1 / 23

Cath Flin

Cath Flin. Ymwybyddiaeth o’r Corff. Gweithgaredd Addysgu’r Corff yw ‘Cath Flin’ ac mae’n datblygu ystum corff cywir ar gyfer rholio’n ddiogel. Mae’n datblygu ystwythder a chryfder yr ysgwyddau hefyd, sy’n bwysig ar gyfer sgiliau gymnasteg megis sefyll ar y dwylo a gwneud olwyndro.

gwylan
Télécharger la présentation

Cath Flin

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cath Flin

  2. Ymwybyddiaeth o’r Corff

  3. Gweithgaredd Addysgu’r Corff yw ‘Cath Flin’ ac mae’n datblygu ystum corff cywir ar gyfer rholio’n ddiogel. Mae’n datblygu ystwythder a chryfder yr ysgwyddau hefyd, sy’n bwysig ar gyfer sgiliau gymnasteg megis sefyll ar y dwylo a gwneud olwyndro.

  4. Ymwybyddiaeth o’r corff yw gallu plentyn i enwi, adnabod a defnyddio amryw rannau’r corff ar orchymyn mewn pedwar safle neu ystum: sefyll, penlinio, eistedd a gorwedd. Bydd y plentyn yn gallu rheoli rhan benodol o’r corff a gwneud gweithred benodol, ar adeg benodol, mewn lle penodol ac mewn ffordd benodol. Wrth i blant ddod yn fwyfwy medrus byddant hefyd yn gallu egluro pam y mae angen gwneud y symudiad hwn/y weithred hon.

  5. Siâp Syth

  6. Siâp Seren

  7. Mae’r siâp syth yn un o’r Siapiau Sylfaen lle mae’r corff yn cael ei ddal mor syth ag sy’n bosibl. Gellir gwneud y siâp gan orwedd, sefyll a neidio neu wyneb i waered wrth sefyll ar y dwylo. Mae siâp syth yn rhan annatod o lawer o sgiliau chwaraeon eraill felly mae’n hanfodol bod plant yn gallu mabwysiadu siâp syth yn reddfol.

  8. Mae’r siâp seren yn un o’r Siapiau Sylfaen. Mae’r corff yn cael ei ymestyn yn llawn gyda’r coesau a’r breichiau wedi’u lledu cymaint ag sy’n bosibl. Gellir gwneud y siâp gan orwedd, sefyll a neidio ac wrth wneud olwyndro.

  9. Cadw cydbwysedd (ar un droed)

  10. Dringo

  11. Gweithred gydbwyso lonydd lle mae un droed yn fflat ar y llawr a’r breichiau’n cael eu defnyddio i sicrhau bod y corff yn llonydd. Mae’n bwysig bod plentyn yn gallu cadw’i gydbwysedd yn y modd hwn er mwyn gwisgo, hercian, sgipio, cicio ac ochrgamu.

  12. Er mwyn dringo rhaid cydio a thynnu â’r breichiau a gwthio â’r coesau bob yn ail. Mae dringo’n effeithiol yn galluogi plant i archwilio’r hyn sydd o’u hamgylch a bodloni eu chwilfrydedd.

  13. Gwthio Gwrthrych

  14. Rholio’n Unionsyth

  15. Fel rheol, caiff gwrthrychau eu gwthio er mwyn eu symud o un lle i’r llall. Gellir defnyddio rhan uchaf neu ran isaf y corff wrth wthio. Gellir defnyddio rhan uchaf y corff i wthio troli neu bram, a gellir defnyddio rhan isaf y corff i wthio neu reidio sgwter neu feic. Mae angen defnyddio mwy o rym wrth wthio gwrthrychau trymach.

  16. Wrth rolio’n unionsyth mae’r corff yn syth ac yn troi mewn cylch cyfan. Rhaid gorwedd ar y llawr â’r corff yn syth gyda’r coesau wedi’u hymestyn yn llawn a’r breichiau wedi’u hymestyn uwchben y pen. Mae’n bwysig mewn trampolinio, plymio a gymnasteg.

  17. Tynnu Gwrthrych

  18. Rhagwthio

  19. Er mwyn tynnu gwrthrych mae angen cydbwysedd a gafael dda, cryfder yn rhan uchaf y corff a sylfaen gryf a chadarn. Fel rheol, mae gwrthrych yn cael ei dynnu er mwyn ei symud o un lle i’r llall.

  20. Mae rhagwthio’n Sgìl Rheoli’r Corff sy’n gofyn am gydbwysedd, cryfder yn rhan isaf y corff a sgiliau cydsymud. Mae rhagwthio’n golygu cymryd cam mawr ymlaen neu i’r ochr a hynny er mwyn rheoli momentwm fel rheol.

  21. Ochrgamu

  22. Mae ochrgamu’n golygu trosglwyddo pwysau’r corff o un droed i’r llall yn gyflym. Caiff ei ddefnyddio i dwyllo gwrthwynebwr, dianc rhag gwrthwynebwr neu osgoi rhwystr. Mae’n bwysig mewn gêmau goresgyn.

More Related