniad yr etholiad • Bydd y Swyddog Canlyniadau’n rhoi’r manylion ar gael i’r cyhoedd • Mae’n bosibl y bydd y Comisiwn Etholiadol yn adolygu sampl o fanylion treuliau • Mae methu â chyflwyno manylion treuliau'n drosedd • Ni ad-delir unrhyw wariant
Cysylltiadau • Y swyddfa etholiadau –[nodwch] • Yr adran briffyrdd – [nodwch] • Cysylltwyr y Comisiwn Etholiadol [dilëwch fel bo’n briodol] • Swyddfa Dwyrain a De-ddwyrain Lloegr 020 7271 0600 • Swyddfa Llundain 020 7271 0689 • Swyddfa Canolbarth Lloegr 02476 820086 • Swyddfa Gogledd Lloegr 01904 567990 • Swyddfa De-orllewin Lloegr 01392 314617 • Swyddfa Cymru029 2034 6800 • Cyllid Pleidiau a’r Etholiad020 7271 0616
Diolch yn fawr Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd â’ch pecyn ymgeisydd fel canllaw