1 / 20

Celloedd a Phrosesau mewn Celloedd

Celloedd a Phrosesau mewn Celloedd. BIOLEG 2. Celloedd. Mae organebau (ar wahân i firysau) wedi eu gwneud o un neu fwy o gelloedd. Rydych chi yn cynnwys biliynau o gelloedd gwahanol. Dyma rai celloedd mewn organebau byw:. Faint nid maint!.

violet
Télécharger la présentation

Celloedd a Phrosesau mewn Celloedd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Celloedd a Phrosesau mewn Celloedd BIOLEG 2

  2. Celloedd Mae organebau (ar wahân i firysau) wedi eu gwneud o un neu fwy o gelloedd. Rydych chi yn cynnwys biliynau o gelloedd gwahanol. Dyma rai celloedd mewn organebau byw:

  3. Faint nid maint! Mae celloedd morgrugyn ac eliffant tua’r un maint. Ond maeeliffant yn fwy na morgrugyn gan fod mwy o gelloedd ynddo.

  4. Y Rhannau Pwysig Cnewyllyn Dyma ganolfan rheoli holl weithgareddau y gell. Mae’n cynnwys cromosomau sy’n bwysig ar gyfer cellraniad. Siâp crwn sydd gan y cnewyllyn gan amlaf. • Cnewyllyn

  5. Cytoplasm Dyma’r rhan sydd tu allan i’r cnewyllyn, sy’n edrych fel jeli clir. Mae’r cytoplasm yn llawn sylweddau defnyddiol i’r gell. Gwyddoniaeth Ychwanegol Cytoplasm

  6. Cellbilen Dyma’r rhan mwyaf allanol o’r gell sydd yn cadw’r cytoplasm i mewn a gwahanu’r gell o’i hamgylchedd. Gall sylweddau symud o dan reolaeth trwy’r gellbilen. Cellbilen

  7. Cell Planhigyn Mae celloedd planhigyn yn cynnwys rhai pethau sydd ddim i’w cael mewn celloedd anifail sef: cellfur gwagolyn cloroplast

  8. CELLFUR Mae hwn yn haen trwchus ac anhyblyg sydd wedi ei wneud o gellwlos. Y cellfur sydd yn amgylchynu’r gellbilen. Heb hwn, ni fyddai planhigyn yn gallu cynnal ei siâp Cellfur

  9. GWAGOLYN Coden yn llawn hylif yw’r gwagolyn. Mae hwn wedi ei amgylchynu gan gellbilen. Cellnodd yw’r hylif yn y gwagolyn. Mae’r cellnodd yn cynnwys dŵr yn bennaf, gyda sylweddau megis mwynau ynddo. Gwagolyn

  10. CLOROPLAST Disgiau gwyrdd yw’r rhain sy’n cynnwys pigment o’r enw cloroffyl. Cloroffyl sydd yn dal egni’r haul ac felly mae’n rhaid cael cloroffyl er mwyn i ffotosynthesis ddigwydd. Cloroplastau

  11. Pam nad oes unrhyw gloroplastau i’w cael yng nghelloedd nionyn/ winwnsyn? Cliw: Ble mae’r nionyn/ winwnsyn yn tyfu? Ydi e’n gweld yr haul? Cell Nionyn / Winwnsyn

  12. Patrymau Tyfu Pan mae un cell yn ymrannu’n ddwy rydym yn galw hyn yn gellraniad. Mitosis yw’r enw am gellraniad sydd yn gwneud i’r organeb dyfu. Mae mitosis yn digwydd mewn llefydd gwahanol mewn anifeiliaid a phlanhigion. Cell yn ymrannu’n ddwy trwy fitosis i greu dwy epilgell unfath

  13. Dim ond yn yr ardal sydd yn tyfu y gwelwn mitosis yn digwydd mewn planhigyn – sef blaen y gwreiddyn a’r coesyn. Y meristem yw’r enw am yr ardaloedd yma. Patrwm Tyfu mewn Planhigyn

  14. Mae’r croesdoriad yma o foncyff coeden, yn dangos cylchoedd tyfiant amlwg. Patrwm Tyfu mewn Planhigyn

  15. Mae mitosis yn gallu digwydd mewn meinwe anifail unrhywdro yn ystod ei ddatblygiad. Er fod gan planhigion y gallu i dyfu rhannau newydd drwy gydol eu bywyd, ar y cyfan nid yw anifeiliaid yn gallu gwneud hyn. Patrwm Tyfu mewn Anifeiliaid

  16. Celloedd yn Arbenigo Mae celloedd yn addasu i wneud swyddogaeth arbennig yn ystod eu datblygiad e.e. mae cell coch y gwaed yn cludo ocsigen o amgylch y corff. Mae hi’n gallu gwneud hyn gan ei bod yn cynnwys haemoglobin. Nid oes cnewyllyn ganddi sydd yn caniatáu iddi gario cymaint o’r haemoglobin coch yma a phosibl,.

  17. Celloedd Anwahaniaethol Nid yw rhai celloedd yn arbenigo fodd bynnag ac maent yn gallu tyfu i ffurfio nifer o feinweoedd posibl. Dywedwn fod rhain yn anwahaniaethol a’r enw sydd yn cael ei roi arnynt yw celloedd bonyn (stem cells)

  18. Celloedd Bonyn – Pam eu bod mor ddadleuol? Mae rhai gwyddonwyr yn honi mai ymchwil i gelloedd bonyn yw’r allwedd i wella nifer o glefydau. Gan fod y celloedd yma yn cael eu cymeryd o embryonnau cred rhai fod dinistrio y cam cyntaf hwn mewn bywyd dynol yn anfoesol.

  19. Mae celloedd bonyn yn gallu datblygu i fod yn yn feinweoedd gwahanol. Dyma ddwy enghraifft o’r defnydd posibl ohonynt mewn myddygaeth: Cynhyrchu celloedd sy’n cynhyrchu inswlin yn y pancreas, gan arbed yr angen i bobl â chlefyd y siwgr i chwistrellu inswlin. Adnewyddu nerfau sydd wedi eu dinistrio yn madruddyn y cefn ar ôl damwain. Defnydd o Gelloedd Bonyn

  20. Y Dyfodol Mae gwyddonwyr bellach yn ymchwilio i ddefnyddio celloedd bonyn o oedolion fel nad oes yn rhaid defnyddio embryonnau. Yn y flwyddyn 2000, bu treialon llwyddiannus yn yr Eidal i wella Lewcemia mewn plant trwy ddefnyddio celloedd bonyn o oedolion.

More Related