1 / 13

Eich cyfle chi i fabwysiadu eich bylbiau eich hun a chymryd rhan mewn project addysg amgylcheddol.

Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion !. Eich cyfle chi i fabwysiadu eich bylbiau eich hun a chymryd rhan mewn project addysg amgylcheddol. Helo!.

halle
Télécharger la présentation

Eich cyfle chi i fabwysiadu eich bylbiau eich hun a chymryd rhan mewn project addysg amgylcheddol.

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion! Eich cyfle chi i fabwysiadu eich bylbiau eich hun a chymryd rhan mewn project addysg amgylcheddol.

  2. Helo! Athro’r Ardd ydw i!Rwy’n gweithio yn Amgueddfa Cymru –National Museum Walesyng Nghaerdydd. Rwy’n astudio planhigion a natur yn adran fotanegol yr amgueddfa.Rwy’n ysgrifennu i ofyn os fedrwch chi fy helpu gydag ymchwiliad natur pwysig.

  3. Mae clociau byd natur wedi drysu! Mae blodau yn agor yn gynharach Mae dail ar goed yn agor yn gynharach Ond pam… Weithiau gellir gweld pryfed fel gwenyn drwy gydol y flwyddyn Mae adar fel y wennol yn cyrraedd i’r DG yn gynharach bob blwyddyn.

  4. Mae’r Tymheredd yn newid! Mae ein byd yn cynhesu! Mae gwyddonwyr yn dweud bod ein hinsawdd yn newid ac mai llygredd sydd ar fai. Y newid yn yr hinsawdd sy’n newid ein tymhorau ac sy’n drysu cloc byd natur.

  5. Sut all newidiadau yn y tymheredd effeithio’r byd natur? • Edrychwch ar y gadwyn fwyd hon. Beth fyddai’n digwydd i’r gadwyn fwyd hon petai’r lindys yn tyfu ac yn hedfan i ffwrdd cyn i’r cyw gael ei eni? Deilen Dderwen  Lindys Gwyfyn y Gaeaf  Cyw Titw Tomos Las

  6. Yn ôl cofnodion a gasglwyd dros y 200 mlynedd diwethaf, mae’r gwanwyn yn digwydd yn gynharach bob blwyddyn! Mae pobl wedi bod yn astudio planhigion ac anifeiliaid ers cryn amser. Byddai’n rhaid i’r helwyr cynnar wybod pryd fyddai haid o anifeiliaid yn pasio heibio, a byddai’n rhaid i ffermwyr wybod pryd i hel eu cnydau. Heddiw, bydd cofnodion yn cael eu cadw mewn amgueddfeydd, gerddi botanegol a phrifysgolion. Anheddiad Hela a Physgota 9,000 o flynyddoedd yn ôl Gallwch chi gadw cofnodion hefyd- ewch i http://www.naturedetectives.org.uk/ am fwy o wybodaeth!

  7. Mae bylbiau’r gwanwyn yn offer gwych i fesur newidiadau yn ein tymhorau gan eu bod yn sensitif iawn i newidiadau mewn tymheredd.

  8. Os ceir gwanwyn oer, bydd blodau yn agor yn hwyrac os cawn wanwyn cynnes, bydd blodau yn tyfu ac yn agor yn gynharach. Cennin Pedr ar y 1af o Chwefror (1917-1926)

  9. Allwch chi helpu? Allwch chi dyfu eich bylbiau cennin Pedr a saffrwm a chofnodi pryd maent yn ymagor?

  10. Allwch chi gadw cofnodion o'r tywydd a'u rhoi ar y we? Siart dywydd ar-lein Map blodeuo ar-lein sy'n dangos pa flodau sydd wedi ymagor ym mha ysgolion

  11. Gwyddonwyr Gwych! Ers Hydref 2005 mae gwyddonwyr ysgol o Gymru benbaladr wedi bod yn cadw cofnodion tywydd a nodi pryd mae eu blodau yn ymagor fel rhan o astudiaeth hirdymor sy’n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.

  12. Os allwch helpu… Byddwch ynderbyn eich pot a bylbiau eich hun a gweithio tuag at gael Tystysgrif Gwyddonydd Gwych + cyfle i ennill trip diwrnod i’ch dosbarth.

  13. Ymunwch â ni! • Os hoffech helpu, gallaf drefnu i’m cyfeillion anfon bylbiau atoch er mwyn i chi fedru fy helpu gyda’r ymchwiliad hwyliog ond pwysig hwn. Yn gywir, Athro’r Ardd .

More Related