1 / 13

Gwyliau Eli

Gwyliau Eli. Llwyd: Haia! Sut wyt ti Eli? Eli: Ddim yn ddrwg diolch – beth amdanat ti Llwyd? Llwyd: Dw i’n hapus. Sut oedd dy wyliau? Ble est ti dros wyliau’r haf?.

nika
Télécharger la présentation

Gwyliau Eli

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Gwyliau Eli

  2. Llwyd: Haia! Sut wyt ti Eli? Eli: Ddim yn ddrwg diolch – beth amdanat ti Llwyd? Llwyd: Dw i’n hapus. Sut oedd dy wyliau? Ble est ti dros wyliau’r haf?

  3. Eli: Teithies i o gwmpas y byd. Yn gyntaf, es i i Parc Oakwood Llwyd: O bendigedig! Sut? Eli: Yn y car cyflym coch.

  4. Eli: Roedd hi’n gymylog. Bwytes i fyrgyr a hufen iâ oer. Yfes i cola ‘fflat’. Gwisges i jîns newydd, treinyrs a chrys-T piws. Roedd gen i boen bol. Ces i amser diflas.

  5. Eli: Es i i Llwyd: Ble nesa? Eli: Es i i Paris. Llwyd: Pryd? Eli: Dros y penwythnos cyntaf yn mis Awst. Es i mewn trên – heb siw na miw.

  6. Eli: Roedd hi’n wlyb. Bwytes i goesau llyffant – ych a fi! Yfes i win gwyn. Gwisges i drowsus du, treinyrs a chrys-T newydd sbon. Roedd gen i gur pen. Ces i amser ofnadwy!

  7. Llwyd: O diar! Ble nesa? Eli: Es i i’r Aifft. Llwyd: Efo pwy? Eli: Ar fy mhen fy hun, ond es i mewn awyren am y tro cyntaf.

  8. Eli: Roedd hi’n boeth ac yn sych. Bwytes i reis a chyw iâr mewn sôs poeth. Yfes i ddŵr cynnes. Gwisges i siorts bach a sbectol haul – roeddwn i’n cŵl dŵd! Ond roedd gen i boen bol a ches i amser drwg.

  9. Llwyd: Ble nesa Eli? Eli: Es i i Wlad yr Iâ. Llwyd: O grêt! Est ti mewn awyren? Eli: Naddo, es i ar long. Roeddwn i’n teimlo’n sâl dros ben.

  10. Eli: Roedd hi’n oer ac yn dywyll. Bwytes i gawl - rhy hallt! Yfes i de efo llaeth gafr. Gwisges i ormod o ddillad. Roedd gen i ddwylo oer, traed oer a thrwyn oer. Ces i amser ofnadwy.

  11. Llwyd: O bechod! Eli: Ble est ti Llwyd? Llwyd: Ches i ddim gwyliau da fel ti. Es i i’r parc. Eli: Sut? Llwyd: Ar y beic.

  12. Eli Efo pwy? Llwyd: Efo llawer o ffrindiau. Eli: Fwynheuest ti? Llwyd: Do – yn fawr iawn – chwaraes i bêl-droed a nofies i yn yr afon. Bwytes i sglodion blasus ac yfes i lemonêd oer. Ces i hwyl!

  13. Eli: Ga i dy feic di Llwyd? Llwyd: Pam? Eli: Dw i’n mynd i’r parc ar unwaith! Wela i di wrth yr afon, drws nesa i’r stondin sglodion! Llwyd: O Eli, ‘ti’n mynd dros ben llestri rwan!

More Related