1 / 2

Nodiadau Athro–Cyflwyniad i’r Dasg.

Nodiadau Athro–Cyflwyniad i’r Dasg. Y cefndir – Er mwyn dechrau’r broses o ddylunio ar gyfer eraill a chasglu barn eraill am y cynnrych gorffenedig, y stryd fawr yw cyd-destun y bag.

calix
Télécharger la présentation

Nodiadau Athro–Cyflwyniad i’r Dasg.

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Nodiadau Athro–Cyflwyniad i’r Dasg. Y cefndir – Er mwyn dechrau’r broses o ddylunio ar gyfer eraill a chasglu barn eraill am y cynnrych gorffenedig, y stryd fawr yw cyd-destun y bag. Pwynt dysgu/trafod posibl - trafodaeth gyda’r disgyblion am siopau’r stryd fawr, pa rai sy’n boblogaidd a pham? Er mwyn dechrau’r broses o feddwl am bethau newydd anogir y disgyblion i feddwl am ffyrdd i gynhyrchu logo neu nodwedd addurnol gwreiddiol. Y cefndir – Amlinelliad byr o’r hyn y dymunwn i’r disgyblion anelu ato yn y prosiect hwn, annogaeth iddynt ymdrechu at y lefel cyrhaeddiad uchaf sy’n bosibl. Cyflwyniad byr i gyfleoedd asesu, dulliau o drafod eu gwaith, trafod targedau a chyflawni eu potensial yn llawn..

  2. Y cefndir – Fel rydym wedi crybwyll ar y tudalennau rhagarweiniol mae’r ‘cymeriadau athrawon’ yn ddull o gyfleu gwybodaeth, technegau, neu i hybu trafodaeth a meddwl. Y rhain oedd ein hateb ni i osod gormod o flychau amhersonol. Efallai na fyddant yn apelio at bawb – ond fe gawson ni hwyl yn tynnu lluniau ohonom ein hunain. Yn bryderus iawn fod y disgyblion yn ein hadnabod! Wrth ysgrifennu’r cyflwyniadau rydym wedi ceisio animeiddio’r hyn rydym ni’n ei ystyried sy’n addas i ddal sylw’r disgyblion. Fodd bynnag, pan rydym o’r farn bod cyfle i gyflwyno pwynt dysgu neu gyfle i gael trafodaeth bydd angen clic ar y llygoden neu’r sgrin gyffwrdd i symud y cyflwyniad ymlaen. I ailadrodd felly, rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn ddefnyddiol ac y cewch hwyl yn paru a chymysgu peth o’r gwaith wrth gyfarfod â’ch nodau dysgu – “Criw’r lluniau rhyfedd yn Ysgol Dyffryn.”

More Related