1 / 14

Modur Anwythiad Rotor Cawell Tair Gwedd – Dulliau o Frecio

Peiriannau cerrynt eiledol (A.C.) Tair Gwedd. Adnodd 5. Modur Anwythiad Rotor Cawell Tair Gwedd – Dulliau o Frecio. Peiriannau cerrynt eiledol (A.C.) Tair Gwedd Adnodd 5. Modur Anwythiad Rotor Cawell Tair Gwedd – Dulliau o Frecio. Nod.

ianna
Télécharger la présentation

Modur Anwythiad Rotor Cawell Tair Gwedd – Dulliau o Frecio

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Peiriannau cerrynt eiledol (A.C.) Tair Gwedd Adnodd 5 Modur Anwythiad Rotor Cawell Tair Gwedd – Dulliau o Frecio

  2. Peiriannau cerrynt eiledol (A.C.) Tair GweddAdnodd 5 Modur Anwythiad Rotor Cawell Tair Gwedd – Dulliau o Frecio Nod • Deall y defnydd a wneir o chwe dull gwahanol i stopio modur cawell wedi ei gyplu gyda llwyth mecanyddol inertia uchel.

  3. Peiriannau cerrynt eiledol (A.C.) Tair GweddAdnodd 5 Modur Anwythiad Rotor Cawell Tair Gwedd – Dulliau o Frecio Amcanion Ar ddiwedd y sesiwn, dylai myfyrwyr allu: • Gallu egluro pam y mae rhai llwythi yn anodd eu stopio • Gallu egluro sut y mae brêc electromecanyddol yn gweithio • Gallu disgrifio sut mae system plwg-frecio yn gweithio • Gallu disgrifio sut mae system brecio chwistrellu Cerrynt Uniongyrchol (DC) yn gweithio • Gallu disgrifio sut mae system rampio cyflymder trwy ddefnyddio gwrthdröydd yn gweithio • Gallu disgrifio sut mae system brecio dynamig trwy ddefnyddio gwrthdröydd yn gweithio • Gallu disgrifio sut mae system brecio atffurfiol (regenerative) yn gweithio trwy ddefnyddio gwrthdröydd

  4. Yr angen am frêc Olwyn lifanu’n parhau i gylchdroi ar ôl i’r modur stopio

  5. Brecio Electrofecanyddol Pŵer i ffwrdd Pŵer ymlaen Sbringiau’n dal yr esgidiau breciau yn erbyn y drwm gan atal y llwyth rhag troi. Mae electromagnetau cryfion yn tynnu’r esgidiau brecio oddi ar y drymiau gan ganiatau I’r llwyth droi

  6. Plwg-frecio Sgematig Pŵer yr un fath â childroi cychwynnwr DOL Dwy wedd yn cael eu cyfnewid nes bod y modur yn stopio Swits allgyrchol, relái neu amserydd synhwyro cyflymder a ddefnyddir i atal y modur rhag cildroi Mae Cysylltydd C2 ar gyfer cychwyn Mae Cysylltydd C3 ar gyfer stopio RHYBUDD Pedair gwaith egni cinetig y llwyth yn cael ei afradloni yn y weindiadau stator Sgematig Pŵer

  7. Brêc Chwistrellu Cerrynt Uniongyrchol (DC) Mae Sgematig Pŵer angen Cerrynt Uniongyrchol (DC) ar gael ar foltedd is ee.50v Gellir cyflawni hyn gan ddefnyddio newidydd a 4 o ddeuodau Pan fod angen iddo stopio, caiff y Cerrynt Uniongyrchol (DC) ei gysylltu i ddwy o’r gweddau Yna bydd y maes stator yn sefydlogi Yna bydd y rotor yn rhedeg yn gyflymach na’r maes stator gan achosi trorym brecio mawr yn y rotor Pan fydd y rotor yn stopio nid oes mwy o frecio trorym RHYBUDD Gall brêc chwistrellu Cerrynt Uniongyrchol (DC) losgi’r weindiadau stator Bydd y gylched reoli’r un fath ag ar gyferPlwg-frecio ag amserydd, switsh allgyrchol neu relái synhwyro cyflymder Yn aml bydd gwrthdroyddion yn cynnwys y math hwn o frecio

  8. Brêc Chwistrellu Cerrynt Uniongyrchol (DC) Gall cysylltydd rhediad C2 gychwyn y modur yn yr un modd â chychwynnwr DOL Pan fydd C3 yn egnioli,chwistrellir Cerrynt Uniongyrchol (DC) i mewn i 2 wedd stator am gyfnod byr RHYBUDD Gall brêc chwistrellu Cerrynt Uniongyrchol (DC) losgi’r weindiadau stator os yw’r foltedd yn rhy uchel Sgematig Pŵer

  9. Brêc Chwistrellu Cerrynt Uniongyrchol (DC) Mae’r newidydd yn lleihau foltedd Cerrynt Eiledol AC) Mae angen ffiwsys ar wahân ar y newidydd Mae unionydd ton lawn yn trawsnewid Cerrynt Eiledol (AC) i Gerrynt Uniongyrchol (DC) Sgematig Pŵer – DC section

  10. Brêc Chwistrellu Cerrynt Uniongyrchol (DC) Bydd Cerrynt Uniongyrchol (DC) yn teithio trwy un wedd ac yn ôl i fyny trwy wedd arall Sgematig Pŵer – DC injection

  11. Brêc Chwistrellu Cerrynt Uniongyrchol (DC) Pwyswch S2 i gychwyn yn yr un modd g ar gyfer chychwynnwr DOL Pwyswch S1 i stopio yn yr un modd â DOL ond bydd C3 yn egnioli am ychydig RHYBUDD Gall brêc chwistrellu Cerrynt Uniongyrchol (DC) losgi’r weindiadau stator os yw’r amser yn rhy hir Gellir defnyddio’r gylched reoli hon ar gyfer plwg-frecio hefyd Control Circuit

  12. Gostwng cyflymder gyda gwrthdröydd Angen gwrthdröydd i rampio i lawr i sero amledd y cyflenwad i’r modur Maes stator yn symud yn fwy araf na rotor gan achosi trorym brecio Gellir cymhwyso amser gostwng cyflymder o fewn y gwrthdröydd

  13. Brecio dynamig gyda gwrthdröydd Angen i’r gwrthdröydd ganiatáu adennill yr egni cinetig sydd yn y llwyth Mae’r egni a adenillwyd yn cael ei wastraffu yng ngwrthydd RDB sy’n cael ei switsio i’r gylched gan dransistor Gwerth RDB y gwrthydd yn pennu faint o amser a gymer i stopio

  14. Brecio Atffurfiol gyda Gwrthdröydd Angen i’r gwrthdröydd ganiatáu adennill yr egni cinetig sydd yn y llwyth Egni a adenillwyd yn cael ei fwydo i mewn i’r prif gyflenwad Mae’r dull hwn yn arbed ynni ac arian

More Related