1 / 7

Dulliau Biolegol o Seicoleg

Dulliau Biolegol o Seicoleg. Pwyntiau syml i’w hadolygu. Beth yw’r dull biolegol o seicoleg?. Mae’n rhagdybio fod pobl yn cael eu rheoli gan eu bioleg. Yr ydym wedi esblygu mewn ymateb i’n hamgylchedd; felly rydym yn cael ein rheoli gan ein geneteg a’n ffisioleg.

Télécharger la présentation

Dulliau Biolegol o Seicoleg

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Dulliau Biolegol o Seicoleg Pwyntiau syml i’w hadolygu

  2. Beth yw’r dull biolegol o seicoleg? • Mae’n rhagdybio fod pobl yn cael eu rheoli gan eu bioleg. Yr ydym wedi esblygu mewn ymateb i’n hamgylchedd; felly rydym yn cael ein rheoli gan ein geneteg a’n ffisioleg. • Mae salwch seicolegol yn ganlyniad i ddifrod genetig, clefyd neu ddamwain. Dylem ystyried yr elfennau corfforol o ymddygiad dynol yn unig.

  3. Beth yw cryfderau’r dull biolegol? • Os gwyddom beth sy’n achosi salwch yna gallwn ei drin gyda chyffuriau neu lawdriniaeth, a gellir gwneud hynny yn gymharol hawdd. • Mae’r dull hwn yn egluro rhai ymddygiadau a salwch sy’n anodd eu deall trwy ddulliau eraill: sgitsoffrenia a gorddibyniaeth.

  4. Nodwch ddau o wendidau’r dull biolegol? • Mae popeth yn cael ei grynhoi i lefel syml; fe all iselder fod yn ymateb priodol i sefyllfa ddrwg yn hytrach nag yn salwch corfforol. • Yn aml, er mwyn gwneud synnwyr o ymddygiad pobl mae’n rhaid edrych pa arwyddocâd y maent hwy eu hunain yn ei weld yn eu gweithredoedd. Mae mwy i bobl nag ymatebion biolegol syml.

  5. Sut mae’r dull biolegol wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer salwch meddwl? • Mae wedi defnyddio seicolawdriniaeth, megis lobotomi • Mae’n cefnogi therapïau seiliedig ar gyffuriau ar gyfer salwch meddwl.

  6. Beth yw’r ddwy broblem gyda seicolawdriniaeth? • Mae problemau moesegol gan fod niwed difrifol wedi cael ei wneud i bersonoliaethau pobl. • Ni ellir cywiro camgymeriadau felly mae’n ddull radicalaidd iawn o drin problemau personoliaeth.

  7. Pa ddwy broblem sydd gyda cemotherapi? • Yn aml, nid yw trin â chyffuriau yn unig yn arbennig o effeithiol ar gyfer rhai cyflyrau ac nid yw pob triniaeth yn briodol ar gyfer pob claf sy’n dioddef o’r un cyflwr. • Mae gan lawer o gyffuriau seicotropig ganlyniadau difrifol ac annifyr.

More Related